Llwybr Treftadaeth Ddiwylliannol Theatr Clwyd – Cynorthwy-ydd Ymchwil
Disgrifiad Swydd
Pwrpas y Rôl
Mae Theatr Clwyd eisiau cyflogi Ymchwilydd Cynorthwyol i gefnogi prosiect ymchwil dan arweiniad Jude Rogers, yn seiliedig ar dreftadaeth adeilad Theatr Clwyd yn Lôn Raikes, yr Wyddgrug a llunio corff o waith yn seiliedig ar yr ymchwil sy’n deillio o hynny.
Theatr Clwyd yw prif ganolfan theatr a chelfyddydau rhanbarthol Cymru, a adeiladwyd yn 1976 i ddarparu cyfleoedd diwylliannol i bobl Gogledd Cymru. Mae ein hadeilad rhestredig Gradd II yn enghraifft flaenllaw o gyfadeilad celfyddydau dinesig a adeiladwyd ar ôl y rhyfel yn y DU. Mae CADW yn ei nodi fel esiampl bwysig o’r “bwriad i ddarparu mynediad cyffredinol i’r celfyddydau fel rhan hanfodol o gyflwr egalitaraidd modern”. Mae'r rhestriad Gradd II at ddefnydd a gwerth cymunedol ac mae'n amlygu rhai agweddau treftadaeth penodol o fewn yr adeilad. Mae'r rhain yn cynnwys ffrâm paent prin; un o ddim ond llond llaw sydd ar ôl yn y DU (ac un o'r rhai mwyaf) sy'n parhau i gael ei ddefnyddio; teils acwstig wedi’u gwneud â llaw yn y prif awditoriwm, sydd â rôl swyddogaethol yn ogystal â bod yn weledol ddiddorol, a theils gwreiddiol o’r 1970au ym mhob rhan o’r adeilad (y mae defnyddwyr yr adeilad, ymwelwyr ac aelodau’r gymuned mor hoff ohonyn nhw), a’r stiwdios darlledu teledu gwreiddiol ar gyfer ITV Wales and West, oedd yn cael ei alw’n Harlech Television (HTV) – mae’r cyn-weithwyr yn dal i ymgysylltu â’r theatr.
Bydd Ymchwilydd Arweiniol, a gefnogir gan Ymchwilydd Cynorthwyol, yn casglu straeon yn ymwneud â Theatr Clwyd fel adeilad treftadaeth, gall hyn fod oherwydd eu cysylltiad hir â’r sefydliad, neu oherwydd bod ganddynt straeon personol sy’n ymwneud yn uniongyrchol â’r gofod treftadaeth y tynnwyd sylw ato uchod. Bydd yr Ymchwilwyr hefyd yn gweithio’n agos gyda’r Archifau Rhanbarthol i ganfod data ffeithiol a gwybodaeth sy’n ychwanegu lliw at rôl treftadaeth Theatr Clwyd.
Bydd yr Ymchwilwyr yn chwarae rhan allweddol wrth warchod a rhannu treftadaeth ein hadeilad rhestredig Gradd II fel y pwynt cyswllt cyntaf ar y siwrnai o wybodaeth a hygyrchedd. Mae'r swydd ymchwil hon yn un gydweithredol, gymunedol a bydd angen i'r rôl sicrhau amrywiaeth o safbwyntiau a chyrraedd yr ystod eang o gymunedau yn ein rhanbarth.
Bydd y corff o waith cydlynol, clir sy’n rhannu’r ymchwil o ganlyniad yn cael ei gyflwyno i artist neu sefydliad a fydd yn defnyddio’r straeon, y cymeriadau, a’r dystiolaeth hanesyddol i greu segmentau sain sydd wedi’u gwreiddio’n gadarn yn adeilad Theatr Clwyd ac yn defnyddio’r agweddau treftadaeth fel pwyntiau cyffwrdd corfforol sy'n cysylltu'r naratif. Bydd hwn yn dod yn Llwybr Treftadaeth Ddiwylliannol gan wneud Theatr Clwyd yn lleoliad cyrchfan. Bydd ymwelwyr yn gallu cael mynediad i’r llwybr hunan-dywys fel canllaw sain a chael eu cludo i orffennol Theatr Clwyd wrth iddyn nhw deithio drwy’r adeilad.
Amdanom ni
Mae Theatr Clwyd yn hwb diwylliannol sy'n cynhyrchu theatr o safon byd ym mryniau Gogledd Cymru. Ers 1976 rydym wedi bod yn gwasanaethu ein cymunedau ac yn darparu profiadau theatr a chelfyddydol o'r safon uchaf i bobl Gogledd Cymru a thu hwnt.
Mae ein cenhadaeth yn gynyddol bwysig i ni ym mhopeth a wnawn.
Gwneud y byd yn lle hapusach, un ennyd ar y tro.
Rydym yn ddigon ffodus i fod yn un o’r ychydig iawn o theatrau yn y DU sy’n adeiladu setiau, gwneud gwisgoedd, paentio golygfeydd a chreu props yn fewnol. Mae'r sgiliau creu theatr hanfodol yma’n sicrhau ein bod yn gallu gwthio ffiniau theatrig i greu sioeau trawiadol o hedyn yn nychymyg yr awdur. Ers 2018, mae hyn wedi cael ei gydnabod gan y diwydiant theatr gyda gwobrau UK Theatre, The Stage ac Olivier.
