News Story
Mae Theatr Clwyd yn gyffrous i gyhoeddi pedwar cyfle newydd arall ar gyfer cyfnodau preswyl yn 2024 i gefnogi artistiaid a chwmnïau i ddatblygu eu gwaith.
Rydym eisiau i’r cyfnodau preswyl hyn roi gofod i artistiaid chwarae heb yr angen am ‘ganlyniadau’ a bod yn fannau creadigol diogel lle gall sgyrsiau creadigol ddigwydd rhwng artistiaid.Bydd ein cyfnodau preswyl yn cynnwys y canlynol:
- Bwrsari i dalu costau teithio a llety.
- 2 wythnos o ofod ymarfer (dyddiadau wedi’u hamlinellu isod).
- Gofod desg yn swyddfeydd Theatr Clwyd.
- Cyngor a chefnogaeth un i un gan ein teuluoedd Creu Theatr, Profiad, Cymunedau a Chefnogi Cwmnïau.
- Cefnogaeth gyda cheisiadau am gyllid (mae posib defnyddio’r cais am gyfnod preswyl fel cefnogaeth o fath gwahanol hefyd wrth wneud cais am gyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru).
- Cyfle i gynnal sesiwn rhannu eich gwaith ar ddiwedd y cyfnod preswyl gyda thîm Theatr Clwyd (er nad oes pwysau i greu ‘cynnyrch terfynol’ a dim gofyniad i rannu eich gwaith).
Dyddiadau’r Cyfnodau Preswyl
Os nad yw’r dyddiadau isod yn gweithio i chi ond yr hoffech chi wneud cais o hyd, awgrymwch rai dyddiadau eraill yn eich cais.
- w/d 7 a w/d 13 Mai 2024 (bydd y cyfnod yn dechrau ar y dydd Mawrth i osgoi gŵyl y banc) - Ystafell Ymarfer 1
- w/d 22 a w/d 29 Gorffennaf 2024 - Ystafell Ymarfer 1
- w/d 2 a w/d 9 Medi 2024 - Ystafell Ymarfer 2
- w/d 7 a w/d 14 Hydref 2024 - Ystafell Ymarfer 1
Rydym yn arbennig o awyddus i glywed gan gwmnïau neu unigolion sydd wedi’u lleoli / sy’n gweithio yng Nghymru, cwmnïau neu unigolion sy’n gweithio yn y Gymraeg, a chwmnïau neu unigolion sy’n cael eu harwain gan a / neu sy’n creu gwaith gydag artistiaid o’r mwyafrif byd-eang ac artistiaid sy’n Fyddar a / neu’n anabl.
Ailddatblygiad Cyfalaf
Mae ein hadeilad ni’n cael ei ailddatblygu ar frys ar hyn o bryd i sicrhau ei fod nid yn unig yn ddiogel ac yn addas i’w bwrpas ond hefyd i fod yn gartref gwyrdd ac ysbrydoledig i’n cymuned ni am y 40 mlynedd nesaf a thu hwnt.
Sut i Wneud Cais
Anfonwch ddogfen atom (hyd at 3 ochr A4) neu fideo (hyd at 3 munud) sy'n cynnwys y canlynol:
- Crynodeb o'ch gwaith fel artist neu gwmni. Gallai hyn gynnwys gwybodaeth am gynyrchiadau blaenorol neu, os mai hwn fyddai eich prosiect cyntaf, syniad o'r gwaith yr hoffech ei wneud.
- Syniad o'r gwaith rydych eisiau ei ddatblygu gyda ni – ar gyfer beth fyddwch chi'n defnyddio'r amser? Pa gefnogaeth fyddai'n ddefnyddiol i chi? A fyddai rhannu eich gwaith gydag adborth yn werthfawr?
- Arwydd clir o ba un o'r cyfnodau preswyl fyddai'n gweithio i chi – os byddai sawl un yn bosibl, gwych! Rhestrwch nhw yn nhrefn blaenoriaeth. Os nad yw'r un o'r dyddiadau'n gweithio i chi, nodwch rai dyddiadau eraill.
Gall eich dogfen / fideo gynnwys lluniau, mapiau meddwl, unrhyw beth yr hoffech chi! Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg ac yn Saesneg.
Os ydych chi wedi gwneud cais i un o’n cyfnodau preswyl ni o’r blaen ond wedi bod yn aflwyddiannus, gwnewch gais eto, oherwydd byddem wrth ein bodd yn clywed gan gymaint o bobl â phosibl.
Anfonwch eich ceisiadau at sam.longville@theatrclwyd.com
erbyn 5pm dydd Iau 29 Chwefror 2024. Byddwn yn rhoi gwybod i chi am ganlyniad eich cais erbyn dydd Gwener 8 Mawrth.