Ceisiadau Ar Agor: Tîm Ysgrifennu Preswyl Cameron Mackintosh
See dates and times 11 Tach 2021
News Story
Mae Mercury Musical Developments (MMD) a Musical Theatre Network (MTN) wedi derbyn cyllid gan Sefydliad Cameron Mackintosh i gefnogi pum lleoliad fel rhan o Gynllun Cyfansoddwyr Preswyl Cameron Mackintosh.
Bydd y lleoliad nesaf yn digwydd yma yn Theatr Clwyd. Hwn hefyd fydd y tro cyntaf i'r cyfle fod i dîm ysgrifennu theatr gerdd o ddau berson, yn hytrach na chyfansoddwr unigol.
Drwy gyfrwng y cynllun hwn, mae cyfansoddwyr theatr gerdd proffesiynol (ac yn yr achos hwn, tîm ysgrifennu) yn cael eu paru â lleoliad ac yn cael cyfle i fod yn rhan o amrywiaeth o waith a allai gynnwys cyfansoddi aseiniadau ar brosiectau'r cwmni cynnal, gosod testun i gerddoriaeth neu weithio ar ddatblygu eu deunydd theatr gerdd eu hunain.
Disgwylir i geisiadau i fod yn Gyfansoddwyr Preswyl Cameron Mackintosh gyrraedd erbyn hanner nos ar nos Wener 10 Rhagfyr 2021. Bydd y lleoliad yn dechrau ym mis Ebrill 2022 a bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cael ffi hollgynhwysol o £11,500 yr un, diolch i gefnogaeth hael Sefydliad Cameron Mackintosh. Disgwylir i hyn gwmpasu 6 mis o amser yr awduron / cyfansoddwyr ac weithiau gellir ei ledaenu dros gyfnod ysbeidiol hirach.
Cytunir ar yr union amserlen a’r prosiectau i weithio arnynt mewn ymgynghoriad rhwng y cyfansoddwyr dethol a thîm Theatr Clwyd, ond y gobaith yw y bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus wedi’u lleoli yng Ngogledd Ddwyrain Cymru am gyfran sylweddol o’r chwe mis.
Mae’r cyfleoedd allweddol yn debygol o gynnwys:
- Cysgodi’r Cyfansoddwr a’r Awdur ar gydgynhyrchiad Theatr Clwyd / Gŵyl Theatr Chichester o sioe gerdd newydd yn cael ei chyfarwyddo gan Gyfarwyddwr Artistig Theatr Clwyd, Tamara Harvey.
- Lle ac amser i ysgrifennu.
- Cyfle i gyflwyno prosiect ar gyfer wythnos o ymchwil a datblygu a gweithdy yn Theatr Clwyd.
- Cysgodi cyfnod o Ymchwil a Datblygu ar gyfer sioe gerdd newydd yng nghyfnodau cynnar ei datblygiad.
- Gweithio gyda thimau Ymgysylltu Creadigol a Cherddoriaeth mewnol Theatr Clwyd.
Fel y soniwyd uchod, mae'r cyfnodau preswyl yn debygol o ddigwydd dros gyfnod o chwe mis, i gynnwys y prosiectau canlynol:
Sioe Gerdd Newydd - Ymarfer yn Llundain a'r Wyddgrug o fis Awst 2022 ymlaen
Bydd hyn yn cynnwys cyfle i gysgodi Cyfansoddwr ac Awdur y cynhyrchiad drwy gydol y cyfnod ymarfer ac agor. Gan weithio yn ôl yr angen yn unol â gofynion y cynhyrchiad, bydd y dyletswyddau'n cynnwys goruchwylio golygu'r sgôr yn ôl yr angen yn ystod galwadau band, ymarferion technegol a sioeau ymlaen llaw.
Gweithio gyda thimau Ymgysylltu Creadigol a Cherddoriaeth Theatr Clwyd
Mae ein tîm Ymgysylltu Creadigol yn gweithio gyda degau ar filoedd o bobl bob blwyddyn. Mae'r gwaith hwn ar draws cenedlaethau ac mae'n cynnwys sesiynau wythnosol rheolaidd yn ogystal â phrosiectau pwrpasol. Ar hyn o bryd rydym yn gweithio gyda phobl o 4 oed hyd at 93. Mae gennym grwpiau sy'n canolbwyntio ar anabledd, grwpiau sy'n cael eu cyfeirio drwy'r GIG, a grwpiau a atgyfeirir o'r Gwasanaethau Cymdeithasol. Mae ein Tîm Cerddoriaeth yn gyfrifol am gyflwyno'r addysg offerynnol a chanu ym mhob ysgol yn ein sir. Mae hefyd yn gweithredu ein 13 ensemble lleol sy'n cynnwys corau, cerddorfeydd llinynnol a bandiau pres. Hoffem i'r ymgeiswyr llwyddiannus weithio gyda rhai o'n grwpiau Ymgysylltu Creadigol a'n cerddorion ifanc fel rhan o'r lleoliad hwn. Gall natur y gwaith yma fod yn hyblyg a chael ei gytuno ar y cyd.
