Cymerwch sedd – Cais olaf!

Enwch sedd cyn iddyn nhw i gyd fynd, dim ond 100 sedd sydd ar ôl yn ein hail ofod theatr ni. Gyda 700 o seddi wedi eu gwerthu eisoes, dyma eich cyfle chi i fod yn rhan o gast o 800 o gefnogwyr*

(Mae pob in o'r seddi ein prif theatr a sinema ni weddi'u henwi!)

Mae ein hail theatr ni yn ofod hyblyg lle mae’r seddi’n unigryw o sioe i sioe. Mae’n gartref i ysgrifennu newydd a’n gwaith mwyaf arbrofol ni, gan gynnwys ein cynhyrchiad ni sydd wedi ennill Gwobr Olivier, Home, I’m Darling. Yn ystod yr ailddatblygiad bydd ein stiwdio ni’n cael ei hailwampio'n dechnegol, gan osod mecanweithiau ar gyfer golygfeydd hedfan o fewn y gofod am y tro cyntaf!

Os ydych chi eisiau gwybod mwy am sut mae'r gwaith adeiladu yn mynd, cliciwch yma.

*800 sedd wedi eu henwi ar draws ein 3 awditoriwm

Donation


Bydd eich sedd chi’n symud o gwmpas ac yn newid yn dibynnu ar y sioe ac weithiau bydd y seddi'n cael eu tynnu i greu perfformiad mwy agos atoch chi. Dyma rai enghreifftiau o'r patrymau seddi sydd wedi cael eu defnyddio yn ystod y blynyddoedd diwethaf:


Donation

Os hoffech chi enwi mwy nag un sedd, cliciwch ar y botwm cyfrannu eto nes bod y nifer o seddi rydych chi eu heisiau yn ymddangos yn eich basged.

Unwaith y byddwch chi wedi gwneud eich cyfraniad, rhowch wybod i ni beth hoffech chi i'r cyflwyniad ei ddweud drwy'r ddolen yn eich e-bost diolch.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am enwi sedd, e-bostiwch lily.peers-dent@theatrclwyd.com neu ffoniwch 01352 609143. Opsiynau talu misol ar gael.


Cwestiynau Cyffredin

A allaf gyfrannu at yr ymgyrch enwi sedd mewn rhandaliadau?

Gallwch. Rydyn ni’n cynnig opsiwn cyfrannu misol. I gael rhagor o wybodaeth am sut gallwch chi gyfrannu’n fisol i gefnogi’r ymgyrch cysylltwch â Lily Peers-Dent, Lily.peers-dent@theatrclwyd.com neu 01352 609143.

Am ba mor hir fydd fy enw ar y sedd?

Bydd eich plac yn aros yn ei le am oes y sedd, hyd at 25 mlynedd. Bydd eich plac yn gydnabyddiaeth o’r gefnogaeth rydych chi wedi’i rhoi i Theatr Clwyd i sicrhau bod cenedlaethau’r dyfodol hefyd yn cael mwynhau cynyrchiadau gwych yn ein theatrau a’n sinema.

Sut gallaf enwi mwy nag un sedd ar-lein?

Os hoffech chi enwi mwy nag un sedd, golygwch swm y rhodd pan fyddwch yn talu.

A allwch chi warantu y byddaf yn cael fy enw ar sedd benodol?

Byddwn yn gwneud ein gorau glas i sicrhau bod eich enw yn cael ei roi ar y sedd o’ch dewis chi yn Prif Theatr a’r sinema, fodd bynnag mae hwn yn ailddatblygiad byw a gallai cynlluniau’r seddi newid. Mae haif theatr yn ofod hyblyg ac o ganlyniad efallai y bydd y sedd gyda'ch enw arni mewn lleoliad gwahanol bob tro y byddwch yn ymweld!

A fyddaf yn cael eistedd ar y sedd gyda fy enw arni bob amser?

Os rhoddir digon o rybudd byddwn yn gwneud ein gorau i sicrhau y gallwch eistedd ar y sedd gyda'ch enw arni pan fyddwch yn ymweld â ThAH a'r sinema. Ni fydd rhai seddi yn Prif Theatr a hail theatr ar gael yn ystod rhai perfformiadau oherwydd natur y gofod. Ni fydd hyn yn bosibl yn ThEW gan ei fod yn ofod hyblyg gyda seddi mewn trefn wahanol yn ystod sioeau gwahanol. Ni fydd rhai seddi yn Prif Theatr a hail theatr ar gael yn ystod rhai perfformiadau oherwydd natur y gofod a gofynion penodol sioeau unigol.

A allaf ychwanegu brawddeg at fy mhlac?

Gallwn gynnig seddi yn eich enw chi neu er cof am rywun annwyl. Am resymau treth a rhodd chymorth ni allwn gynnig rhagor o destun na dyfyniadau unigryw. I gadarnhau’r testun yr hoffech ei drawsgrifio ar eich plac cysylltwch â Lily Peers-Dent, Lily.peers-dent@theatrclwyd.com neu 01352 609143.

Sut byddaf yn rhoi gwybod i chi am yr enw rydw i ei eisiau ar fy mhlac?

Os byddwch yn cyfrannu ar-lein byddwn yn anfon e-bost atoch chi gyda ffurflen i'w llenwi y diwrnod canlynol. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am enwi sedd, e-bostiwch lily.peers-dent@theatrclwyd.com neu ffoniwch 01352 609143.

A fydd y lleoliadau theatr a sinema yn hygyrch?

Bydd y theatr wedi ei hailddatblygu o'r newydd yn gwbl hygyrch yn y mannau cyhoeddus a'r ardaloedd cefn llwyfan.

Yn Prif Theatr bydd mynediad heb risiau i'r ddwy res D ac E a Q gyda llefydd i gadeiriau olwyn a seddi cyfeillion ar gael. Bydd gan hail theatr fynediad heb risiau a llefydd i gadeiriau olwyn gan gynnwys, am y tro cyntaf, lle i gadeiriau olwyn ar y balconi y gellir ei gyrraedd drwy un o'r tair lifft newydd yn yr adeilad. Bydd y sinema yn cael lifft newydd sbon i'w gwneud yn fwy hygyrch a bydd yn cadw'r llefydd gwreiddiol i gadeiriau olwyn a seddi i gyfeillion.