Swyddog Pobl
Disgrifiad Swydd

Mae gennym gyfle cyffrous ar gyfer Swyddog Pobl a fydd yn gweithio ochr yn ochr â’r Pennaeth Pobl. Chi fydd y cyswllt cyntaf ar gyfer rhoi cyngor i’n Cwmni a'n rheolwyr am bobl. Un o ofynion y rôl hon fydd sicrhau bod yr holl dasgau gweinyddol sy’n ymwneud â’r swyddogaeth pobl yn eu lle. Gyda gweithrediad ein HRIS newydd rydym yn edrych i awtomeiddio cymaint o’r prosesau hyn ag y bo modd, a chewch eich annog a’ch cefnogi i wneud hyn. Byddwch yn cael y cyfle i ddod i gysylltiad â chylch gorchwyl llawn swyddogaeth Pobl o fewn y cwmni. Cewch eich mentora i ddatblygu eich gyrfa ac adeiladu ar sylfaen wych mewn rôl swyddog Pobl a’i ddatblygu.
Math o Gontract: Parhaol
Oriau: 37 yr wythnos
Y Rôl
Cefnogi’r Pennaeth Pobl a’r Rheolwyr Pobl gydag amrywiaeth o weithgareddau Adnoddau Dynol, gan gynnwys dehongli a defnyddio polisïau a gweithdrefnau pobl, telerau ac amodau cyflogaeth, cysylltiadau cyflogeion, rheoli presenoldeb a recriwtio a chadw. Chi fydd y stop cyntaf am gyngor sy'n ymwneud â phobl ar gyfer ein tîm ni a'n rheolwyr. Sicrhau bod yr holl dasgau gweinyddol sy'n ymwneud â'r swyddogaeth pobl yn eu lle. Cefnogaeth gyda chyflwyno mentrau Datblygu Sefydliadol, dysgu a datblygu, gwerthuso swyddi a datblygu ac adolygu polisïau Adnoddau Dynol.
Cyfrifoldebau Allweddol
- Rheoli’r gwaith o weinyddu cylch bywyd llawn aelod cwmni gan gynnwys recriwtio, ymuno, dysgu a datblygu, rheoli perfformiad a chysylltiadau cyflogeion.
- Darparu cyngor, arweiniad a chefnogaeth gyffredinol i bob rheolwr / aelod cwmni gydag ymholiadau pobl a allai gynnwys dehongli polisïau a gweithdrefnau, telerau ac amodau a materion cyflogaeth fel disgyblaeth, cwynion a rheoli absenoldeb.
- Cadw cofnodion Adnoddau Dynol a diweddaru dogfennau Pobl allweddol.
- Cefnogi croesawu aelodau newydd y cwmni a’u helpu i sefydlu.
- Cydlynu'r broses ymuno a gadael.
- Cefnogi'r Pennaeth Pobl gydag amrywiaeth o weithgareddau Adnoddau Dynol yn ymwneud ag ymddygiad, gallu, presenoldeb, rheoli perfformiad cyffredinol a chwynion.
- Rhoi sylw i bryderon aelodau’r cwmni, rheoli gwrthdaro, hwyluso cyfathrebu rhwng rheolwyr ac aelodau cwmni, hyrwyddo diwylliant cadarnhaol yn y gweithle.
- Cyflwyno a / neu gydlynu rhaglenni dysgu a datblygu ar gyfer aelodau'r cwmni ar bolisïau'r cwmni, gweithdrefnau diogelwch, a phynciau perthnasol eraill.
Y Person
- CIPD Lefel 3 neu gyfatebol.
- Profiad clir o weithio mewn swyddogaeth Adnoddau Dynol; gan gynnwys recriwtio, ymuno, dysgu a datblygu a chysylltiadau cyflogeion.
- Sgiliau trefnu, cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol.
- Gallu cryf i ddatrys problemau a datrys gwrthdaro.
- Hyfedredd gyda Systemau Rheoli Adnoddau Dynol (HRIS).
- Gwybodaeth ymarferol a dealltwriaeth o gyfraith cyflogaeth gyfredol ac arfer gorau Adnoddau Dynol.
- Y gallu i weithredu gyda doethineb, diplomyddiaeth a chyfrinachedd ac ymdrin yn briodol â gwybodaeth gyfrinachol a sensitif.
- Ymrwymiad personol a phroffesiynol i gyfleoedd cyfartal ac amrywiaeth.

Apply for the role, in English / Gwnewch gais am y rôl
PLEASE NOTE: By clicking on this link, you will automatically be redirected to a new webpage, where you will find the full Job Description and you can complete an online application to be considered for this role.
SYLWCH: Trwy glicio ar y ddolen hon, byddwch yn cael eich ailgyfeirio’n awtomatig i dudalen we newydd, lle byddwch yn dod o hyd i’r Disgrifiad Swydd lawn a gallwch gwblhau cais ar-lein i gael eich ystyried ar gyfer y rôl hon.