Y Gweinidog Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth yn lansio cystadleuaeth gyffrous yn Theatr Clwyd
See dates and times 4 Gorff 2023
News Story
Croesawodd Theatr Clwyd Dawn Bowden AS, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth Llywodraeth Cymru, ynghyd â chynrychiolwyr o Gyngor Sir y Fflint a Chyngor Celfyddydau Cymru, i arddangos y cynnydd o ran ailddatblygu ei hadeilad mawr.
Bydd ailddatblygiad cyfalaf mawr Theatr Clwyd yn trawsnewid yr adeilad 47 oed, o un nad yw bellach yn addas i’r pwrpas, i fod yn gartref gwyrdd, cynaliadwy a chroesawgar i’r rhanbarth a’i gymunedau. Bydd y prosiect yn sicrhau bod Theatr Clwyd, sy’n theatr hynod lwyddiannus, yn parhau i ffynnu ac yn rhan bwysig o sbarduno Gogledd Cymru a Sir y Fflint fel cyrchfan i ymwelwyr. Bydd y newidiadau’n sicrhau bod y sefydliad yn gallu parhau i wasanaethu ei gymunedau lleol, gyda hybiau arbenigol i bobl ifanc, ardaloedd chwarae dan do ac awyr agored, ystafelloedd iechyd a lles, a mannau cymunedol i bawb eu defnyddio a’u mwynhau.
Mae'r trawsnewid yn mynd rhagddo'n dda ar hyn o bryd, gyda thu allan yr adeilad bellach yn amlwg. I ddathlu’r prosiect nodedig yma, ymwelodd Dawn Bowden AS, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth, â’r safle i weld y cynnydd hyd yma, yn ogystal â lansio cystadleuaeth gyffrous i bobl ifanc yn yr ardal leol.
0 Stars
Roeddwn i’n falch iawn o weld y cynnydd sy’n cael ei wneud o ran ailddatblygu Theatr Clwyd. Mae ein buddsoddiad sylweddol ni yn y trawsnewid hwn yn ymrwymiad yn ein rhaglen lywodraethu ac mae’n dangos ein bod yn cydnabod y manteision cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd sylweddol y mae Theatr Clwyd yn eu sicrhau i Gymru, yn enwedig i gymunedau lleol gogledd ddwyrain Cymru. Mae ein buddsoddiad wedi'i gynllunio i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau yn y ddarpariaeth ac i ddarparu gwell mynediad i'r celfyddydau a diwylliant yng Ngogledd Cymru. Mae’n amlwg bod Theatr Clwyd yn gyfleuster poblogaidd iawn yn yr ardal – ac edrychaf ymlaen at weld gweledigaeth fuddugol y plant lleol ar gyfer yr hyn sydd gan y Theatr i’w gynnig i’r dyfodol. Dymunaf yn dda i’r tîm wrth i’r gwaith barhau ar y trawsnewid hwn.Dywedodd y Dirprwy Weinidog.
Bydd cystadleuaeth Dychmygu’r Dyfodol Theatr Clwyd yn gwahodd pobl ifanc 5 i 14 oed i ddylunio poster yn darlunio eu gweledigaeth o sut le fydd Theatr Clwyd yn y dyfodol, unwaith y bydd y gwaith ailddatblygu wedi’i gwblhau. Bydd dyluniadau’r enillydd a dau fydd yn hawlio’r ail safle yn cael eu cynhyrchu gan dîm mewnol Theatr Clwyd a’u harddangos yn ystod tymor y pantomeim eleni ar y byrddau hysbysebu mawr o amgylch y theatr tra bo’r gwaith adeiladu ar y gweill. Bydd 40,000 o bobl yn dod i weld y Pantomeim Roc a Rôl blynyddol, Sleeping Beauty, sy’n cael ei gynnal eleni mewn Pabell Fawr gyda 900 o seddi tra bo’r gwaith cyfalaf yn mynd rhagddo.
0 Stars
Yn dilyn chwe blynedd o gynllunio mae'n gyffrous cyrraedd y pwynt o adeiladu ar y safle. Mae’r gefnogaeth gan ein partneriaid ni, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, yn cael ei gwerthfawrogi’n fawr, ac rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at groesawu cymunedau yn ôl i’r adeilad wedi’i ailddatblygu pan fydd wedi’i orffen. Yn y cyfamser, rydyn ni’n parhau i gynnig rhaglenni ar y safle ac, yn gyffrous iawn, am gyflwyno panto unigryw mewn Theatr Pabell Fawr. Rydw i’n edrych ymlaen at weld yr holl ddyluniadau a’r ceisiadau gan bobl ifanc fel bod ein cynulleidfaoedd ni’n cael eu hysbrydoli gan eu syniadau ar gyfer dyfodol Theatr Clwyd.Dywedodd Liam Evans-Ford, y Cyfarwyddwr Gweithredol yn Theatr Clwyd.
I’r dyfodo
Mae Theatr Clwyd yn mynd drwy newidiadau mawr, darluniwch neu baentio sut rydych chi’n dychmygu y bydd neu y gallai Theatr Clwyd edrych ar ôl i’r ailddatblygiad gael ei orffen.
Bydd y cynllun buddugol a’r ddau orau wedyn yn cael eu gosod ar y byrddau ochr yn ochr â’r ailddatblygiad cyn y Pantomeim Nadolig. Bydd enillwyr y gystadleuaeth yn cael eu dewis gan ein Dêm Panto arbennig ni, Phylip Harries, a’u cyhoeddi gan Dawn Bowden AS, y Dirprwy Weinidog Chwaraeon, Celfyddydau a Thwristiaeth..
Rheolau’r Gystadleuaeth:
• Rhaid i’r ymgeiswyr fod rhwng 5 ac 14 oed
• Y dyddiad cau yw dydd Gwener 15fed Medi 2023
• Darluniau neu baentiadau ar ddarn o bapur portread A4 neu A3
• Dyluniadau i’w hanfon at: Y Tîm Datblygu, Theatr Clwyd, Adeilad Dewi Sant, Sgwâr Daniel Owen, Ffordd yr Iarll, Yr Wyddgrug, CH7 1DQ. Cofiwch gynnwys eich enw, eich oedran a manylion cyswllt.