Swyddog y Ddesg Groeso
Disgrifiad Swydd

Mae Swyddog y Ddesg Groeso yn gweithio i gefnogi'r tîm gweithredol i roi argraff gyntaf groesawgar a chadarnhaol wrth y Ddesg Groeso. Mae’n gyfrifol am ymdrin ag ymholiadau am docynnau, darparu gwybodaeth a chefnogi'r gwaith o redeg y lleoliadau manwerthu yn effeithiol. Mae’n gweithredu’n rhagweithiol gyda ffocws ar y gwesteion ac yn sicrhau’r gwasanaeth, y cyflwyniad a’r proffidioldeb gorau posib, a datblygiad parhaus y theatr.
Math o Gontract: Parhaol
Oriau: Oriau rhan amser amrywiol ar gael
Y Rôl
Cyfrifoldebau allweddol
- Yn unol â gweithdrefnau a pholisïau Theatr Clwyd, cyfrannu at redeg y lleoliadau manwerthu yn effeithlon.
- Cynnal y safonau uchaf o ofal a gwasanaeth Gwesteion wrth fod yn Swyddog Desg Groeso gweladwy a hygyrch i Westeion ledled y theatr, er mwyn meithrin perthnasoedd da a darparu cefnogaeth, cyngor a chymorth gan hefyd sicrhau safonau gwasanaeth rhagorol.
- Cymryd archebion tocynnau a delio ag ymholiadau cyffredinol gan Westeion.
- Helpu Gwesteion gyda chwestiynau am archebion yn y bwyty.
- Cyfarch a gweini ar Westeion yn y Siop Anrhegion a'r caffi.
- Sicrhau’r wybodaeth ddiweddaraf am berfformiadau, dangosiadau, gweithdai, achlysuron a digwyddiadau cyfredol a’r rhai sydd i ddod er mwyn rhannu gwybodaeth fanwl gywir a helpu Gwesteion i ddod o hyd i'r gofod sydd arnyn nhw ei angen yn ein hadeilad.
- Gweithredu'r til a thrin cardiau a derbyniadau arian parod o fewn gweithdrefnau priodol.
- Clirio a glanhau byrddau ynghyd â glanhau cyffredinol yn yr ardaloedd gwasanaethu.
- Cael gwared ar sbwriel, ei roi mewn bag a mynd ag ef i gynwysyddion priodol.
- Sicrhau bod lefelau stoc digonol yn cael eu cynnal yn y mannau gwerthu, gan gynnwys cylchdroi stoc a chofnodi stoc yn fanwl gywir.
- Derbyn cyflenwadau a gwirio eitemau i sicrhau bod yr holl eitemau wedi cyrraedd.
- Cysylltu ag Aelodau'r Cwmni o'r tîm ehangach pan fo hynny'n berthnasol.
- Helpu i gadw cofnodion rheoli stoc cyfredol a manwl gywir drwy gofnodi gwastraff a thoriadau.
Y Person
Hanfodol
- Profiad o weithio mewn rôl sydd â’i ffocws ar gwsmeriaid mewn amgylchedd tebyg.
- Y gallu i ddarparu gwasanaeth Gwesteion o ansawdd uchel a'r gallu i ryngweithio â Gwesteion mewn ffordd broffesiynol, gwrtais a chadarnhaol.
- Y gallu i ddilyn cyfarwyddiadau a chyflawni tasgau wedi’u dirprwyo’n fanwl gywir ac yn effeithiol, ac o fewn terfynau amser penodol.
- Y gallu i ddysgu a deall rheolau hylendid bwyd sylfaenol a chanllawiau Iechyd a Diogelwch.
- Y gallu i greu amgylchedd croesawgar ar gyfer ystod amrywiol o ddefnyddwyr yr adeilad.
- Parodrwydd i weithio oriau hyblyg gan gynnwys gyda'r nosau, penwythnosau a gwyliau.
- Sgiliau rhifedd a thrin arian cadarn.

Gwnewch gais am y rôl
SYLWCH: Trwy glicio ar y ddolen hon, byddwch yn cael eich ailgyfeirio’n awtomatig i dudalen wê newydd, lle cewch uwchlwytho eich CV er mwyn cael eich ystyried ar gyfer y rôl hon.