Y cogydd arobryn o Gymru, Bryn Williams, i lansio bwyty nodedig gyda Theatr Clwyd yng Ngogledd Cymru
See dates and times 7 Mai 2024
News Story
Heddiw, mae Theatr Clwyd yn cyhoeddi y bydd y cogydd o Ddinbych sydd wedi hawlio bri rhyngwladol, Bryn Williams, yn lansio bwyty nodedig yn y lleoliad yng Ngogledd Cymru.
Mae Williams, cogydd a pherchennog bwytai sydd wedi ennill gwobrau Michelin, yn cael ei ystyried fel un o gogyddion gorau’r DU. Mae ei fwytai yn cynnwys Odette’s yn Llundain, Porth Eirias ym Mae Colwyn, sef bwyty, caffi a bar ar lan y môr ar Arfordir Gogledd Cymru, The Cambrian yn Alpau syfrdanol y Swistir, a The Touring Club ym Mhenarth.
0 Stars
Rydw i wrth fy modd am fod yn dychwelyd adref i fy ngwlad enedigol, i weithio mewn partneriaeth â Theatr Clwyd, sefydliad rydw i’n gyfarwydd ag o ers bod yn blentyn yn tyfu i fyny yn lleol. Rydw i’n edrych ymlaen yn fawr at rannu fy angerdd coginio dros ein rhanbarth unigryw a deinamig ni a’i gynnyrch gyda fy nghymuned i.Bryn Williams.
0 Stars
Rydyn ni’n hynod gyffrous am weithio mewn partneriaeth â Bryn ar ein darpariaeth bwyd a diod ni yn Theatr Clwyd - gan gynnwys bwytai, bariau ac yn ein holl leoliadau ni ar gyfer digwyddiadau a manwerthu. Rydyn ni bob amser yn anelu at weithio gyda phobl o safon fyd-eang yn yr hyn maen nhw’n ei wneud, pobl sy'n rhannu ein gwerthoedd ni, ac sydd â chysylltiadau cryf â'n hardal leol. Mae Bryn yn cyflawni’r rhain i gyd ac edrychwn ymlaen at weithio gydag ef i wneud Theatr Clwyd yn adnabyddus fel cyrchfan bwyd a diod, yn ogystal â lleoliad ar gyfer diwylliant o safon byd a gwaith gyda chymunedau.Liam Evans-Ford, Theatr Clwyd’s Executive Director.
Bydd y bwyty newydd yn agor yn 2025 yn adeilad Theatr Clwyd ar ôl cwblhau’r prosiect ailddatblygu hanfodol.
Bywgraffiad Bryn Williams
Yn hanu o ychydig filltiroedd o galon Theatr Clwyd, mae Bryn Williams, a gafodd ei eni yn Ninbych, yn Gogydd Cymreig dawnus sydd wedi creu argraff nodedig ar y byd coginio.
Fe ddysgodd Bryn i werthfawrogi bwyd a'i darddiad o oedran cynnar. Wedi’i eni i deulu ffermio, datblygodd barch at fwyd wrth dyfu llysiau, pysgota a rheoli adar hela ar fferm ei ewythr. Ar drip ysgol i ymweld â becws lleol, cafodd ei swyno gan y broses o wneud bara ac fe daniodd hynny ddiddordeb mewn bwyd ynddo, a’r prosesau angenrheidiol i symud o gynhwysion i’r cynnyrch, sy’n aros gydag ef hyd heddiw. Ar ôl hynny fe fu'n gweithio yn y becws hwnnw fel bachgen ar ddydd Sadwrn. Yn ddiweddarach mynychodd Goleg Llandrillo Cymru.
Mae wedi cael ei gyflogi yn rhai o geginau mwyaf mawreddog Llundain gan weithio o dan gyfarwyddyd Marco Pierre White yn The Criterion, Michel Roux yn Le Gavroche, ac fel y senior-sous yn The Orrery. Mae Bryn wedi bod yn Gogydd Nawdd Odette’s ers 2008.
Mae Bryn hefyd ym Mhorth Eirias, Bae Colwyn, Bwyty, Caffi a Bar ar lan y môr ar Arfordir Gogledd Cymru. Yn 2020 agorodd Bryn ei drydydd bwyty yng ngwesty ‘The Cambrian’ yn Alpau godidog y Swistir. Y lleoliad diweddaraf yw’r ‘Touring Club’ yn Ne Cymru.
Mae Porth Eirias a'r Touring Club wedi derbyn gwobr fawreddog Bib Gourmand Michelin.
Mae Bryn yn hynod gyffrous am gael y cyfle i ddod â’i greadigrwydd a’i fwydlenni wedi’u curadu’n wych i Theatr Clwyd. Mae natur dymhorol, creadigrwydd, cynaliadwyedd ac angerdd dros ddefnyddio cynnyrch lleol a hyrwyddo’r pantri amrywiol a safonol sydd gan Ogledd Cymru i’w gynnig yn elfennau allweddol o’r ffordd y mae Bryn yn darparu ei fwyd.