Blog: Y Cwnselydd Chris Holmes – Sut cafodd Theatr Clwyd gwnselydd mewnol
See dates and times 25 Hyd 2024
News Story
Fe wnes i ddechrau gweithio yn Theatr Clwyd ym mis Chwefror 2022 fel Cwnselydd Cwmni ac Ymarferydd Lles. Yn 2018 fe wnes i groesi llwybrau gyda Theatr Clwyd a’r gwaith gwych roedden nhw’n ei wneud ac fe wnaeth hynny ddechrau’r sgwrs…
Roeddwn i’n rhan o gydweithrediad rhwng Cyngor Sir y Fflint, ymddiriedolaeth y GIG ac elusen cyffuriau ac alcohol sy’n gweithio gyda phobl ifanc sydd mewn perygl. Fe fuon ni’n gweithio’n agos gyda Theatr Clwyd, ac fe fu ei Thîm Ymgysylltu Creadigol, dan arweiniad Gwennan Mair, yn cynnal gweithdai yn y theatr, i agor llygaid ac ysbrydoli’r bobl ifanc oedd yn cymryd rhan. Roedd y gwaith yn werth chweil, ac roedd gweld newid cadarnhaol mewn plant mor ifanc â 10 oed yn wych. Ond roedd hefyd yn heriol iawn. Fe wnaethon ni ddechrau siarad am sut i gefnogi'r tîm oedd yn cyflwyno’r sesiynau, yn ogystal â'r cyfranogwyr. Parhaodd y sgyrsiau hynny i dyfu, yn enwedig o dan gysgod y pandemig. Roedd Theatr Clwyd yn cydnabod y brwydrau iechyd meddwl oedd pawb sy’n ymwneud â’r diwydiant theatr yn eu hwynebu ac roedd eisiau gwneud rhywbeth yn ei gylch.
Heriau Iechyd Meddwl
Mae’r theatr yn amgylchedd pwysedd uchel. Gall yr angen cyson i brofi eich hun, ansicrwydd ynghylch gwaith i weithwyr llawrydd, a gofynion emosiynol creu ac adolygiadau arwain at lefelau uchel o straen, gorbryder, iselder ysbryd a gorflinder. Mae’n fater y mae byd y theatr a’r celfyddydau yn ehangach yn dechrau ei nodi. Amlygodd adolygiad Equity o astudiaethau academaidd sy'n canolbwyntio ar iechyd meddwl a lles dueddiadau sy'n peri pryder - o 54% o fyfyrwyr y celfyddydau perfformio yn dweud eu bod yn teimlo'n orbryderus neu'n isel eu hysbryd (1), i unigolion yn y celfyddydau ddwywaith yn fwy tebygol o brofi iselder o gymharu â'r rhai y tu allan. (2).Chwalu'r Stigma
Yn anffodus, mae stigma o hyd ynghylch iechyd meddwl, hyd yn oed yn y celfyddydau, ac mae ofn barn yn aml yn llesteirio sgyrsiau am les y meddwl. Er mwyn sicrhau’r gorau o ran darpariaeth, sgiliau a gallu ein
foster an open, trusting, and supportive environment that allows us to nurture well-being and establish a culture of understanding (3). gweithluoedd ni, mae’n rhaid i ni feithrin amgylchedd agored, llawn ymddiriedaeth a chefnogol sy’n ein galluogi ni i feithrin lles a sefydlu diwylliant o ddealltwriaeth (3).
Y Manteision
Arweiniodd cydnabyddiaeth Theatr Clwyd o’r ystod eang o gymorth iechyd meddwl sydd ei angen ar y cwmni at gydweithio gyda ni. Am 2 ddiwrnod yr wythnos rydw i'n cynnig gofod cyfrinachol lle gall aelodau'r tîm archwilio eu hemosiynau, rheoli straen, a datblygu strategaethau ymdopi effeithiol.
“Roeddwn i wedi bod yn cael trafferth mawr i reoli’r pwysau uchel o ran disgwyliadau roeddwn i’n eu rhoi arnaf i fy hun. Fe wnaeth y cwnsela gyda Chris fy helpu i ddod o hyd i fecanweithiau i ddelio â rhywfaint ohono ac addasu. Pan ydw i dan lai o straen a ddim yn teimlo pwysau’r byd ar fy ysgwyddau mae fy ngwaith i’n gwella’n aruthrol – mae’n fudd sy’n werth ei bwysau mewn aur. Mae wedi newid y gêm i mi.”
