Y Broses Recriwtio

Manteision i Aelodau'r Cwmni

  • Tocynnau am ddim ar gyfer sioeau a digwyddiadau Theatr Clwyd, yn amodol ar argaeledd a pholisi
  • Gostyngiadau ym mar, caffi a siop anrhegion y theatr
  • Cynllun pensiwn gyda NEST
  • 32 diwrnod o wyliau blynyddol (gan gynnwys gwyliau banc), pro rata, gan gynyddu gyda hyd gwasanaeth
  • Rhaglen Lesiant fewnol
  • Mynediad at Iechyd Galwedigaethol
  • Rydym hefyd yn aelod o’r sefydliad Rhieni a Gofalwyr yn y Celfyddydau Perfformio (PiPA)

Cyfleoedd Cyfartal

Rydym eisiau i'n cwmni fod yn gynrychioliadol o bob rhan o gymdeithas a chroesawu ceisiadau gan bawb.

Credwn fod amrywiaeth yn ymwneud â dathlu a gwerthfawrogi unigolion. Mae gennym ddull cyfle cyfartal o weithredu ac rydym yn anelu at roi cyfle i bawb gyflawni eu potensial.

Byddem yn ddiolchgar pe gallech gwblhau ein harolwg Cyfleoedd Cyfartal.

Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi ym mha ffordd bynnag sy'n teimlo fwyaf priodol i chi.

Os hoffech gael mynediad i'r pecyn cais hwn neu gyflwyno'ch cais mewn fformat arall, byddem yn hapus i siarad â chi am eich anghenion.

Cysylltwch â ni ar 01352 344101 neu people@theatrclwyd.com i drafod ymhellach

Mae Theatr Clwyd yn cydnabod bod y gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg yn sgil bwysig a gwerthfawr yn y gweithle ac mae wedi ymrwymo i gynyddu nifer ei chyflogeion dwyieithog. Rydym yn croesawu ceisiadau am unrhyw swydd gan ymgeiswyr sy'n gallu gweithio yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Byddwn yn cysylltu â phob ymgeisydd aflwyddiannus i ddweud wrthynt nad ydynt wedi cyrraedd y rhestr fer i'w cyfweld.

Gwneir pob penodiad yn amodol ar eirdaon boddhaol a thystiolaeth o gymhwysedd i weithio yn y DU.