Rheolwr Gwisgoedd A Wigiau
Disgrifiad Swydd

Rydym yn chwilio am Reolwr Gwisgoedd a Wigiau profiadol i arwain ein tîm Gwisgoedd a gweithio gyda dylunwyr i wireddu eu dyluniadau gwisgoedd ar y llwyfan. Mae hon yn rôl annatod o fewn y teulu Creu Theatr ac yn gyfrifol am ddarparu, cyflwyno a chynnal a chadw gwisgoedd, esgidiau, ategolion, a wigiau, gwallt a cholur. Bydd y Rheolwr yn ymwneud â holl gynyrchiadau, prosiectau, digwyddiadau, cynhyrchu a theithio Theatr Clwyd.
Math o Gontract: Parhaol
Oriau: 37 yr wythnos
Y Rôl
Mae’r Rheolwr Gwisgoedd a Wigiau yn gyfrifol am reoli swyddogaeth a thîm creu gwisgoedd Theatr Clwyd. Bydd yn defnyddio lefelau sylweddol o wybodaeth a phrofiad arbenigol i gefnogi’r Pennaeth Cynhyrchu i ddarparu’r gwasanaeth gorau posibl i gynyrchiadau Theatr Clwyd.
Cyfrifoldebau Allweddol
- Arwain ac uno'r tîm Gwisgoedd a bod yn gyfrifol am yr holl weinyddiaeth adrannol gan sicrhau bod y personél yn gweithio'n gydlynol yn y theatr.
- Mae’r Rheolwr Gwisgoedd a Wigiau’n gyfrifol am ddarparu, cyflwyno a chynnal a chadw’r gwisgoedd ar gyfer holl gynyrchiadau, prosiectau, digwyddiadau, cynhyrchu a theithio Theatr Clwyd.
- Cymell ac arwain y tîm Gwisgoedd drwy esiampl, drwy gynnal y safon uchaf o ran cyflwyniad, gan arddangos agwedd gadarnhaol, delio'n brydlon ac yn broffesiynol ag unrhyw geisiadau a darparu gwasanaeth cwsmer rhagorol i bob artist, cwmni ac aelod o'r cyhoedd sy'n ymweld yn ôl yr angen.
- Rheoli gweithrediad effeithlon o ddydd i ddydd holl Adran Gwisgoedd Theatr Clwyd a WHAM, gan gynllunio defnydd effeithiol o staff mewnol ac achlysurol i gefnogi gweithgareddau’r theatr.
Y Person
- Gradd neu gymhwyster cyfatebol, neu hyfforddiant / profiad sylweddol, mewn maes perthnasol fel Creu Gwisgoedd, Cynllunio Gwisgoedd, Ffasiwn.
- Profiad clir o weithio mewn adran Gwisgoedd / Wardrob gyda phrofiad cadarn, clir o oruchwylio / rheoli tîm.
- Profiad sylweddol fel Goruchwylydd Gwisgoedd.
- Gwybodaeth fanwl am ffabrigau, torri patrymau a dulliau modern a thraddodiadol o greu gwisgoedd.
- Y gallu i ddehongli a gwireddu cynlluniau gwisgoedd.
- Profiad clir o reoli cynhyrchu a rhedeg timau gwisgoedd.
- Profiad clir o reolaeth ariannol.
- Sgiliau rheoli prosiect ardderchog, gyda'r gallu i reoli tasgau lluosog a gweithio dan bwysau.
- Sgiliau cyfathrebu rhagorol.
- Sgiliau TG da gan gynnwys bod yn gyfarwydd â Microsoft Office.
- Y gallu i weithio oriau hyblyg ac anghymdeithasol gan gynnwys gyda'r nos ac ar benwythnosau.
- Ymrwymiad i ragoriaeth artistig.

Apply for the role, in English / Gwnewch gais am y rôl
PLEASE NOTE: By clicking on this link, you will automatically be redirected to a new webpage, where you will find the full Job Description and you can complete an online application to be considered for this role.
SYLWCH: Trwy glicio ar y ddolen hon, byddwch yn cael eich ailgyfeirio’n awtomatig i dudalen we newydd, lle byddwch yn dod o hyd i’r Disgrifiad Swydd lawn a gallwch gwblhau cais ar-lein i gael eich ystyried ar gyfer y rôl hon.