News Story
Mae Carl Hutchinson yn dychwelyd i ogledd Cymru, gan ymweld â Theatr Clwyd am un noson ac un noson yn unig i berfformio ei sioe newydd sbon. Os ydych chi wedi gweld y gŵr o Newcastle o’r blaen, fe fyddwch chi’n gwybod yn union beth i’w ddisgwyl. Os nad ydych chi, rydych chi’n siŵr o gael eich syfrdanu gan un o drysorau cudd sîn gomedi’r Deyrnas Unedig. Fe gawson ni sgwrs fach â Carl i gael gwybod rhagor am y sioe:
Rydan ni’n edrych ‘mlaen yn eiddgar at dy gael di yma yn yr Wyddgrug. Wyt ti’n edrych ‘mlaen at ddod i ogledd Cymru? ‘Famau’ mae’r cynulleidfaoedd gorau, wedi’r cyfan…
Yndw, edrych ‘mlaen yn fawr at ddod yn ôl. Pan ‘nes i gyhoeddi’r daith roedd llawer o bobl yn gofyn am noson yn Wrecsam. Dwi’n falch dros ben ein bod ni wedi gallu cael y gorau o’r ddau fyd. Lle newydd i fi (Yr Wyddgrug) a rhywle sy’n ddigon agos i Wrecsam. Mae cyffro ymysg y gynulleidfa bob amser ac mae’n rhywle dwi’n awyddus i’w gynnwys ym mhob taith.
O ran y bobl sydd heb dy weld di o’r blaen efallai, beth ddylen nhw ei ddisgwyl?
Dwi am ‘jibio’ hwn a rhoi gwybod i chi beth mae cynulleidfaoedd blaenorol wedi’i ddweud…
“Absolutely brilliant comedian. Saw him for the first time when he opened for Chris Ramsey and was so impressed. Did not disappoint at all tonight and will definitely be booking tickets to see him again” *****
“Absolutely fantastic show! So funny!” *****
“The atmosphere was fantastic. Carl is hilarious and would make anyone laugh” *****
“Outstanding night as always with Carl” *****
“Carl was brilliant! Haven't laughed that much in ages! Definitely go see him!” *****
“Carl Hutchinson is as always fantastic” *****
“Carl was as funny as ever with jokes we could all relate too” *****
Roedd dy daith di yn 2022 yn un aruthrol – 87 sioe. Ble wyt ti’n cael yr egni?
Mae cael morgais yn help – rhaid dal ati neu mi fyddan nhw’n cymryd dy gartref di! Dyma’r cyfnod byrraf rhwng teithiau, heb os. Roedd sioe olaf y daith honno ym mis Tachwedd 2022 ac erbyn mis Ionawr 2023, roeddwn i’n rhoi cip ymlaen llaw ar y daith nesaf. Yr awydd i fod y gorau galli di fod ydy’r prif gymhelliant. Dwi’n lwcus i gael set o selogion sy’n dod i fy ngweld i un flwyddyn ar ôl y llall. Felly cymaint ag y maen nhw’n disgwyl sioe newydd gen i, dwi’n disgwyl hynny hefyd. Mae’n fy stopio i rhag bod yn ddiog hefyd.
Sioeau/moment orau a gwaethaf ar lwyfan?
Dwi’n meddwl y bydd rhaid i fi ddewis Christchurch ar daith Chris Ramsey ‘chydig flynyddoedd yn ôl. ‘Nes i lwyr ddifetha diwedd fy set. Roedd y gynulleidfa’n wych, rhy wych os rhywbeth, roeddwn i’n cael mynd yn rhemp ganddyn nhw. Roeddwn i wedi ymlacio’n llwyr. Wrth orffen, eiliadau cyn y geiriau olaf, ‘nes i glywed rhywun yn y gynulleidfa yn ‘gollwng gwynt’. Yn lle bod yn broffesiynol a dyfalbarhau i gadw’r momentwm, doeddwn i ddim yn gallu stopio’n hun, ac felly dyma oedd y llinell…
“Ydych chi erioed yn deffro mor hwyr fel eich bod chi – OES RHYWUN NEWYDD DARO RHECH?!”
Tawelwch. Mae’r person euog yn gwybod pwy ydi o, ond heb gyfaddef. Dy broblem di ydi honno, dim fi! Yn rhyfedd roedd honno’n foment orau a gwaethaf ar yr un pryd.
Sut byddet ti’n dymuno i rywun arall ddisgrifio dy sioe?
Fel y comedïwr gorau a fu erioed.
Bydd Carl Hutchinson – Watch Till The End yn Theatr Mix yn Theatr Clwyd ar 14 Mai. Archebwch Nawr