5 Munud gyda: Daniel Lloyd, Actor a Chyfarwyddwr Cyswllt Robin Hood the Rock ‘n’ Roll Panto
See dates and times 8 Rhag 2022
News Story
Magwyd Daniel yn Rhosllannerchrugog a chafodd ei hyfforddiant yn Ysgol Actio East 15, Llundain. Wrth i Banto Roc a Rôl Theatr Clwyd Robin Hood barhau â’i rediad, fe gawson ni 5 munud gyda’r actor a’r cyfarwyddwr cyswllt Daniel Lloyd. Hwn fydd 16eg Panto Roc a Rôl Daniel, yn ogystal â pherfformio a chyfarwyddo mewn prosiectau eraill. Fe gawson ni sgwrs gyda Daniel i gael gwybod mwy am y sioe eleni:
Rwyt ti wedi gweithio gyda Theatr Clwyd ers sawl blwyddyn bellach, oes gen ti hoff atgof?
Gormod o lawer i'w crybwyll! Mae’r pantos wedi chwarae rhan mor enfawr yn fy mywyd i fel oedolyn ac rydw i’n meddwl bod fy noson gyntaf i fel Dick yn 2005 ymhlith fy hoff atgofion i. Mae bwrlwm y noson honno wedi fy nghadw i’n dod yn ôl dro ar ôl tro ac rydw i'n dal i anelu am yr uchafbwynt hwnnw. Yr un mor gofiadwy oedd y noson pan achubodd Tamara Harvey y sioe fel Alice Fitzwarren yn Dick Whittington. Roedd aelod o’r cast wedi cael anaf ac roedd hynny’n golygu bod rhaid i Tamara fynd i mewn gyda'r sgript yn ei llaw a heb ymarfer. Anrhefn bythgofiadwy - fe aethon ni i gyd yn wyllt, yn dyst i eiliad na fydden ni wedi dychmygu ei gweld erioed.
Mae Theatr Clwyd wedi bod mor agos at fy nghalon i dros y blynyddoedd ac rydw i’n teimlo mor freintiedig o fod wedi gweithio yma mor aml ag ydw i. Mae wedi bod yn allweddol i fy natblygiad i fel artist a pherson. Bydd y bennod nesaf gyda’r ailddatblygiad yn dod â llawer o gyfle a thwf ar gyfer cymaint mwy – yr ardal, artistiaid eraill, crëwyr theatr a chynulleidfaoedd. Am gyfnod cyffrous i ddyfodol Theatr Clwyd... alla’ i ddim aros i fod yn rhan ohono.
Yn y panto eleni rwyt ti’n chwarae rhan Little John, heb ddatgelu gormod, oes gen ti hoff ran o’r sioe?
Mae cymaint o eiliadau hwyliog yn y sioe eleni. Rydw i’n mwynhau’r holl gomedi gan fy nghydaelodau o’r cast, yn enwedig golygfa sy’n cynnwys pit poeri a chameo gwych gan King Gruff ar ddiwedd y sioe – y ffefryn o bosib.
Mae'r ymarfer ymladd wedi bod yn her gorfforol go iawn – fe fues i’n agos i dorri fy nhrwyn. Hefyd, mae fy ngwisg i’n gracer eleni!
Mae gen ti sawl dawn yn does, fel actor, cyfarwyddwr, cerddor a chynhyrchydd hynod dalentog. Oes gen ti hoff rôl?
Rydw i'n farus ac yn caru amrywiaeth fy holl swyddi i. Ond alla’ i ddim gwadu mai cadair y cyfarwyddwr ydi lle rydw i'n teimlo'n fwyaf bodlon yn greadigol. Rydw i eisiau gwneud y cyfan!
Mae gen ti sawl dawn yn does, fel actor, cyfarwyddwr, cerddor a chynhyrchydd hynod dalentog. Oes gen ti hoff rôl?
Rydw i'n farus ac yn caru amrywiaeth fy holl swyddi i. Ond alla’ i ddim gwadu mai cadair y cyfarwyddwr ydi lle rydw i'n teimlo'n fwyaf bodlon yn greadigol. Rydw i eisiau gwneud y cyfan!
Ac yn olaf, beth fyddet ti'n ei ddweud wrth bobl sydd heb brynu eu tocynnau eto?
Gwnewch hynny nawr. Ar ôl yr ychydig flynyddoedd rydyn ni i gyd wedi'u cael, mae angen codi calon a wel, mae'r sioe yma’n gwneud hynny. Fe fyddai’n rhaid i chi fynd yn bell iawn i ddod o hyd i banto gwell… mae’r stori, y gerddoriaeth, y perfformiadau a’r cynhyrchiad o’r safon uchaf, peidiwch â’i golli!
Bydd Robin Hood yn cael ei berfformio yn Theatr Clwyd tan 14 Ionawr 2023. Cliciwch yma.