Rheolwr Digwyddiadau
Disgrifiad Swydd

Mae'r Rheolwr Digwyddiadau yn gyfrifol am arwain datblygiad Theatr Clwyd fel lleoliad cynadleddau, priodasau a digwyddiadau y mae galw mawr amdano.
Math o Gontract: Parhaol
Oriau: 37 yr wythnos
Y Rôl
Cyfrifoldebau allweddol
- Lansio ein hadeilad sydd wedi’i drawsnewid o’r newydd, gan sicrhau’r buddion gorau posibl o'n cyfleusterau gwell a thynnu sylw marchnadoedd newydd a phresennol at y theatr.
- Sbarduno cynhyrchu incwm drwy wneud y defnydd gorau posibl o’r gofod, rhagoriaeth weithredol a gwasanaethau cwsmeriaid eithriadol.
- Rheoli’r gofod ar gyfer defnydd mewnol ac allanol ar gyfer digwyddiadau, datblygu prosesau a gweithdrefnau archebu effeithlon ar gyfer y ddau, rheoli calendrau a dyddiaduron, gan gydbwyso'r anghenion amrywiol am y gofod yn ofalus.
- Meithrin partneriaethau gydag asiantaethau archebu.
- Adeiladu proffil yn lleol ac o fewn y rhanbarth ehangach.
- Sicrhau bod yr holl gyfleoedd llogi lleoliad yn cael eu hadolygu a'u hasesu, ochr yn ochr â gweithgarwch wedi'i raglennu, i sicrhau’r potensial incwm gorau posibl drwy logi lleoliad ar gyfer cyfarfodydd a digwyddiadau eraill sy'n cynhyrchu incwm lle bo modd, heb wrthdaro â gweithgareddau eraill.
- Gweithio'n agos gyda thîm Bryn Williams yn Theatr Clwyd.
- Rheoli a monitro cyllidebau dirprwyedig, gan baratoi ffigurau a dadansoddiad fel
- sy’n briodol. Cynhyrchu anfonebau ac amserlenni manwl gywir ar gyfer pob digwyddiad, gan sicrhau bod pob archeb yn cael ei chadarnhau gyda'r ddogfennaeth gywir a gweithdrefnau anfonebu prydlon a bod y cleientiaid a’r cyflenwyr yn cytuno ar y telerau a’r amodau llogi.
- Dadansoddi gweithgarwch gwerthu a DPA’ion fel sail i benderfyniadau busnes.
- Gweithio gyda'r tîm marchnata i sicrhau ein bod yn manteisio ar bob cyfle i hyrwyddo
- Gweithio'n agos gyda'r Pennaeth Datblygu i gynllunio a chyflwyno digwyddiadau a gweithgareddau ar gyfer noddwyr, aelodau corfforaethol, a chefnogwyr eraill.
Y Person
- Profiad sylweddol yn y diwydiant digwyddiadau, yn ddelfrydol fel cynllunydd neu reolwr digwyddiadau - ystyrir profiad llawrydd hefyd.
- Profiad o reoli a gwerthu gofod i'w logi'n gorfforaethol neu breifat a digwyddiadau.
- Rheoli cyllideb / rheolaeth ariannol.
- Canlyniadau clir wrth gynllunio neu arwain digwyddiadau llwyddiannus a phroffidiol.
- Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu eithriadol – ‘person pobl’ go iawn sy’n hapus i siarad ag unrhyw un a phawb.
- Gwych am gwblhau sawl tasg ar yr un pryd gyda phrofiad o jyglo nifer o brosiectau a therfynau amser.
- Brwdfrydedd clir dros theatr fyw ac adloniant, a thros ddarparu gwasanaeth rhagorol.
- Sgiliau TG rhagorol gan gynnwys Outlook, Word ac Excel.

Apply for the role, in English / Gwnewch gais am y rôl
PLEASE NOTE: By clicking on this link, you will automatically be redirected to a new webpage, where you will find the full Job Description and you can complete an online application to be considered for this role.
SYLWCH: Trwy glicio ar y ddolen hon, byddwch yn cael eich ailgyfeirio’n awtomatig i dudalen we newydd, lle byddwch yn dod o hyd i’r Disgrifiad Swydd lawn a gallwch gwblhau cais ar-lein i gael eich ystyried ar gyfer y rôl hon.