News Story
Mae Theatr Clwyd yn cynhyrchu sioe newydd (wedi’i hysgrifennu gan Katie Elin-Salt a’i chyfarwyddo gan Eleri B. Jones) yn seiliedig ar stori wir y Fonesig Eleanor Butler a Miss Sarah Ponsonby.
Pan ddaeth Sarah ac Eleanor o hyd i’w gilydd, aethant ati i herio confensiwn, gan ffoi o’u cartrefi ac oddi wrth eu teuluoedd, wedi’u halltudio gan gymdeithas oedd ddim yn deall eu cariad. Gan ddechrau bywyd newydd yn Llangollen, daethant yn enwog yn eu hoes, ar ôl cael eu gorfodi i wylio straeon eu bywydau eu hunain yn cael eu hailadrodd gan y rhai oedd ddim yno. Nawr, maen nhw'n ôl, yn barod i hawlio eu stori yn ôl hefyd, yn gwbl haeddiannol, a'r tro yma, mae hynny’n digwydd ar eu telerau nhw.
Bydd ensemble cymunedol y sioe yn chwarae rhan bwysig yn y sioe ac yn rhan allweddol o’r cwmni. Byddant yn gweithio ochr yn ochr â’r prif gast mewn ymarferion a byddant yn rhan annatod o symudiad ac iaith weledol y sioe.
Rydym yn chwilio am gast cymunedol* o 16 (wedi'i rannu'n 2 dîm o 8) – ac mae'n agored i unrhyw un dros 18 oed. Os oes gennych chi unrhyw anghenion hygyrchedd, rhowch wybod i ni fel rhan o'ch cais er mwyn i ni allu darparu ar eu cyfer.
Dyddiadau ar gfer y Prosiect: 18 Ebrill i 6 Mehefin
Ymarferion – nosweithiau Mawrth a Iau, a dydd Sadwrn rhwng 18fed Ebrill a 14 o Fai
Ymarferion Technegol – nosweithiau yn ystod yr wythnos o 16 o Fai
Perfformiadau – 4 perfformiad yr wythnos y grŵp yn ystod wythnos yr wythnos o 23 a 30 o Fai, gyda’r posibilrwydd o berfformiadau ychwanegol yn wythnos y 6ed o Fehefin.
Diwrnod y Gweithdy – Dydd Sadwrn 12 Mawrth
I gael clyweliad rhaid i chi gofrestru ar gyfer un o sesiynau’r gweithdy – mae’r llefydd yn gyfyngedig:
- 10:00-12:00
- 13:00-15:00
- 15:30-17:30
Does dim angen paratoi unrhyw beth. Byddwch yn gweithio gydag Eleri, ein cyfarwyddwr, ar rai darnau ensemble ac yn darllen rhai dyfyniadau byr o destun y ddrama.
Cliciwch yma i gofrestru ar gyfer y clyweliadau
*Sylwer bod hwn yn gyfle cyfranogol i aelodau’r gymuned ac nid yw’n gyfle i actorion proffesiynol.