News Story
Mae Rope gan Patrick Hamilton yn ddrama ias a chyffro gomig, dywyll sydd wedi'i hysbrydoli gan drosedd go iawn. Wedi’i chyfarwyddo gan Gyfarwyddwr Cyswllt Theatr Clwyd, Francesca Goodridge (A Pretty Shitty Love), fe gawson ni sgwrs gyda hi i gael gwybod mwy.
Sut byddech chi'n disgrifio'r sioe yma i ffrind?
Wedi'i hysgrifennu ganrif cyn yr obsesiwn sydd gennym ni heddiw â phodlediadau trosedd go iawn, mae Rope yn parhau i fod yn ddrama ias a chyffro syfrdanol - heb unrhyw gyfle am egwyliau rhwng penodau. Mae’r ddrama’n mynd â’r gynulleidfa ar noson wyllt o ansicrwydd a syndod, gyda ffocws diwyro ar un gofod, un drosedd, a chelu hynny yn haerllug gan ddynion sydd wedi meddwi ar feddwl eu bod nhw’n well na phawb arall. Os ydyn ni o blaid cyfiawnder neu eisiau gweld dihangfa warthus, bydd cynulleidfaoedd ar ymyl eu seddau tan y llen olaf. (Gyda chryn dipyn o chwerthin rhagorol ar hyd y ffordd!)
Ble ydych chi’n dechrau wrth gyfarwyddo drama?
Rydw i bob amser wedi bod yn berson gweledol iawn felly rydw i’n gweithio orau gyda delweddau neu waith celf sy’n ysbrydoli estheteg ar gyfer y ddrama yr hoffwn i ei gwneud. Fel arfer fe fydda’ i’n llunio bwrdd naws gweledol ar gyfer pob golygfa, delweddau, gwaith celf - unrhyw beth sy'n gwneud i mi deimlo mewn ffordd arbennig ac sy'n cwmpasu sut hoffwn i wneud i'r gynulleidfa deimlo yn yr eiliadau hynny.
Rydw i hefyd yn tueddu i wneud ‘rhestr curiadau’; fe fydda’ i’n darllen y sgript drosodd a throsodd ac yn dewis eiliadau sy’n parhau i sefyll allan fel curiadau dramatig, pwysig ac yn dechrau o’r fan honno.
Gyda’r ddrama yma, rydw i wedi gwneud rhywbeth nad ydw i erioed wedi’i wneud o’r blaen – rydw i wedi archebu a darllen popeth mae Patrick Hamilton wedi’i ysgrifennu erioed, ei nofelau, ei ddramâu ac wedyn ei hunangofiant – er mwyn gallu mynd i mewn i feddwl y dramodydd a gweld ym mha fath o fyd roedd o’n byw, beth oedd ei amgylchiadau a pham tybed mae wedi ysgrifennu'r cymeriadau a'r stori fel y gwnaeth.
Pam mae'r stori yma’n bwysig i'w hadrodd nawr?
Mae dau ddyn pwerus yn cyflawni gweithred anfaddeuol o drais ac wedyn yn defnyddio holl rym eu braint a'u hyder i'w chelu. Mae’r dyn hynod hyderus sy’n chwalu ei ffordd allan o drwbl yn brif gymeriad cyson yn ein diwylliant ni heddiw. Bydd y cynhyrchiad yma o ROPE yn ei roi o dan y microsgop ac yn gwneud iddo chwysu, ac yn cwestiynu arferion dosbarth a rhywedd sydd wedi'u gwreiddio'n ddwfn ar hyd y ffordd.
Pa gyngor fyddech chi'n ei roi i bobl sydd eisiau dechrau cyfarwyddo?
Darllen dramâu. Darllenwch unrhyw ddrama y gallwch chi. Gwyliwch bob math o theatr, dawns, comedi. Darganfod gwaith pwy rydych chi'n ei hoffi, pa straeon rydych chi’n gallu uniaethu â nhw. Rydw i bob amser yn dysgu ffyrdd newydd o weithio ac arddulliau theatr newydd cyffrous - mae'n siwrnai barhaus a dydw i ddim yn meddwl y bydda’ i byth yn ei chwblhau hi, ond yr hwyl ydi ei bod hi bob amser yn newid ac yn ehangu ac yn dysgu ffyrdd newydd i mi o adrodd straeon.
Yn ddiweddar yn Theatr Clwyd rydych chi wedi cyfarwyddo’r panto Sleeping Beauty, Truth or Dare ac A Pretty Shitty Love a nawr Rope. Mae'r sioeau yma i gyd mor wahanol - oes gennych chi hoff fath o sioe i weithio arni? Ac ydych chi'n ymdrin â sioeau’n wahanol?
Fe fyddwn i’n dweud fy mod i’n mynd at bob sioe yn wahanol. Fe fydd angen rhywbeth newydd gen i ym mhob sioe. Mae llawer o fy ngwaith i wedi bod mewn ysgrifennu newydd, ac felly rydw i wedi arfer newid sgriptiau o hyd! Fodd bynnag, gyda Rope, mae'r testun yno’n barod, wedi'i brofi, a nawr rydw i'n cael y dasg wych o chwistrellu fy hun i mewn iddo a'i berchnogi.
Rydw i bob amser wedi cael fy nenu at theatr sy’n meddiannu eich holl synhwyrau chi, gyda cherddoriaeth a symudiad, ac rydw i’n gyffrous iawn am y posibilrwydd o wneud Rope yn brofiad theatr llwyr!
I ddarganfod mwy neu i archebu Rope, cliciwch yma.