Rheolwr Profiad Ymwelwyr
Disgrifiad Swydd

Cefnogi'r Uwch Reolwr Profiad i sicrhau bod Theatr Clwyd a Neuadd William Aston yn rhedeg yn esmwyth. Bydd y Rheolwr Profiad Ymwelwyr yn sicrhau bod y theatr yn cael ei gweithredu’n effeithlon, yn cyfrannu at ddatblygu a chyflawni amcanion busnes allweddol, gan atgyfnerthu Theatr Clwyd a Neuadd William Aston fel cyrchfannau lle mae Gwesteion yn derbyn gwasanaeth o’r radd flaenaf.
Math o Gontract: Parhaol
Oriau: 37 yr wythnos
Y Rôl
Cyfrifoldebau Allweddol
- Rheoli'r gwasanaeth gweithredol rheng flaen yn Theatr Clwyd a Neuadd William Aston, gan sicrhau safonau rheoli perfformiad trwyadl a thrwy hynny sicrhau'r elw masnachol mwyaf yn unol â thargedau'r cynllun busnes.
- Goruchwylio'r broses o recriwtio a datblygu'r Tîm Profiad rheng flaen i sicrhau bod gan holl Aelodau'r Cwmni agwedd hyblyg a chyfeillgar a'u bod yn teimlo'n rhan o'r sefydliad.
- Annog cymryd risgiau, gwaith caled a meddwl yn greadigol a hyrwyddo diwylliant cadarnhaol a chefnogol sy'n canolbwyntio ar les.
- Cynnal sesiwn briffio dyddiol o'r gweithgareddau sy'n digwydd yn yr adeilad i dimau'r bore a'r prynhawn.
- Gweithredu fel Dirprwy Reolwr Profiad ar rai shifftiau dydd a nos. Yn ystod shifftiau pryd mae perfformiad, cysylltu â staff cynhyrchu i reoli perfformiadau’r lleoliad. Bod yn gyfrifol am les a diogelwch y gynulleidfa, goruchwylio cyfrif yr arian, rheoli’r tîm Profiad a chloi’r adeilad.
- Gweithio gyda'r Uwch Reolwr Profiad ar bob cydymffurfiaeth â'r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd gan sicrhau ein bod yn lleoliad hygyrch.
- Sicrhau bod ymwelwyr ag anghenion ychwanegol neu ofynion mynediad yn cael eu croesawu i'n hadeilad hygyrch.
- Gyda'r Uwch Reolwr Profiad, gweithredu cynigion diodydd a byrbrydau newydd arloesol sy'n cynnwys gwasanaeth bar yn Neuadd William Aston.
- Gweithio gyda'r Rheolwr Digwyddiadau i sicrhau bod digwyddiadau’n rhedeg yn esmwyth.
- Arwain ar ddatblygu a chyfathrebu hunaniaeth unigryw ar gyfer gwirfoddoli yn Theatr Clwyd a Neuadd William Aston.
Y Person
- Sgiliau arwain tîm hyderus a llawn cymhelliant, gyda phrofiad o reoli pobl a materion o ddydd i ddydd cysylltiedig.
- Profiad o reoli tîm mawr.
- Profiad o reoli cyllidebau refeniw a gwariant.
- Profiad clir o ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid o ansawdd uchel.
- Y gallu i greu amgylchedd croesawgar ar gyfer ystod amrywiol o ddefnyddwyr adeiladau.
- Gwybodaeth am ddeddfwriaeth Iechyd a Diogelwch.
- Gwybodaeth am ddeddfwriaeth diodydd ac arfer gorau.
- Sgiliau rhifedd cadarn.

Apply for the role, in English / Gwnewch gais am y rôl
PLEASE NOTE: By clicking on this link, you will automatically be redirected to a new webpage, where you will find the full Job Description and you can complete an online application to be considered for this role.
SYLWCH: Trwy glicio ar y ddolen hon, byddwch yn cael eich ailgyfeirio’n awtomatig i dudalen we newydd, lle byddwch yn dod o hyd i’r Disgrifiad Swydd lawn a gallwch gwblhau cais ar-lein i gael eich ystyried ar gyfer y rôl hon.