Mae datblygu crëwyr theatr yn ein cymuned yn allweddol i gynnal sector diwylliannol Cymru a’r DU. Mae gennym ofod ar gyfer awduron a chwmnïau sy'n plethu â phrentisiaethau technegol a chyfarwyddwyr dan hyfforddiant i greu adeilad sy'n cefnogi pobl greadigol i ddatblygu rhagoriaeth artistig.
Rydym yn defnyddio ein sgiliau fel sail i drawsnewid cymdeithasol yn ein cymunedau. Rydym yn mynd i'r afael yn greadigol â heriau cymdeithasol ac addysgol fel cyfiawnder ieuenctid gan hefyd bontio rhaniadau cymdeithasol ac economaidd. Rydym yn cydnabod yr effaith uniongyrchol a'r manteision hirdymor y gall y celfyddydau eu darparu i gynorthwyo gyda lles seicolegol a chorfforol. Rydym yn cydweithio â bwrdd iechyd mwyaf y GIG yng Nghymru a'r gwasanaethau cymdeithasol lleol i ymateb i'r heriau sy'n wynebu iechyd a gofal cymdeithasol drwy gefnogi ein cymunedau.
Mae gennym drosiant blynyddol diweddar o tua £7m ac rydym yn cael ein cyllido gan gyfuniad o Gyngor Celfyddydau Cymru, Cyngor Sir y Fflint, gwerthiant tocynnau’r swyddfa docynnau, incwm masnachol a chodi arian gan unigolion, ymddiriedolaethau a mudiadau a nawdd corfforaethol.
Disgrifiad Swydd
Teitl y Rôl - Llwybr Treftadaeth Ddiwylliannol Theatr Clwyd – Cynorthwy-ydd Ymchwil
Math o Gontract - Llawrydd
Ymrwymiad: 20 diwrnod
Ffi: £175 y dydd
Yn atebol i - Cynhyrchydd ac Ymchwilydd Arweiniol
Dyddiadau:
Cyfnod Ymchwil - Chwefor i Ebrill 2025
Cyflwyniad Llwybr Treftadaeth - Mehefin 2025
Mae’r prosiect hwn yn cael ei gyllido gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol ac Ymddiriedolaeth Theatr Clwyd Cyf.
Dyletswyddau a Chyfrifoldebau
Byddwch yn gwneud y canlynol -
- Gweithio mewn partneriaeth â'r Ymchwilydd Arweiniol.
- Gyda'ch gilydd, dyfeisio dull priodol, rhesymegol a chadarn o gofnodi eich gwaith ymchwil.
- Arwain ar hyrwyddo’r gweithgarwch gyda Thîm Marchnata a Chyfathrebu Theatr Clwyd.
- Gweithio’n agos ochr yn ochr â’r Tîm Ymgysylltu Creadigol sy’n cynnal llawer o berthnasoedd cymunedol presennol y Cwmni i nodi grwpiau ymchwil a thargedu unigolion.
- Cynnal ymweliadau priodol i ymgymryd â dyletswyddau ymchwil a mynychu cyfarfodydd cymunedol lle gellir rhannu mwy am y prosiect.
- Sefydlu a chynnal perthnasoedd gwaith da gyda phartneriaid cymunedol.
- Meithrin perthynas waith gref gyda’r Archifau Rhanbarthol a sicrhau amser priodol i chi’ch hun i ymgolli yn hanes Theatr Clwyd.
- Cynrychioli Theatr Clwyd yn y gymuned leol ac yn ehangach a gweithredu fel llysgennad treftadaeth yn Theatr Clwyd.
- Cyfrannu at flog i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r gymuned am eich gweithgarwch.
- Sicrhau bod pob gweithgaredd yn gweithredu o fewn polisïau a chanllawiau sefydliadol Theatr Clwyd.
- Datblygu'r dogfennau ymchwil ar amser i sicrhau nad yw ail gam y prosiect yn cael ei gyfaddawdu.
- Unrhyw dasgau eraill sy'n briodol i'r swydd.
Manyleb y Person
Hanfodol
- Profiad o gasglu ymchwil manwl a chofnodi canfyddiadau.
- Profiad o ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau i ymgymryd â phrosiect ymchwil a chofnodi.
- Profiad o weithio gyda phobl ar draws gwahanol gymunedau ac enw da am ddatblygu perthnasoedd gyda'r cyhoedd.
- Gwybodaeth am fyd y theatr a / neu hanes y theatr, a diddordeb ynddynt.
- Sylw i fanylder yn hanfodol.
- Y gallu i reoli baich gwaith prysur gyda nifer o flaenoriaethau.
- Wedi eich lleoli o fewn pellter cymudo i Theatr Clwyd.
- Rhaid gallu teithio, gyda thrwydded yrru lawn.
Dymunol
- Cymraeg ysgrifenedig a sgyrsiol.
- Profiad gyda phrosiectau sain
- Profiad clir o weithio o fewn y sector treftadaeth, gwybodaeth a / neu gyd-destun ymgysylltu cymunedol.
- Profiad blaenorol o weithio ar brosiect Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.
I Ymgeisio
Cyflwynwch eich CV a llythyr cyflwyno at people@theatclwyd.com yn egluro pam fod gennych ddiddordeb yn y rôl a sut rydych yn cwrdd â’r meini prawf cymhwysedd a amlinellir yn y Swydd Ddisgrifiad. Ni ddylai'r llythyr eglurhaol fod yn fwy na dwy dudalen A4. Os byddai'n well gennych, gallwch gyflwyno CV a fideo (heb fod yn fwy na 2 funud) yn lle Llythyr Cyflwyno.