5 munud gyda: Christian Patterson Awdur gyda Truth or Dare a Sleeping Beauty
See dates and times 13 Ebr 2023
News Story
Mae Christian Patterson wedi bod yn rhan o deulu Theatr Clwyd ers blynyddoedd lawer fel actor ac awdur. Yn awdur arobryn pantomeimiau Theatr Clwyd, mae miloedd o bobl wedi mwynhau ei ysgrifennu gwych dros y blynyddoedd. A fydd eleni ddim yn eithriad chwaith, gyda fersiwn Roc a Rôl o Sleeping Beauty (30 Tachwedd-6 Ionawr). Mae dau gyfle i fwynhau gwaith Christian yn y lleoliad y tymor yma. Mae Truth Or Dare (27 Ebrill-13 Mai) yn gomisiwn newydd sbon gan Theatr Clwyd, gyda deg drama newydd sbon wedi’u hysgrifennu gan ddeg awdur, i gael eu perfformio gan 20 o actorion ar y thema Gwir neu Feiddi.
Fe gawson ni sgwrs efo Christian i holi am y sioeau cyffrous yma:
Mae'n wych cael dau gyfle i weld dy waith di yn Theatr Clwyd mewn blwyddyn. Beth wnaeth dy ddenu di at y prosiect Truth or Dare?
Roedd yn swnio fel syniad hollol boncyrs felly fe wnes i feddwl y byddai’n gyfle gwych i ysgrifennu drama yr un mor boncyrs! Mae’r fformat 10 munud yn golygu bod rhaid i chi fynd at wraidd y ddrama yn syth bin a does dim llawer o le i ffaff, ond sgôp enfawr ar gyfer creadigrwydd. Rydw i wedi caru pob eiliad!
Mae dy ddrama di, Two Parts Madness, One Part Mayhem, yn cael ei disgrifio fel ffars dirgelwch llofruddiaeth – dweud ychydig wrthyn ni am y darn?
Fe wnes i wibio o syniad i syniad a glanio ar y genre dirgelwch llofruddiaeth ar ddamwain mewn ffordd ... fe ddisgynnodd ar y dudalen rywsut, felly fe wnes i feddwl ‘Amdani!”. Mae'n ffars bur fel rhywbeth allan o ysgol ysgrifennu’r Goons, Morecambe a Wise, Vic Reeves a Bob Mortimer. Mae'n fyd lle does dim byd yn gwneud synnwyr a dydi popeth ddim fel mae'n ymddangos.
A fedrwn ni ddisgwyl ychydig o hwyl yn steil y panto?
Wel mae’n ffars yn hytrach na phanto ond yn bendant mae yna chwarae ar eiriau ac anhrefn di-ri, felly croesi bysedd y bydd yn gwneud i bobl chwerthin yn yr un ffordd!
Dim ond tua 10 munud o hyd ydi’r darn, mae hyn yn wahanol iawn i banto hyd llawn. Ydi hynny’n gwneud y darn yn her i’w ysgrifennu?
Yn bendant! Mae ’na syniadau a ti'n meddwl, “Hmmm, fe hoffwn i ddadbacio ychydig bach mwy ar hwn’na” ac wedyn ti'n gweld dy gyfri tudalennau di’n mynd i fyny ac i fyny ac wedyn ti’n gorfod tynnu rhywfaint o'r stwff sydd naill ai'n ddiangen i'r plot (mae yna blot yna yn rhywle, dwi'n addo!) ac yn anffodus rhai pethau wnaeth i ti chwerthin... felly yr her go iawn ydi ail-lunio ar ôl i ti golli darn pwysig.
Fe fyddi di wedi bod yn gweithio ar y sgript ar gyfer Sleeping Beauty eisoes. Sut mae hynny'n dod ymlaen?
Mae Sleeping Beauty yn ffefryn gen i am reswm rhyfedd iawn... mae'r prif gymeriad yn cysgu am yr ail hanner i gyd bron! Felly ti'n cadw'r plât stori i droelli yn yr ail hanner drwy fanteisio i’r eithaf ar arferion panto gwych! Rydw i wedi CARU ei ysgrifennu felly gobeithio bydd y cynulleidfaoedd wrth eu bodd yn gwylio!
Gan ei fod o’n banto roc a rôl, mae’r dewisiadau ar gyfer y caneuon yn chwarae rhan enfawr yn y sioe. Oes gen ti rai o’r rhain mewn golwg yn barod?
Rydw i wedi rhoi fy holl ddewisiadau ar gyfer y caneuon i mewn ond wedyn maen nhw’n mynd i'r cyfarwyddwr cerdd hollol wych, Tayo, a fo sy’n cael y gair olaf o ran pa ddewisiadau sy'n aros a pha rai sy’n newid. Mae’n broses eithaf hyblyg nes bod y cymysgedd cywir o gerddoriaeth yn ei le ac yn barod i gael y cynulleidfaoedd i ddawnsio yn eu seddi!
Eleni mae’r sioe’n cael ei chynnal mewn Pabell Fawr – ydi hyn yn newid y ffordd rwyt ti’n addasu’r stori?
Ydi, mae o, ond mewn ffordd “Ooo, nawr, fe allai hynny fod yn ddiddorol”! Bob blwyddyn, rydw i'n ysgrifennu pethau mwy a mwy heriol i Adrian (y cynllunydd set a gwisgoedd gwych) i'w gwireddu a bob blwyddyn mae o'n rhagori ar fy nisgwyliadau i yn llwyr! Dydw i erioed wedi ei glywed o’n dweud “Dydi hynny ddim yn bosib” – mae o’n ddewin pantomeim ac rydw i wrth fy modd yn gweld yr hyn mae o wedi meddwl amdano gymaint â’r gynulleidfa! Edrych mlaen yn fawr at Sleeping Beauty!
Truth 27 Ebr - 13 Mai | Archebwch Nawr
Dare 28 Ebr - 13 Mai | Archebwch Nawr
Sleeping Beauty 30 Tach - 6 Ion | Archebwch Nawr