National Youth Theatre of Wales Auditions 2025
Mae clyweliadau i ymuno â NYTW yn 2025 NAWR AR AGOR!
Mae Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn gweithio gyda phartneriaid theatr flaenllaw i gynnig cyfleoedd hyfforddi a pherfformio o’r radd flaenaf i bobl ifanc mwyaf talentog Cymru. Gan ddarparu clyweliadau am DDIM a chymorth bwrsariaethau, mae CCIC wedi ymrwymo i ddileu rhwystrau ariannol i gyfranogiad yn y celfyddydau.
Os ydych chi rhwng 16 a 22 oed ac yn dod o, neu'n byw yng Nghymru, ewch draw i wefan CCIC a chofrestrwch ar gyfer eich clyweliad heddiw!
Dyddiad cau i ymgeisio: 27 Mawrth
Ymholiadau: nyaw@nyaw.org.uk
Cwestiynau Cyffredin
Ar gyfer pwy mae ThCIC?
50 o bobl ifanc 16 - 22 oed dawnus sy’n byw neu'n astudio yng Nghymru, sy’n barod i fynd a’u sgiliau creadigol, perfformio a thechnegol i’r lefel nesaf.
Efallai dy fod…
- Yn astudio neu’n cymryd rhan mewn drama / perfformio yn dy ysgol neu goleg
- Mewn ysgol ddrama ac yn paratoi ar gyfer y cam nesaf yn dy yrfa
- Yn cymryd rhan mewn theatr ieuenctid neu theatr gerdd yn dy ardal
- Yn berson creadigol llawn angerdd sy’n chwilfrydig ynghylch adrodd straeon y tu ôl i’r llenni a sgiliau cefn llwyfan.
Beth gei di o aelodaeth ThCIC 2025?
Bydd aelodau ThCIC yn cymryd rhan mewn 3 cwrs preswyl hyfforddiant a datblygu ar draws Cymru rhwng Mehefin a Tachwedd 2025, lle bydden nhw’n:
- Cysylltu a gweithio gyda’r cwmnïau a’r artistiaid gorau o Gymru a thu hwnt yn cynnwys ein partneriaid diwydiant blaenllaw sef Theatr Clwyd a Chanolfan y Mileniwm Cymru.
- Rhoi hwb i'w sgiliau a hyder yn ystod gweithdai a dosbarthiadau meistr gyda hyfforddwyr llais, cyfarwyddwyr symud, cyfarwyddwyr, ysgrifennwyr, dylunwyr sain, storïwr digidol a mwy.
- Gwneud ffrindiau am oes yn ystod ein rhaglen cymdeithasol. · Gweld gwaith gwych a chael mewnwelediad gan dimau creadigol proffesiynol. · · Helpu ni siapo ein cynhyrchiad yn 2026 yn dathlu 50 mlynnedd o ThCIC!
- Gweithio a chwarae mewn amgylchedd dwyieithog balch.
Beth yw 5 Ffrwd y Rhaglen?
- Crefft Llwyfan a Sgrîn
Sgiliau actio hanfodol i gyflymu dy ddatblygiad fel perfformiwr - Llawenydd Creu
Dod i ddeall dyfeisio a chyd-greu, ysgrifennu a dweud straeon digidol ymgollol - Llwybrau+
Sesiynau gyda gweithwyr proffesiynol o’r diwydiant i helpu gyda cham nesaf dy hyfforddiant neu ddatblygiad gyrfa - Sgiliau y tu ôl i’r Llenni a’r Sgrîn
Archwilio ffyrdd newydd o weithio’r tu ôl i’r llenni ac ychwanegu at dy gronfa sgiliau - Labordy 50
Archwilio syniadau, arddulliau a llwyfannu yn yr ystafell ymarfer gyda dramodwyr a chyfarwyddwyr i ffurfio a bod yn rhan o’n perfformiad 50fed pen-blwydd a gynhelir yn 2026.
Ble gaiff y prif weithgareddau preswyl eu cynnal?
Canolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd: 27 – 29 Mehefin
Yr Egin a Phrifysgol y Drindod Dewi Sant, Caerfyrddin: 24 – 30 Awst
Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug: 23 – 26 Hydref
*Bydd aelodau ThCIC yn cymryd rhan yn y 3 profiad preswyl.
Sut alla'i ddod am glyweliad i ymuno?
- Edrych trwy raglen lawn ThCIC 25 a beth i’w ddisgwyl a’i baratoi ar gyfer clyweliad ThCIC yma: Clyweliadau ThCIC 2025 — Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru
- Archebu dy le mewn canolfan glyweliadau ym mis Mawrth / mis Ebrill 2025 yn dy ardal.
Mae CCIC hefyd yn cynnig clyweliadau am ddim i unrhyw un sy’n methu fforddio’r ffi clyweliad - heb unrhyw gwestiwn. Yn ogystal, oherwydd ein cynllun bwrsariaethau mae hawl ganddynt dderbyn gostyngiad ar eu ffïoedd trwy eu Cynllun Bwrsariaethau.