5 Munud gyda’r awdur panto Theatr Clwyd, Christian Patterson
See dates and times 3 Tach 2023
News Story
Dyma’r 6ed panto i Christian Patterson ei ysgrifennu ar gyfer Theatr Clwyd, a gyda jôcs doniol a ffraethineb cyflym dydyn nhw byth yn siomi. Cyn y cynhyrchiad o Sleeping Beauty The Rock ‘n’ Roll Panto eleni, fe gawsom ni sgwrs gyda Christian i gael gwybod mwy.
Mae ymarferion Sleeping Beauty wedi dechrau! Pryd wnaethoch chi ddechrau ysgrifennu’r sioe ar gyfer eleni?
Fe ddechreuodd y sgyrsiau am Sleeping Beauty ym mis Hydref 2021 ond sgyrsiau llac oedden nhw ar y cyfan am deitl panto y byddai Theatr Clwyd eisiau ei wneud efallai. Fe fyddwn i'n dweud bod yr ysgrifennu o ddifrif wedi dechrau yn gynnar ym mis Medi 2022. Mae'n ymddangos fy mod i’n dechrau ysgrifennu pantos yn gynharach ac yn gynharach nawr, ond roedd yn arbennig o bwysig gyda Sleeping Beauty oherwydd roedden ni i gyd yn gwybod bod symud o theatr “draddodiadol” i Babell Fawr yn mynd i gyflwyno amrywiaeth eang o heriau i bob adran ac y byddai angen eu trafod… a dweud y gwir, dyma fi'n ysgrifennu rhag-agoriad cwbl newydd! Mae'r cyfan yn rhan o becyn y panto!
Mae'r sioe’n cael ei chynnal mewn Pabell Fawr eleni. Ydi hyn yn newid y ffordd rydych chi'n ysgrifennu'r sioe?
Ydi. Roeddwn i wedi ysgrifennu fy nrafft cyntaf o Sleeping Beauty ac roeddwn i'n hapus iawn ag o... ond wedyn fe ges i gyfle i weld syrcas / drama / cerddoriaeth mewn Pabell Fawr a chyn gynted ag y gwnes i adael y sioe roeddwn i'n gwybod bod rhaid i mi fynd yn ôl at y bwrdd a bod ychydig yn ddewrach. Mae’n debyg fy mod i wedi sylweddoli bod yr hyn welais i fel heriau ar gyfer ysgrifennu ar gyfer Pabell Fawr yn gyfleoedd mewn gwirionedd a doeddwn i ddim eisiau colli'r antur / profiad hwnnw. Fe wnes i ysgrifennu cymeriad newydd hyd yn oed… cymeriad sydd ddim yn siarad… dydw i ddim yn mynd i ddweud wrthych chi pwy / beth ydi’r cymeriad… bydd raid i chi ddod i weld drosoch chi’ch hun!
Mae llawer o wahanol fersiynau o Sleeping Beauty, sut ydych chi'n penderfynu pa ddarnau yr hoffech chi eu cadw a pha elfennau yr hoffech chi eu newid?
Wel mae pantomeimiau yn chwedlau moesoldeb a dweud y gwir… y da yn erbyn y drwg… ac mae gwersi i’w dysgu oddi wrthyn nhw bob amser… er enghraifft, Beauty & the Beast ydi’r stori glasurol “Peidiwch â barnu llyfr oddi wrth ei glawr”… felly rydw i’n dechrau bob amser drwy ddarllen y llyfr gwreiddiol i ddod o hyd i naws / moesoldeb y stori a chadw hynny'n gadarn wrth galon y panto... ac ar ôl i mi gynnwys hynny... rydw i'n mynd yn wyllt!
Beth am y panto sy'n gwneud i bobl ddod yn ôl flwyddyn ar ôl blwyddyn?
Mae hi’n sioe deuluol wych! Mae rhywbeth at ddant pawb! Golygfeydd hyfryd, gwisgoedd anhygoel, cerddoriaeth wych, goleuadau ysblennydd, digon o chwerthin, cymeriadau arbennig, cyfle i fŵian, hisian a chymryd rhan! Mae’n hwyl i bob oedran… os ydych chi’n 4 neu’n 104!
Oes gennych chi hoff gymeriad yn y sioe eleni?
Oes… ac fe fydd yr un cymeriad yn y panto bob blwyddyn a dydw i ddim wedi ysgrifennu gair iddo hyd yn oed, ond fe fydd yn gwybod beth i’w ddweud a phryd i’w ddweud! Fy hoff gymeriad i ydi… y gynulleidfa! Y gynulleidfa ydi'r cymeriad sy'n gallu newid panto ym mhob un sioe! Mae'r sioe yn dibynnu ar gyfranogiad y gynulleidfa ac mae pob person ar y llwyfan yn gwybod hynny! CHI… ie CHI sy’n darllen hwn… CHI ydi fy hoff gymeriad i felly diolch i CHI am ddod yn ôl dro ar ôl tro!
Beth fyddech chi'n ei ddweud wrth bobl sydd heb archebu eu tocynnau eto?
ARCHEBWCH! ARCHEBWCH NAWR! O ddifrif… rhowch y gorau i ddarllen hwn ac ARCHEBWCH NAWR! ’Wnewch chi ddim difaru! A diolch i chi am eich teyrngarwch i Theatr Clwyd, i bawb sy’n rhan o’r sioe ar y llwyfan ac oddi arno… ac am ddod yn ôl flwyddyn ar ôl blwyddyn!
Mae’r tocynnau’n gwerthu’n gyflym ar gyfer y sioe eleni gyda mwy nag 22,000 wedi’u gwerthu eisoes, felly peidiwch â cholli’r cyfle! Cliciwch yma i archebu nawr.