Enwi Sedd
Fel tywysydd gwirfoddol ers chwe blynedd, un o rannau gorau’r rôl yw gwylio ymateb aelodau’r gynulleidfa. Rydw i wedi cyfrannu at yr ymgyrch enwi sedd i gefnogi Theatr Clwyd ac i sicrhau bod cynulleidfaoedd yn cael chwerthin a chrïo am yr anturiaethau ar y llwyfan am genedlaethau i ddod.Elaine, Hebryngwr Gwirfoddol
Mae'r ailddatblygu wedi dechrau yn Theatr Clwyd ac mae'r seddi wedi dod yn rhan o'r stori. Nawr yw’r amser i enwi un o’r seddi yn ein theatrau a’n sinema hoff, nid yn unig i ddod yn rhan o hanes Theatr Clwyd ond hefyd i’w diogelu am genedlaethau i ddod.
Fel arwydd o ddiolch gallwn osod plac ar sedd yn eich enw chi neu er cof am rywun annwyl, ond mae’n well i chi fod yn gyflym, rydyn ni wedi ein cyfyngu i ddim ond un plac fesul sedd.
Theatr Emlyn Williams
£100
ThEW yw ein gofod mwyaf hyblyg ac mae’n gartref i ysgrifennu newydd a’n gwaith mwyaf arbrofol, gan gynnwys ein cynhyrchiad sydd wedi ennill Gwobr Olivier, Home, I’m Darling. Yn ystod y gwaith ailddatblygu bydd ein stiwdio yn cael ei hailwampio'n dechnegol, gan osod mecanweithiau ar gyfer golygfeydd hedfan yn y gofod am y tro cyntaf!
Byddwch yn rhan o hanes a rhowch eich enw ar gefn sedd wreiddiol o’r 1970au, a fydd yn cael ei hailglustogi a’i hadnewyddu lle bo angen a bydd seddi balconi newydd yn cael eu comisiynu i gyd-fynd.
Theatr Anthony Hopkins
Yn anffodus, mae pob un o’r seddi yn ein prif theatr ni wedi’u henwi!
Mae ThAH yn gartref i rai o’n cynyrchiadau mwyaf, ond mae angen ei hailwampio’n dechnegol ac yn fecanyddol i sicrhau y gallwn barhau i ddarparu profiadau theatrig o’r safon uchaf bosibl.
Bydd ein seddi blinedig a blêr yn cael eu newid am seddi newydd mwy cyfforddus ond yn cadw'r olygfa wych o'r llwyfan.
Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu. Os hoffech chi enwi sedd o hyd, mae gennym ni ddigon ar gael yn ein hail theatr. E-bostiwch lily.peers-dent@theatrclwyd.com neu ffonio 01352 609143 os oes gennych chi unrhyw gwestiynau.
Sinema Theatr Clwyd
£50
Dim ond llond llaw o seddi sinema sydd gennym ni ar gael. Cysylltwch â Lily Peers-Dent, lily.peers-dent@theatrclwyd.com os hoffech chi enwi un.
Mae'r gofod bwtîc yma’n cael ei drawsnewid i wella profiad yr ymwelydd ond bydd y seddi cyfforddus hyn yn dod yn seren y sioe gan y bydd newid bach i'r sgrin yn gwella’r llinellau gweld.
Fel arwydd o ddiolch am eich cefnogaeth i ailddatblygiad Theatr Clwyd byddwn hefyd yn eich gwahodd i ymarfer technegol o’n pantomeim – cyfle i weld creu theatr fel mae’n digwydd!
Cwestiynau Cyffredin
A allaf gyfrannu at yr ymgyrch enwi sedd mewn rhandaliadau?
Gallwch. Rydyn ni’n cynnig opsiwn cyfrannu misol. I gael rhagor o wybodaeth am sut gallwch chi gyfrannu’n fisol i gefnogi’r ymgyrch cysylltwch â Janine.dwan@theatclwyd.com neu 01352 406916.
