5 munud gyda: Branwen Davies Addasydd drama gomedi arobryn Phoebe Waller-Bridge, Fleabag, ar gyfer Theatr Clwyd
See dates and times 24 Gorff 2023
News Story
Yn gynharach eleni cyhoeddodd Theatr Clwyd addasiad Cymraeg o ddrama gomedi arobryn Phoebe Waller-Bridge, Fleabag. Mae’r sioe wedi’i haddasu gan yr awdur o fri o Gymru, Branwen Davies, a bydd yn teithio o amgylch Cymru cyn ei pherfformiadau olaf yn Theatr Clwyd.
Fe gawsom ni sgwrs gyda Branwen i ddarganfod mwy am addasu’r sioe:
Mae hwn yn brosiect mor gyffrous. Beth wnaeth i chdi fod eisiau bod yn rhan ohono?
Ydi wir! Rydw i’n ffan enfawr o waith ysgrifennu Phoebe Waller-Bridge – y cymeriadau benywaidd gwych mae hi’n eu creu a’r ffordd mae hi’n chwarae gyda’r gynulleidfa – yn rhoi sioc a phleser am yn ail. Mae ei defnydd hi o hiwmor tywyll yn unigryw ac yn feddwol ac roeddwn i’n dyheu am weld sut byddai hynny’n trosi i’r Gymraeg. Pan welais i’r ddrama lwyfan wreiddiol yn 2013 i ddechrau, doeddwn i erioed wedi gweld unrhyw beth tebyg. Mae'n rolyrcostyr aml-haenog sydd wir yn mynd o dan eich croen chi.
I bobl sydd ddim yn gwybod y stori efallai, rhowch grynodeb byr i ni?
Rydw i’n siŵr bod y rhan fwyaf o bobl yn gyfarwydd â’r addasiad teledu a ddilynodd y ddrama lwyfan wreiddiol. Mae Fleabag ar drothwy troi'n ddeg ar hugain oed a does ganddi ddim llawer i'w ddangos am hynny. Mae hi’n gweithio mewn caffi thema mochyn cwta roedd hi’n arfer ei redeg gyda’i ffrind gorau, Boo, ond dydi hi ddim yn gallu fforddio ei redeg mwyach. Mae galar ac euogrwydd ac elfen gref o hunan-ddinistr gwyllt yn ei gyrru hi i’r gwaelod. Mae’r ddrama’n graddol roi darlun at ei gilydd, fesul pob jôc a phob cyfarfyddiad rhywiol amheus, o’r corwynt sydd wedi ei harwain at fod yn eistedd mewn cyfweliad o uffern i achub ei chroen ei hun pan mae’r ddrama’n agor.
Mae dy addasiad di wedi cael ei ail-leoli yng ngogledd Cymru a Lerpwl a'i addasu i'r Gymraeg. Sut wyt ti’n mynd ati i wneud hynny?
Fe gefais i fy herio i ddod o hyd i gysyniad a allai adrodd stori Fleabag o ongl Gymreig heb fod yn gyfieithiad gair am air ond hefyd i beidio â newid y cynnwys! Mae Fleabag wedi ei leoli yn Llundain yn wreiddiol. Rydw i’n dod yn wreiddiol o Ynys Môn ac wastad wedi ystyried Lerpwl fel prifddinas Gogledd Cymru! Fe wnes i benderfynu bod fy fersiwn i o Fleabag wedi’i geni a’i magu ym Mangor i fam o Gymru a thad sy’n Sgowsar a’i bod hi wedi dianc i Brifysgol Lerpwl i ailddyfeisio’i hun cyn gynted ag y gallai i fyw bywyd diofal ac afradlon a phrofi rhyddid di-ben-draw. Yn realistig, rydw i’n meddwl bod y rhan fwyaf ohonom ni’n byw bywyd dwyieithog yng Nghymru ac roeddwn i’n hoffi’r cysyniad o ddrama Gymraeg wedi’i lleoli yn Lloegr lle mae’r prif gymeriad yn gallu defnyddio iaith i’w mantais ei hun a gwibio a fflyrtio rhwng y ddwy er ei phleser a’i difyrrwch ei hun. Fe gefais i hwyl gyda'r syniad bod Fleabag yn methu fflyrtio na chael rhyw yn y Gymraeg a bod ei brafado hi i gyd yn Saesneg. Er hynny, cyfaddefiad ydi’r ddrama yn fy marn i a phan mae’n rhaid i Fleabag wynebu ei chythreuliaid a dweud y gwir, mae’r gwir yn dod o’r galon ganddi ac iaith ei chalon hi lle mae hi’n dweud y gwir ac yn fwyaf bregus ydi’r Gymraeg.
