Technegydd Goleuo
Disgrifiad Swydd

Mae Theatr Clwyd yn chwilio am Dechnegydd Goleuo profiadol, gyda sgiliau mewn rigio, ffocysu a’r gwneuthuriad o drydan set, i fod yn rhan o’r tîm Goleuo. Gydag arbenigedd mewn hwyluso pob gofynion goleuo, mae’r tîm yn darparu gwasanaeth i gynyrchiadau Theatr Clwyd o’r safon uchaf bosib, gan weithio yn ein gofodau theatr sydd newydd gael eu hadnewyddu.
Math o Gontract: Parhaol
Oriau: 37 yr wythnos
Y Rôl
Bydd y Technegydd Goleuo yn gweithio fel rhan o’r tîm goleuo i ddarparu gwasanaeth sydd o’r safon uchaf bosibl i holl gynyrchiadau Theatr Clwyd a chynyrchiadau sy’n ymweld. Mae'r rôl yn gofyn am lefel dda o wybodaeth am oleuo o fewn cyd-destun creu theatr a sgiliau ymarferol cadarn. Mae ein Teulu Creu Theatr yn darparu cyfleusterau creu theatr o safon byd ac mae’r Technegydd Goleuo’n cefnogi ein gwaith cynhyrchu, yn ogystal â chefnogi’r cwmnïau sy’n ymweld rydym yn eu gwahodd i’n hadeilad.
Cyfrifoldebau Allweddol
- Darparu cefnogaeth gyda holl ofynion Goleuo cynyrchiadau Theatr Clwyd, a gweithio gydag aelodau’r tîm creadigol i sicrhau bod cefnogaeth dechnegol mewn goleuo yn cael ei rhagweld a’i darparu ar gyfer holl waith Theatr Clwyd, y tu mewn a’r tu allan i’r adeilad, gan gynnwys cefnogi tîm Technegol y Lleoliad ar gyfer cynyrchiadau sy’n ymweld a digwyddiadau.
- Ymgymryd â gwaith ymarferol mewn perthynas â gwneud gofynion LX penodol ar gyfer cynyrchiadau Theatr Clwyd, gan gynnwys gwaith trydanol setiau ac unrhyw LX ymarferol yn yr adran props / gwisgoedd.
- Ymgymryd â gwaith ymarferol mewn perthynas â dod i mewn, ffitiadau, datgymalu a mynd allan, gan gynnwys cydosod, rigio, addasu a defnyddio offer goleuo, effeithiau arbennig (gan gynnwys gwaith trydanol setiau) ac unrhyw brops LX ymarferol ac ati.
- Darparu cefnogaeth goleuo a thechnegol i holl ddefnyddwyr y theatr ac unrhyw ofod ymarfer.
- Darparu cefnogaeth goleuo a thechnegol yn ystod perfformiadau yn ôl yr angen.
- Gosod unrhyw offer technegol sydd ei angen ar gyfer gofod perfformio neu ddigwyddiadau.
- Lle bo angen, darparu cymorth technegol i ddefnyddwyr allanol.
- Bod yn gyfrifol am agor a chau’r ardaloedd cefn llwyfan pan fo angen.
- Gyda'r Technegwyr eraill, cynnal a chadw'r ardaloedd cefn llwyfan yn gyffredinol, gan gynnwys y llwyfan, y bocsys rheoli golau a sain, y gweithdy LX a’r mannau storio, gan sicrhau eu bod yn cael eu cadw'n lân ac yn daclus ac yn cael eu cynnal a'u cadw'n dda bob amser.
Y Person
- Profiad ymarferol perthnasol o weithio mewn lleoliad neu adran dechnegol theatr, neu gwmni teithiol neu debyg, neu gymhwyster cydnabyddedig priodol.
- Profiad o rigio, addasu, rhaglennu a gweithredu goleuadau theatrig, dosbarthu pŵer, a dealltwriaeth ymarferol o drydan a / neu electroneg.
- Gwybodaeth am theori ac ymarfer trydanol yn ymwneud â systemau goleuo theatr.
- Gwybodaeth gyfredol am systemau goleuo, cyfarpar rheoli, offer a'r gwaith o'u cynnal a'u cadw.
- Gwybodaeth ymarferol am ddulliau rigio a'r defnydd diogel o offer codi.
- Gallu clir i ddarllen a deall cynlluniau technegol, gyda gwybodaeth am CAD a rhaglenni eraill.
- Sgiliau rhyngbersonol rhagorol, gyda'r gallu i gyfathrebu'n glir ac yn gyson â holl ddefnyddwyr y theatr a’r gofod digwyddiadau, yn enwedig defnyddwyr nad ydynt yn dechnegol.
- Y gallu i ddefnyddio ystod eang o gelfi pŵer cludadwy ac offer llaw yn ddiogel ac yn hyderus.
- Dull trefnus o weithio, gydag enw da am gadw at derfynau amser a rheoli blaenoriaethau sy'n gwrthdaro.
- Profiad o weithredu gofynion Iechyd a Diogelwch ac asesiadau risg.
- Profiad codi a chario diogel, ac yn fodlon gweithio ar uchder.
- Hyder i weithio'n annibynnol ond hefyd parodrwydd i gydweithio ar draws nifer o adrannau.
- Y gallu i weithio oriau hyblyg ac anghymdeithasol, gan gynnwys gyda'r nosau, penwythnosau a gwyliau banc.

Apply for the role, in English / Gwnewch gais am y rôl
PLEASE NOTE: By clicking on this link, you will automatically be redirected to a new webpage, where you will find the full Job Description and you can complete an online application to be considered for this role.
SYLWCH: Trwy glicio ar y ddolen hon, byddwch yn cael eich ailgyfeirio’n awtomatig i dudalen we newydd, lle byddwch yn dod o hyd i’r Disgrifiad Swydd lawn a gallwch gwblhau cais ar-lein i gael eich ystyried ar gyfer y rôl hon.