5 Munud gyda: Christian Patterson, ysgrifennwr Robin Hood the Rock ‘n’ Roll Panto
See dates and times 28 Tach 2022
News Story
Mae Christian Patterson yn un o wynebau mwyaf adnabyddus ar lwyfan Theatr Clwyd ac wrth ei fodd yn sgriptio ei bumed panto i’r Wyddgrug. Fel actor mae ei gredydau lu i'r cwmni yn cynnwys: The Rise and Fall of Little Voice, Insignificance, All My Sons ac Under Milk Wood. Credydau arall yn cynnwys: The Way of the World (Donmar Warehouse); My Country (National Theatre); Blackbird (The Other Room); The Knowledge (Royal Court Theatre); a The American Clock (Old Vic).
Enillodd Wobr yr Actor Gorau yng ngwobrau Wales Theatre Awards 2016. Enillodd y Great British Panto Awards am yr Awdur Gorau a chafodd ei enwebu am y Sgript Orau ar gyfer Dick Wittington – The Puuurfect Rock ‘n’ Roll Panto, a wnaeth ysgrifennu ar gyfer Theatr Clwyd yn 2019.
Fe wnaethom eistedd i lawr gyda Christian i ddarganfod mwy am y sioe eleni:
Mae Robin Hood wedi cyrraedd. Sut deimlad yw hi i fod ‘nôl yma eto gyda phanto Roc a Rôl?
Cerddais drwy ddrysau Theatr Clwyd am y tro cyntaf nôl ym 1997 felly mae bob amser wedi teimlo fel ail gartref i mi. Rydw i mor falch o fy nghysylltiad â’r theatr. Mae wedi bod yn un hir ac amrywiol…Rwyf wedi actio mewn dros 20 o gynyrchiadau, wedi ysgrifennu 5 panto a chyfarwyddo drama yno hefyd. Mae wedi rhoi cymaint o gyfleoedd i mi dros y blynyddoedd ac mae fy stumog yn troi gyda chyffro pan fyddaf yn gyrru i fyny’r bryn a gweld y theatr yn y pellter. Mae ysgrifennu panto ar gyfer y theatr yn bleser achos dwi'n ‘nabod yr ardal a'r gynulleidfa mor dda.
Rydych wedi ysgrifennu nifer o Bantos Theatr Clwyd, sut ydych chi’n mynd ati i addasu’r storïau?
Wel, y peth cyntaf rwy’n ei wneud yw darllen y stori wreiddiol (os oes yna un) achos dwi'n teimlo fy mod yn ddyledus i'r llenor i ddarllen y stori a wnaeth ysgrifennu cyn i mi'n llythrennol ei rhwygo a'i throi'n banto. Rwyf bob amser yn ceisio dod o hyd i rywbeth yn y straeon gwreiddiol y gallaf ei roi yn y panto. Gyda Robin Hood er enghraifft fe wnes i ddarganfod fod Little John yn gweithio fel gwas i'r Siryf cyn troi’n herwr, felly fe wnes gynnwys hynny … a fydd yn aros yn rhan o’r sgript yw peth arall!
A oes gennych chi hoff Banto?
Oes! Rwy'n caru, caru, wir yn caru Aladdin! Mae’n stori wych ac, i mi, Bonesig orau unrhyw banto …Widow Twankey. Twankey yw'r rhan y mae pob Bonesig panto am ei chwarae! Hi yw Hamlet y byd panto!
Mae cylymau tafod a jôcs bob amser mewn panto, a oes gennych chi hoff linell o'r sioe eleni?
Oes, mae gen i hoff linell… ond nid wyf yn dweud wrthych beth ydyw neu fel arall byddwch yn ei wybod cyn gweld y panto! O bantos y gorffennol…wel, roeddwn wrth fy modd yn ysgrifennu Cousin Rhodri from Wrexham (Dick Wittington 2018/19). Fe wnaeth gymryd oes i’w ysgrifennu ac roedd wedi gorffen mewn 2 funud! Roeddwn i wrth fy modd!
Beth fyddech chi'n ei ddweud wrth rywun sydd heb brynu eu tocynnau eto?
PRYNWCH DOCYN! Yna prynwch docyn arall a dewch eto! Mae Robin Hood yn strafagansa herfeiddiol, gyffrous go iawn, yn llawn canu a dawnsio, gyda thîm anhygoel o bobl sydd wedi gweithio'n galed iawn i wneud y panto hwn yr un gorau eto!
Caiff Robin Hood ei berfformio yn Theatr Clwyd tan 14 Ionawr 2023. Cliciwch yma