Sut wnes di sicrhau cydbwysedd rhwng y stori wreiddiol a hefyd ei hail-leoli yng Nghymru?
Gwneud penderfyniadau am y stori gefndir fel bod y gynulleidfa Gymraeg yn gallu darllen rhwng y llinellau am wn i. Mae hi wedi cael ei magu ar aelwyd ddwyieithog lle mae neidio o un iaith i’r llall ar ganol brawddeg yn arferol. Rydw i'n meddwl bod Fleabag yn gyfarwydd ac yn berthnasol i unrhyw ferch ifanc sy'n ymgodymu â disgwyliadau ac yn gwthio ffiniau ac yn cwestiynu ei chredoau a'i gweithredoedd ei hun. Rydw i'n meddwl bod clywed ei meddyliau hi yn y Gymraeg yn ychwanegu haen gyfoethog arall at adrodd y stori.
Roedd Phoebe yn rhan o'r broses o addasu'r sioe. Sut brofiad oedd gweithio gyda hi.
Roedd Phoebe yn hael iawn ac yn amyneddgar ac yn gwrando ar syniadau ac yn procio a holi ambell beth. Mae’n rhaid ei fod yn brofiad arswydus meddwl bod rhywun ar fin potsian gyda darn o waith sydd mor allweddol i’ch gyrfa chi ond roedd hi’n agored iawn ei meddwl ac fe wnaethon ni chwerthin llawer yn trafod rhegfeydd yn y Gymraeg a thermau rhywiol chwerthinllyd!
Wyt ti wedi dysgu unrhyw beth newydd yn ystod y broses yma?
Mae wedi bod yn broses mor llawen, yn enwedig cael rhannu’r sgript yn yr ystafell ymarfer a dadlau pa eiriau y dylen ni eu defnyddio ar gyfer bronnau a sâl a pŵ a mastyrbio – ie plentynnaidd iawn, ond perthnasol! Roedd cael hwyl a chwarae gyda’r iaith a chaniatáu i Fleabag arfogi’r Gymraeg a’i defnyddio i greu effaith yn dipyn o hwyl hefyd. Diddorol hefyd oedd chwarae gyda’r defnydd o iaith pan oedd Fleabag eisiau creu effaith a phryfocio’r gynulleidfa a dod o hyd i’r naws cywir iddi gan fod Phoebe a Fleabag mor nodedig ac roedden ni eisiau dod o hyd i’n fersiwn Cymraeg triw ni ein hunain o Fleabag, ac nid dynwared y gwreiddiol.
Oes gennyt hoff linell / rhan o'r sioe?
Mae Phoebe wedi creu llinellau unigol cwbl drawiadol, a llinellau sy’n eich stopio chi’n stond. Fe allwch chi fod yn eich dyblau yn chwerthin un funud ac wedyn fe gewch chi’ch tawelu'n sydyn gan ergyd emosiynol. Mae yna ddelweddau sy'n creu sioc a phrofiadau sy'n gyrru ias i lawr eich cefn chi, ac rydw i'n meddwl fy mod i wedi gwichian yn gyson wrth ddarllen ac ailddarllen y gwreiddiol! Fe gefais i fy ngadael yn fud gan rai llinellau ac yn llawn torcalon gan eraill. Fy hoff ran i o’r sioe ydi’r stori am ddigwyddiad anffodus a ddigwyddodd i Harry, cyn gariad Fleabag, mewn bwyty. Roedd Harry’n llawn cywilydd pan rannodd y stori sy’n cynnwys llawer o hylifau’r corff i ddechrau, ond mae Boo a Fleabag yn gweld y stori gyfan yn hynod ddoniol – ac mae hi’n ddoniol, ond hefyd yn gwbl ffiaidd. Mae Fleabag yn mwynhau ei hailadrodd yn ei holl ogoniant yn ddramatig.
Beth fyddet yn ei ddweud wrth bobl sydd heb brynu tocyn ar gyfer y sioe eto?
Ewch amdani! Adrodd stori ar ei orau a fydd yn eich llorio chi ac yn eich pryfocio chi. Mae'n amrwd, mae'n onest ac yn ddynol iawn. Mae'n teimlo fel sioe stand-yp sy'n datgelu'r holl bethau sy'n cael eu dweud yn eich pen chi na ddylai gael eu dweud yn uchel. Mae Fleabag yn mynd i'r dyfnderoedd budr hynny ar eich rhan chi, ac fe fyddwch chi'n teimlo'n well oherwydd hynny!
Bydd Fleabag yn cael ei pherfformio yn Theatr Clwyd ar 27-30 Medi. Tocynnau o £10 a’r oedran a argymhellir ydi 16+. Archebwch Nawr.