Ymchwil a Datblygu Cerddorol Newydd
Ar hyn o bryd rydym yn creu sioe gerdd lwyfan newydd a fydd yn ymddangos yn ein prif dŷ yn ystod 2024-2025. Bydd y sioe gerdd yng nghamau allweddol ei datblygiad cynnar yn ystod 2022 a byddai hyn yn cynnig cyfle i'r ymgeiswyr llwyddiannus ddilyn a chefnogi'r broses hon.
Ymchwil a Datblygu Ymgeiswyr
Bydd cyfle i'r ymgeiswyr gyflwyno syniad i ddatblygu eu gwaith eu hunain, a fyddai'n derbyn gweithdy a chael ei ddangos yn The Mix yn Theatr Clwyd (ein gofod theatr stiwdio anhygoel gyda 250 o seddi a fydd ar ochr ein bryn am ddwy flynedd yn ystod ein prosiect ailddatblygu cyfalaf mawr). Byddai Theatr Clwyd yn cyfrannu at yr Ymchwil a Datblygu hwn yn ariannol.
Os bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus eisiau ymgolli yn nigwyddiadau’r Cwmni rhwng y prosiectau penodol, efallai y bydd cyfle pellach i wneud hynny - yn enwedig arsylwi gwaith y Tîm Cerddoriaeth ac adrannau cysylltiedig eraill fel yr adran Sain.
I fod yn gymwys i wneud cais:
- Rhaid i chi fod yn dîm ysgrifennu dau berson sydd eisoes wedi cael o leiaf un darn o theatr gerdd wedi'i ysgrifennu ar y cyd wedi’i gynhyrchu yn broffesiynol (a all gynnwys gwaith â thâl i goleg drama neu sefydliad hyfforddi arall) - ynghyd â gwaith arall. O ran y term theatr gerdd, rydym yn golygu unrhyw beth lle mae cerddoriaeth a chân yn gyrru’r naratif.
- Rydym yn annog ymgeiswyr sydd yn Gymry a / neu wedi'u lleoli yng Nghymru ac o'r amrywiaeth ehangaf o gefndiroedd diwylliannol. Yn ddelfrydol, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gallu byw yn yr Wyddgrug neu Ogledd Ddwyrain Cymru drwy gydol cyfnodau’r lleoliad, yn ogystal ag o bosibl yn Llundain ar gyfer rhai cyfnodau ymarfer.
- Rhaid i ymgeiswyr fod yn byw yn y DU i fod yn gymwys.
- Yn gyffredinol, bydd angen i ymgeiswyr fod yn hunangynhaliol, yn hyblyg a bod â dyfeisgarwch i wneud y gorau o weithio gyda chriw mawr o staff mewn cwmni theatr cynhyrchu prysur.
- Mae'n ddymunol bod gan ymgeiswyr wybodaeth ymarferol dda am feddalwedd nodiant Sibelius.
Bydd angen i'r ymgeiswyr llwyddiannus fod yn aelodau o Mercury Musical Developments er mwyn derbyn y wobr; fodd bynnag, nid oes angen i chi fod yn aelod i wneud cais.
Sut i wneud cais:
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn ymgeisio, llenwch y ffurflen gais ar-lein sydd ar gael isod.
Mae angen manylion dau aelod y tîm ysgrifennu ar y ffurflen ac unwaith y bydd y ffurflen wedi'i chyflwyno bydd y ddau unigolyn yn derbyn e-bost yn cadarnhau gyda chyfarwyddiadau llawn ar gyfer uwchlwytho enghreifftiau o'ch gwaith ar ffurf mp3 (uchafswm o dri darn offerynnol, caneuon neu ddarnau byrion - dim mwy na 6 munud yr un) sy'n adlewyrchu amrywiaeth gwaith eich tîm. Gwnewch yn siŵr mai dim ond unwaith y byddwch chi'n uwchlwytho'r ffeiliau gofynnol i'ch ffolder tîm.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am eich cais, gallwch anfon e-bost at martin@mercurymusicals.com neu ffonio Martin ar 020 7395 5461.
Amserlen a Phroses:
Rhaid derbyn pob cais erbyn hanner nos ar nos Wener 10 Rhagfyr 2021.
Os byddwch chi’n cyrraedd y rhestr fer, byddwn yn rhoi gwybod i chi erbyn diwedd mis Ionawr.
Wedyn bydd gofyn i bob ymgeisydd ar y rhestr fer ysgrifennu dau ddarn byr o gerddoriaeth / cân i friff penodol y bydd angen eu cyflwyno erbyn hanner dydd ar ddydd Gwener 11 Chwefror 2022. Bydd ffi o £200 yn cael ei thalu i'r ymgeiswyr ar y rhestr fer am y cam hwn o'r broses.
Yn dilyn y broses hon, hysbysir rhestr fer derfynol o ymgeiswyr os ydynt wedi cael eu dewis ar gyfer cyfweliad. Bydd y cyfweliadau hyn yn cael eu cynnal yn ystod yr wythnos sy’n dechrau ar ddydd Llun 28 Chwefror 2022, gyda Theatr Clwyd.
Edrychwn ymlaen at glywed gennych chi.