Am ba mor hir fydd fy enw ar y sedd?
Bydd eich plac yn aros yn ei le am oes y sedd, hyd at 25 mlynedd. Bydd eich plac yn gydnabyddiaeth o’r gefnogaeth rydych chi wedi’i rhoi i Theatr Clwyd i sicrhau bod cenedlaethau’r dyfodol hefyd yn cael mwynhau cynyrchiadau gwych yn ein theatrau a’n sinema.
Sut gallaf enwi mwy nag un sedd ar-lein?
Os hoffech chi enwi mwy nag un sedd, golygwch swm y rhodd pan fyddwch yn talu.
A allwch chi warantu y byddaf yn cael fy enw ar sedd benodol?
Byddwn yn gwneud ein gorau glas i sicrhau bod eich enw yn cael ei roi ar y sedd o’ch dewis chi yn ThAH a’r sinema, fodd bynnag mae hwn yn ailddatblygiad byw a gallai cynlluniau’r seddi newid. Mae ThEW yn ofod hyblyg ac o ganlyniad efallai y bydd y sedd gyda'ch enw arni mewn lleoliad gwahanol bob tro y byddwch yn ymweld!
A fyddaf yn cael eistedd ar y sedd gyda fy enw arni bob amser?
Os rhoddir digon o rybudd byddwn yn gwneud ein gorau i sicrhau y gallwch eistedd ar y sedd gyda'ch enw arni pan fyddwch yn ymweld â ThAH a'r sinema. Ni fydd rhai seddi yn ThAH a ThEW ar gael yn ystod rhai perfformiadau oherwydd natur y gofod. Ni fydd hyn yn bosibl yn ThEW gan ei fod yn ofod hyblyg gyda seddi mewn trefn wahanol yn ystod sioeau gwahanol. Ni fydd rhai seddi yn ThAH a ThEW ar gael yn ystod rhai perfformiadau oherwydd natur y gofod a gofynion penodol sioeau unigol.
A allaf ychwanegu brawddeg at fy mhlac?
Gallwn gynnig seddi yn eich enw chi neu er cof am rywun annwyl. Am resymau treth a rhodd chymorth ni allwn gynnig rhagor o destun na dyfyniadau unigryw. I gadarnhau’r testun yr hoffech ei drawsgrifio ar eich plac cysylltwch â Janine Dwan, Janine.dwan@theatclwyd.com neu 01352 406916.
Sut byddaf yn rhoi gwybod i chi am yr enw rydw i ei eisiau ar fy mhlac a'r sedd rydw i'n ei ffafrio?
Os byddwch yn cyfrannu ar-lein byddwn yn anfon e-bost atoch chi gyda ffurflen i'w llenwi y diwrnod canlynol. Os oes gennych chi sedd rydych chi'n ei ffafrio, cysylltwch â Janine Dwan, Janine.dwan@theatclwyd.com neu 01352 406916.
A fydd y lleoliadau theatr a sinema yn hygyrch?
Bydd y theatr wedi ei hailddatblygu o'r newydd yn gwbl hygyrch yn y mannau cyhoeddus a'r ardaloedd cefn llwyfan.
Yn Theatr Anthony Hopkins bydd mynediad heb risiau i'r ddwy res D ac E a Q gyda llefydd i gadeiriau olwyn a seddi cyfeillion ar gael. Bydd gan Theatr Emlyn Williams fynediad heb risiau a llefydd i gadeiriau olwyn gan gynnwys, am y tro cyntaf, lle i gadeiriau olwyn ar y balconi y gellir ei gyrraedd drwy un o'r tair lifft newydd yn yr adeilad. Bydd y sinema yn cael lifft newydd sbon i'w gwneud yn fwy hygyrch a bydd yn cadw'r llefydd gwreiddiol i gadeiriau olwyn a seddi i gyfeillion.