News Story
Mae Phylip Harries yn wyneb cyfarwydd i’w groesawu ym mhantos Theatr Clwyd, yn swyno cynulleidfaoedd gyda’i ffraethineb cyflym a’i ddawn gerddorol. Fe gawson ni sgwrs gyda Phyl cyn y sioe eleni:
Mae’n amser Panto unwaith eto! Sut mae’r ymarferion yn mynd hyd yn hyn?
Mae ymarferion y Panto’n mynd yn dda iawn. Rydyn ni mewn lle gwych ar ddiwedd wythnos 3. Rydyn ni wedi cael rhediad o'r panto cyfan a nawr mae gennym ni wythnos gyfan i ychwanegu ychydig o fanylion gyda'r golygfeydd, y gerddoriaeth a'r coreograffi, ac wrth gwrs, yr effeithiau sain pwysig iawn. Mae bob amser yn bleser penderfynu pa mor hir ddylai sŵn rhech bara.
Mae Mother Goose yn cael ei adnabod fel “Panto’r Dêm” - ydi hyn yn golygu ein bod ni’n mynd i weld mwy fyth ohonch chi nag erioed o’r blaen?
Gan fod Mother Goose yn cael ei adnabod yn draddodiadol fel panto’r Dêm, mae’n anochel y bydd ychydig mwy o ffocws arni eleni. Fodd bynnag, mae hynny wedi'i gydbwyso'n ofalus gyda gweddill y cast. Mae'r cymeriadau i gyd yn cael cyfle i ddisgleirio. Mae ein panto ni’n fwy am sut mae Gwladys Goose yn cael ei hudo gan y syniad o harddwch a sut mae hyn yn effeithio ar ei barn hi, yn hytrach na dim ond bod mewn llawer o olygfeydd dim ond er mwyn hynny. Mae hyn yn golygu, o ran y stori, y gallech chi ddweud ei fod yn ymwneud â hi, ond wrth gwrs mae llawer o linellau plot a throeon trwstan yn mynd â ni ar siwrnai o dda yn erbyn drwg, ac mae cariad yn gorchfygu popeth yn y diwedd.
Mae’r Panto yn rôl gorfforol iawn gyda llawer o ganu a dawnsio yn ogystal â llawer o wisgoedd, sut ydych chi'n paratoi?
Mae’r Panto’n ddisgyblaeth heriol iawn yn gorfforol ac yn gofyn am yn union hynny, llawer o ddisgyblaeth. Mae'n rhaid i ni ofalu am ein cyrff a'n lleisiau ni gyda gofal mawr. Rydyn ni’n cael hanner awr o gynhesu bob dydd ar gyfer y llais a'r cymalau, sydd bob amser yn eich helpu chi i fod mewn siâp da cyn sioe. Heblaw am hynny, mae'n golygu gwely cynnar a dim cadw reiat am ychydig fisoedd. Mae fel byw ym mhentref Olympaidd yr athletwyr. Ond rydyn ni’n llwyddo i dorri’r cyrffyw bob hyn a hyn a chael ambell noson allan i ymlacio. Diflas iawn ydi dim byd ond gwaith a dim chwarae fel maen nhw’n dweud!
Sut deimlad yw bod yn ôl yn y theatr eleni ar ôl y Babell Fawr y llynedd?
Rydyn ni’n gyffrous iawn am fod yn ôl yn y brif theatr eleni. Roedd bod yn y babell fawr yn sicr yn brofiad fyddwn i ddim wedi bod eisiau ei golli. Ond roedd maint y babell yn arwain at gymhlethdodau yn sicr. Roedd yn dipyn o her ar adegau gyda’r gwyntoedd cryfion, ac roedd yn rhaid i ni ddod i arfer â steil o actio mwy fyth a rhannu hynny i 3 ochr. Eleni fe fyddwn ni’n gallu cynnig ambell eiliad dawelach. Mae llawer o bathos a chalon yn y sgript eleni sy’n gofyn am arddulliau actio llai, ond peidiwch â phoeni, mae digonedd o’r jôcs gwael traddodiadol, y nonsens a’r hwyl cartŵn ynddo fe hefyd.
Rydyn ni wedi hen arfer eich gweld chi’n rhoi tonc ar y sacsoffon, allwn ni ddisgwyl yr un peth eleni?
Rydw i'n edrych ymlaen at barhau â fy rôl fel y Dêm fwyaf Sacsi yn y gorllewin. Rydw i'n chwarae fy sacs alto a bariton eleni, ond rydw i hefyd ar y gitâr fas ar gyfer 1 gân. Mae tonc ar fy ffliwt a fy nhrombôn i hefyd. Gorau po fwyaf!
Heb ddatgelu gormod, oes gennych chi hoff foment yn y sioe eleni?
Mae'r panto eleni’n llawn uchafbwyntiau i mi. Rydw i wrth fy modd yn gwylio'r cast hynod dalentog yn chwarae eu rhan. Maen nhw'n gwneud i mi chwerthin a chrïo. Am dîm, mor dalentog. Mae gen i ambell ddarn sy’n ffefryn ond dydw i ddim eisiau datgelu gormod. Beth am i mi ddweud eu bod nhw’n cynnwys twtws, codpish a balŵns.
I bobl sydd heb fod ym mhanto Theatr Clwyd o’r blaen efallai, pam ddylen nhw archebu tocyn?
Os nad ydych chi wedi bod i weld panto Roc a Rôl Theatr Clwyd o'r blaen, ble ydych chi wedi bod? Wir, dyma'r profiad panto gorau un. Mae’r set, y gwisgoedd, y gerddoriaeth, y coreograffi, y sgript a’r cyfarwyddo heb eu hail. Fe fyddwch chi wrth eich bodd gyda'r hwyl, y traddodiad, y gerddoriaeth a'r slapstic. Dim esgusodion ... dewch draw!