Artistiaid arobryn yn creu gwaith newydd yng Ngogledd Cymru.
See dates and times 27 Tach 2024
News Story
Bydd wyth artist o fri yn creu gweithiau celf newydd hardd a fydd wrth galon adeilad Theatr Clwyd ar ei newydd wedd. Mae’r darnau, gan gynnwys cerameg, collage, a cherflunwaith, yn cael eu creu gan artistiaid o fri cenedlaethol a rhyngwladol yn ogystal ag arloeswyr mewn cyfnod cynnar yn eu gyrfa.
Mae pob un o’r gweithiau celf newydd yn cael eu creu’n benodol ar gyfer y theatr, gyda'r artistiaid yn archwilio themâu o hanes a phresennol Theatr Clwyd, ac yn ymgysylltu â'r cymunedau, yr archifau a'r amgylchedd lleol i ddatblygu eu dyluniadau.
Mae'r artistiaid sydd wedi’u comisiynu’n cynnwys y cerflunydd arobryn o Gymru Manon Awst; yr awdur a’r gwneuthurwr rhaglenni dogfen Jude Rogers, a fydd yn cydweithio â'r artist a'r archifydd Catrin James; Huw Davies, enillydd gwobr BAFTA; Sum Place dan arweiniad Colin Davies, sy’n creu gweithiau celf ar raddfa fawr; y seramegydd blaenllaw Frances Priest; y dylunydd tecstilau Sauda Imam a’r gwneuthurwr murluniau Ivan Kashdan.
0 Stars
Mae adeilad creadigol yn sicr angen artistiaid sy’n ymwneud â dylunio a chyflwyno, ac ochr yn ochr â phenseiri a thimau dylunio o safon byd, mae’n gyffrous cael cymysgedd o artistiaid Cymreig a rhyngwladol yn gweithio ar ein comisiynau celf cyhoeddus. Bydd cyd-destun eu gwaith yn canolbwyntio ar chwareusrwydd, cymdogaeth, cymunedau a lliw – rydw i’n cyffroi bob tro y bydd pob un ohonyn nhw’n cyflwyno eu cam dylunio nesaf, ac yn edrych ymlaen yn fawr iawn at eu rhannu nhw gyda’r cyhoedd wrth agor yr adeilad yn 2025!Cyfarwyddwr Gweithredol Theatr Clwyd, Liam Evans-Ford.
Fel rhan o’r broses gomisiynu, hysbysebodd Theatr Clwyd dri galwad agored am gyflwyniadau a derbyniodd dros 120 o geisiadau. Darparir y cyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
Bydd ailddatblygiad cyfalaf mawr adeilad 46 oed rhestredig gradd II Theatr Clwyd yn sicrhau cartref gwyrdd a chynaliadwy i’w chymunedau ac yn diogelu profiadau diwylliannol, lles a chymunedol o ansawdd uchel yng Ngogledd Cymru ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.