5 Munud gyda’r un o sêr y panto Theatr Clwyd, Daniel Lloyd
See dates and times 10 Tach 2023
News Story
Mae Daniel Lloyd yn wyneb hynod gyfarwydd i gynulleidfaoedd Theatr Clwyd. Nid yn unig y mae wedi perfformio mewn 16 o bantomeimiau’r lleoliad, ond hefyd mae wedi bod mewn cynyrchiadau o Little Shop of Horrors, The Hub, The Taming of The Shrew ac Animal Farm i enwi dim ond rhai. Efallai eich bod chi hefyd wedi ei weld ar raglenni teledu fel Brassic a Rownd a Rownd.
Oddi ar y llwyfan mae Daniel yn gerddor a chyfarwyddwr hynod dalentog. Eleni mae'n rhoi ei gitâr i lawr a bydd yn cyfarwyddo Sleeping Beauty ochr yn ochr â Francesca Goodridge. Mae'r ddau hefyd yn Gyfarwyddwyr Cyswllt Theatr Clwyd.
Fe wnaethon ni eistedd i lawr am sgwrs gyda Daniel i gael gwybod mwy:
Mewn cyfweliad nôl yn 2021 fe wnes di ddweud y byddet ti’n hoffi cyfarwyddo’r panto rhyw ddydd, a dyma ti! Mae'n rhaid dy fod di'n gyffrous iawn am fod yn cydgyfarwyddo Sleeping Beauty eleni?
O ydw, mi rydw i! Rydw i ar ben fy nigon. Mae llawer o fy mywyd gwaith i fel oedolyn yn ddyledus i Theatr Clwyd ac rydw i wedi dysgu’r rhan fwyaf o fy nghrefft yma ochr yn ochr â rhai cyfarwyddwyr, actorion, actor-gerddorion a phobl greadigol o safon byd. Mae Theatr Clwyd wastad wedi rhoi cyfle i mi. Mae’n lle gwych i weithio ac rydw i’n ystyried fy hun yn ffodus iawn. Rydw i wedi amsugno’r cyfan dros y blynyddoedd ac mae cael fy nwylo ar y panto fel cyfarwyddwr o’r diwedd wir yn freuddwyd yn dod yn wir! Rydw i'n addo cymryd gofal da ohono fo!
Rwyt ti wedi cyfarwyddo llawer o gynyrchiadau ac roeddet ti'n Gyfarwyddwr Cyswllt y llynedd ar Robin Hood. Ydi cyfarwyddo panto yn wahanol iawn i gyfarwyddo sioeau eraill?
Ddim mewn gwirionedd. Rydw i'n aml yn meddwl mewn termau cerddorol wrth gyfarwyddo. Mae'n ymwneud â rhythm, tempo a deinameg. Mae cyflymder y panto fel cân roc a rôl wyllt a fy ngwaith i ydi rhoi’r curiadau a’r rhythm i gyd at ei gilydd. Mae’n jig-so cerddorol hudolus gyda llond gwlad o elfennau hwyliog a manylder.
Mae angen gor-wneud mewn Panto felly yn amlwg dydi’r cyfarwyddo ddim yr un fath â drama naturiol. Ond mae dal angen dod o hyd i’r gwirionedd yn y cymeriadau a rheolau’r byd maen nhw’n byw ynddo… mae gwyro oddi wrth hynny, torri’r bedwaredd wal a gadael ein cynulleidfa ni i mewn yn rhan o’r hwyl yn rhan enfawr ohono ond mae angen i’r sylfaen fod yno er mwyn gallu gwneud hynny. Os ydyn ni'n adrodd y stori yn iawn fe allwn ni wneud yr hyn rydyn ni eisiau gyda'r gweddill ohono!
Rwyt ti hefyd wedi perfformio mewn llawer o bantos felly’n gwybod yn uniongyrchol sut brofiad ydi perfformio, ydi hyn yn helpu pan fyddi di'n cyfarwyddo'r sioe?
Yn bendant. Rydw i wedi cael sawl buddugoliaeth ond hefyd wedi marw lawer gwaith ar y llwyfan yna – rydw i’n teimlo ’mod i’n gwybod beth sy'n gweithio. Mae’n faes hyfforddi gwych ar gyfer dysgu beth sy’n gweithio gyda’n cynulleidfaoedd ni. Mae'n amgylchedd maddeugar iawn, cofia. Os bydd rhywbeth yn mynd o'i le, rhaid i ti gofleidio hynny, bachu arno fo fel cyfle a chreu eiliad hwyliog gydag o. Fel actor, rydw i wedi teimlo curiad y panto ac yn gwybod pa mor wefreiddiol mae hynny’n gallu bod. Fe fydda’ i’n dal i fynd ar drywydd y wefr honno ond o ochr arall yr awditoriwm wrth gwrs.
Am flwyddyn yn unig fe fydd y panto Roc a Rôl yn digwydd mewn pabell fawr, sut mae hyn yn newid pethau?
Mewn sawl ffordd, fe fydd yr un hud yn cael ei gyflwyno yn y panto … ond yn fwy, mwy o fowns a mwy o feiddgarwch! Mae gennym ni awditoriwm gyda 900(?) o seddi gyda lle gwych i bob un aelod o'r gynulleidfa oherwydd sut mae'r llwyfan tair ochr yn gweithio. Dydw i ddim yn gallu addo y bydd pobl yn gallu cuddio rhag y gynnau dŵr hynod wlyb ond fe fydd y seddi’n gyfforddus, fe fydd y lleoliad yn gynnes a’r awyrgylch yn drydanol.
Hefyd mae bod mewn lleoliad gwahanol yn gyfle i ni ail-greu cynllun ein pantos ni mewn ffordd newydd sy'n wirioneddol fywiog ac mae Adrian Gee wedi gwneud gwaith gwych gyda hynny.
Rwyt ti wedi perfformio mewn fersiwn blaenorol o Sleeping Beauty – beth sy’n ei wneud yn banto mor wych?
Mae'n glasur ac mae’r stori’n hawdd ei dilyn. O ran plot does dim llawer iddo fo… mae Beauty yn pigo ei bys, yn cwympo i gysgu, yn cael ei chusanu gan dywysog, yn deffro ac yn byw yn hapus byth wedyn. Mae’r amryddawn Christian Patterson wedi chwarae dipyn gyda’r stori glasurol, y plot a’r cymeriadau (sboliar: does dim Tywysog!) a gyda chynllun disglair Adrian rydw i’n meddwl ein bod ni wedi llwyddo i greu fersiwn ffres a hwyliog o’r stori glasurol gyda digonedd o droeon newydd. Mae’r cyfarwyddwr cerdd gwych, Tayo, yn gofalu am y caneuon ac mae gennym ni bopeth yn ei le!
Beth fyddet ti'n ei ddweud wrth y rhai sydd heb brynu tocyn eto?
Dyma gyfle unwaith mewn oes i weld ein panto ni ar y raddfa yma mewn lleoliad mor unigryw â hwn. Gwnewch hynny nawr!
Mae’r tocynnau’n gwerthu’n gyflym ar gyfer y sioe eleni gyda mwy nag 22,000 wedi’u gwerthu eisoes, felly peidiwch â cholli’r cyfle! Cliciwch yma i archebu nawr.