News Story
Bydd Constellations, sioe hynod lwyddiannus yn rhyngwladol Nick Payne sydd wedi ennill sawl gwobr, yn cael ei hailddychmygu ar gyfer Cymru fodern gan ein Cyfarwyddwr Cyswllt Daniel Lloyd. Eisteddom i lawr gydag ef i ddarganfod mwy am y sioe:
Sut byddet ti'n disgrifio'r sioe yma i ffrind?
Drama ddisglair, ramantus gyda dau berson hoffus y mae eu bywydau yn cydblethu ac yn symud yn ôl, ymlaen ac o ochr i ochr mewn amryfal fydoedd lle mae unrhyw beth yn bosibl!
Beth oeddet ti'n ei feddwl o'r ddrama pan wnes di ei darllen am y tro cyntaf?
Fe gefais i fy nharo gan ba mor deimladwy ydi stori garu Marianne a Roland a chymaint yr oeddwn i eisiau cydymdeimlo, chwerthin a bod yng nghwmni’r cymeriadau hyn – sy’n her mewn drama mor wallgof o glyfar a gyda chysyniad mor nodedig. Mae'n hynod glyfar ond yn hardd.
Pam mae’r stori yma’n bwysig i’w hadrodd nawr?
Yn y pen draw mae’n ein dysgu ni i drysori’r ‘nawr’ a bod yn ddiolchgar am bopeth sydd gennym ni. Yng nghynllun mawr y byd, does gennym ni ddim llawer o amser. Mae'n ein hannog ni i fod yn ddewr gyda chariad a bywyd.
Pam mae’r stori yma’n bwysig i’w hadrodd nawr?
Mae gallu dod â theitl poblogaidd i gynulleidfa Gymraeg yn fraint ac mae adleoli’r ddrama i Gymru yn caniatáu i ni ei hailddychmygu hi o’r newydd ac archwilio haenau sy’n unigryw i ni. Mae’r ddrama’n chwarae hefo’r posibilrwydd o nifer diderfyn o fydysawdau ac fel dyn dwyieithog o Gymru rydw i wastad wedi teimlo fy mod i wedi pontio sawl hunaniaeth, diwylliant a byd. Bydd archwilio’r ddrama drwy’r lens yma’n hwyl o leiaf ac fe gawn ni ddarganfod beth sy’n gwneud iddi weithio yn y Gymraeg.
A fyddi di’n eu trin nhw’n wahanol?
Byddaf a na fyddaf. Mae'r ddrama ar ei ffurf wreiddiol wedi cael ei saernïo'n hardd. Mae gan y fersiwn Gymraeg (sydd wedi’i haddasu’n fedrus gan Gwawr Loader) rythm a hunaniaeth yr un mor hyfryd. Bydd y darganfyddiadau fyddwn ni’n eu gwneud gyda’r ddau destun yn bwydo i mewn i’r weledigaeth gyfan ar gyfer y cynhyrchiad a bydd ganddo gyfoeth a dyfnder o ganlyniad. Bydd ei wreiddio yng Nghymru yn rhoi sylfaen gadarn i ni wneud ein dewisiadau am ein cymeriadau a’i wneud yn ddilys i ni a’n cynulleidfaoedd ni.
Sut mae’r broses yn gweithio wrth wneud sioe yn y Gymraeg ac yn Saesneg?
Rydyn ni’n agor yn Saesneg ac felly’n canolbwyntio ar hynny wrth ymarfer, ond fe fyddaf yn dod â’r fersiwn Gymraeg i mewn yn rheolaidd drwy gydol y broses. Bydd angen i'r dewisiadau rydyn ni’n eu gwneud weithio'n onest ac yn argyhoeddiadol ar gyfer y ddwy fersiwn ond fe fydd rhai pethau annisgwyl ac anghyson rhwng y ddwy. Rydw i eisiau'r cyfan yn y chwarae - wedi'i gydblethu a'i wau i mewn. Rydw i’n meddwl amdano fel un cyfanwaith cydlynol yn hytrach na dwy fersiwn wahanol.
Ble wyt ti’n dechrau wrth gyfarwyddo drama?
Rydw i'n hoffi dechrau gyda'r cymeriadau. Pwy ydyn nhw, beth sy'n eu cyffroi nhw, beth sy'n llywio eu dewisiadau nhw a sut maen nhw'n meddwl. Mae Cytserau yn ymwneud â pherthnasoedd a'r dewisiadau rydyn ni’n eu gwneyd. Dyma’r gonglfaen i archwilio’r ddrama.
Oes gen ti hoff foment yn y ddrama?
Oes. Heb ddatgelu gormod, yr olygfa olaf lle byddwn ni’n ailymweld â’r foment lle mae Marianne a Roland yn wynebu dewis i ailgynnau eu cariad ai peidio… mae’n gyrru ias i lawr asgwrn y cefn.
Beth hoffet ti i bobl ei gael o'r sioe?
Mae'n wledd i'r synhwyrau. Rydw i'n gobeithio y bydd ein cynulleidfa ni'n cael ei symud gan ddrama wreiddiol sy’n procio’r meddwl, sydd wedi’i lleoli mewn cynllun syfrdanol. Rydw i eisiau cynnig profiad o lawenydd, chwerthin, dagrau a chalon go iawn.
Bydd Constellations yn cael ei pherfformio yn Theatr Mix, Theatr Clwyd o 10 Mai-25 Mai, a Cytserau 7-8 Mehefin. Bydd perfformiadau hygyrch yn cael eu cynnal ar y dyddiadau canlynol: BSL 17 Mai, disgrifiad sain a theithiau cyffwrdd 22 Mai a pherfformiad gyda chapsiynau 24 Mai.