10 digwyddiad fyddwch chi ddim eisiau eu colli yn Theatr Clwyd yn 2023
See dates and times 10 Ion 2023
News Story
Truth or Dare
Yn arddangos yr awduron gorau o Gymru, mae Truth or Dare yn ddeg drama newydd sbon i’ch tanio chi ac achosi direidi.
Mae Truth yn bump o ddramâu pryfociol i’ch tanio chi. Cyfrinachau a chelwyddau pan fydd y goleuadau wedi’u diffodd. Ydych chi eisiau eu clywed? Allwch chi ymdopi?
27 Ebr - 13 Mai | Archebwch Nawr
Mae Dare yn bump o ddramâu direidus sy’n gofyn beth sy'n gwneud i chi wylltio. Troelli'r botel, mentro'r cyfan. Fyddwch chi’n meiddio gwylio?
28 Ebr - 13 Mai | Archebwch Nawr
The Great Gatsby
Dyma ail gyfle i weld y cynhyrchiad y gwerthwyd pob tocyn iddo yn flaenorol, The Great Gatsby, wedi’i greu gan Theatr Clwyd a The Guild Of Misrule. Gwahoddir y gynulleidfa
i barti gwyllt gorau erioed y 1920au! Gwisgwch i fyny a dawnsio drwy'r nos yn Nhafarn y Dolphin yn yr Wyddgrug yr haf yma. Mae'r perfformiad agos-atoch-chi yma’n eich rhoi chi wrth galon y gweithgarwch wrth i chi symud o gwmpas y gofod.
15 Meh - 27 Awst | Archebwch Nawr
The Shawshank Redemption
Mae hoff ffilm y genedl, sy’n seiliedig ar nofela Stephen King, yn dod i’r llwyfan! Mae’r cynhyrchiad llwyfan gwefreiddiol yma’n edrych ar anobaith, anghyfiawnder, cyfeillgarwch a gobaith y tu ôl i fariau clawstroffobig cyfleuster diogelwch llym.
27 Chwe - 4 Maw | Archebwch Nawr
Home, I’m darling
Cyfle arall i weld y cynhyrchiad arobryn yma. Yn enillydd Gwobr Olivier am y Gomedi Newydd Orau, mae'r sioe yn cwestiynu pa mor hapus ydi'r rhai sy'n gwpwl priod hapus? Mae angen ychydig o ffantasi ar bob cwpwl i gadw eu priodas yn pefrio. Ond tu ôl i'r llenni gingham, mae pethau'n dechrau datod, a dydi bod yn dduwies ddomestig ddim mor hawdd ag y mae'n ymddangos. Yn dilyn tymhorau lle gwerthwyd pob tocyn yn y National Theatre ac yn y West End, mae comedi Laura Wade sydd wedi ennill Gwobr Olivier yn dod adref.
14-18 Maw | Archebwch Nawr
Showstopper! The Improvised Musical
’Fydd pobl sy’n hoff o gerddoriaeth ddim eisiau colli'r sioe yma. Mae'r gomedi gerddorol fyrfyryr yma’n llwyddiant ysgubol yn y West End! Mae comedi gerddorol newydd sbon yn cael ei chreu o’r newydd ym mhob perfformiad o’r sioe arobryn yma wrth i awgrymiadau’r gynulleidfa gael eu trawsnewid yn y fan a’r lle yn gynhyrchiad o ganu a dawnsio gyda chanlyniadau doniol.
23-25 Maw | Archebwch Nawr
Gigs Clwyd
Noson o gerddoriaeth fyw gan rai o gerddorion Cymraeg mwyaf cyffrous Gogledd Cymru, gan gynnwys N’Famady Kouyaté. Mwy o artistiaid i'w cyhoeddi yn fuan iawn.
8 Ebr | Archebwch Nawr
Monthly Comedy Clubs
Mae’r clybiau comedi yn ffefryn mawr gyda mynychwyr rheolaidd Theatr Clwyd. Yn cynnwys sêr comig fel Kiri Pritchard-McLean, Hayley Ellis, Dana Alexander, Jonny Pelham a llawer mwy. Edrychwch ar y perfformwyr ar gyfer pob sioe.
Imrie
Mae Imrie, drama Gymraeg newydd gan Nia Morais, yn stori hudolus i oedolion ifanc a phobl hŷn na hynny am obaith a dewrder. Mae Josie yn darganfod parti tanddwr hudolus sy'n well nag unrhyw barti i bobl erioed. Mae'n fyd lle mae hi'n dod o hyd i'w gwir hunan - ac Imrie Sallow.
Uwchben y dŵr mae’n teimlo ar goll mewn byd lle nad yw’n perthyn, gyda chwaer sydd eisiau iddi fod yn ‘hapus a normal’. Ond daw cyfrinach deuluol i'r amlwg o gysgodion y byd arallfydol sy'n newid popeth.
6 Meh | Archebwch Nawr
Heathers – The Musical
Sioe gerdd roc hynod ddoniol a chyflym, wedi’i seilio ar un o’r ffilmiau cwlt arddegol gorau erioed. Mae Veronica Sawyer o Westerberg High yr un fath â phawb arall – dydi hi’n neb a’i breuddwyd hi ydi cael diwrnod gwell. Ond pan mae hi'n ymuno â'r Heathers gyda chyfle efallai i wireddu ei breuddwydion am boblogrwydd, mae'r rebel arddegaol dirgel, JD, yn ei dysgu y gallai bod yn neb ei lladd, ond mai llofruddiaeth yw bod yn rhywun.
28 Maw-1 Ebr | Archebwch Nawr
Nadolig 2023
Gyda mwy na 24,000 o docynnau wedi’u gwerthu hyd yn hyn ar gyfer y panto Roc a Rôl eleni ac adolygiadau 5 seren yn gyffredinol, bydd y flwyddyn nesaf yn fwy ac yn well fyth ac mewn lleoliad newydd sbon. Y Big Top fydd lleoliad yr antics Roc a Rôl – y teitl i’w gyhoeddi yn nes ymlaen yn ystod y mis.