Mae cost i'r gwaith yma wrth gwrs, ond mae’n sicrhau manteision sylweddol. Gall drawsnewid pobl - ailadeiladu hunan-barch a hyder, gan ein harfogi ni â sgiliau ymdopi ymarferol, a rhoi cyfle i ni ddelio ag emosiynau anodd yn fwy effeithiol. Pan fydd pobl yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi, mae'n lleihau absenoldebau staff, yn cynyddu creadigrwydd, ac mae’r cyfraniadau yn y gwaith yn well. Gall naws gweithle newid, gan greu amgylchedd mwy pleserus a chynhyrchiol. Ar ôl gweld yr effaith y mae cymorth iechyd meddwl wedi’i chael ar Theatr Clwyd, rydw i’n credu bod diwydiant cryfach, iachach yn bosibl. Drwy ddarparu cymorth iechyd meddwl mae posib lleihau’r stigma o’i gwmpas ac, yn y pen draw, bydd yn diflannu, gan sicrhau bod y diwydiant yn ffynnu fel esiampl ar gyfer creadigrwydd a lles.
Fy nhri cyngor doeth i chi roi cynnig arnyn nhw
Mae rhai technegau syml y gallwch chi roi cynnig arnyn nhw os byddwch chi'n cael trafferth.
Dod  Chi’ch Hun I’r Presennol:
Ar adegau o gythrwfl emosiynol mawr, mae'n gyffredin teimlo eich bod chi wedi datgysylltu o'r presennol. Mae dod â chi’ch hun i’r presennol yn helpu i setlo'r meddwl a gwneud pethau’n well, gan roi cyfle i ni wneud penderfyniadau ar sail emosiwn a rhesymoldeb.
Dull 5,4,3,2,1:
Anadlwch yn ddwfn a chanolbwyntiwch ar...
5 peth y gallwch chi eu gweld
4 peth y gallwch chi eu teimlo
3 pheth y gallwch chi eu clywed
2 beth y gallwch chi eu blasu
1 peth y gallwch chi ei arogli
Addaswch y synhwyrau i'r hyn sy'n gweithio orau i chi.
Estyn Allan am Gefnogaeth
Mae ceisio cefnogaeth gan anwyliaid yn hollbwysig. Mae help proffesiynol, fel cwnsela neu linellau cymorth, yn bwysig, ond peidiwch â diystyru pŵer ymddiried mewn ffrindiau neu deulu. Gall rhannu baich a theimlo eich bod yn cael eich clywed gael effaith aruthrol a helpu i ysgafnhau pethau i chi.
Dangos Tosturi Atoch Chi’ch Hun
Monitro sut rydych chi'n siarad â chi'ch hun. Yn lle hunanfeirniadaeth, dychmygwch siarad â chi'ch hun fel y byddech chi'n ei wneud â ffrind yn yr un sefyllfa. Byddwch yn gydymdeimladol, yn amyneddgar ac yn garedig. Rydych chi yr un mor haeddiannol o'ch tosturi eich hun ag unrhyw un arall
Cefnogaeth
Ar ôl darllen yr erthygl hon, os ydych chi’n teimlo bod angen cymorth arnoch chi, cysylltwch ag unrhyw un o’r adnoddau isod:
- Applause For Thought:
- Wellbeing in the Arts:
- 0330 123 5574 neu 07496 896 436
- support@wellbeinginthearts.org.uk
- Industry Minds:
- info@industryminds.co.uk
- Samaritans:
- Ffoniwch: 116 123
- jo@samaritans.org
- Shout:
- Text ‘Shout’ to 85258
Cyfeiriadau
- Curtis, J. N. (2019). The mental health of musical theatre students in tertiary education: A pilot study. Studies in Musical Theatre, 13(3), 333-348
- Maxwell, I., Seton, M., & Szabo, M. (2015). The Australian actors’ wellbeing study: A preliminary report. In About Performance (No. 13, pp. 69-113).
- McManus S, Bebbington P, Jenkins R, Brugha T. (eds.) (2016). Mental health and wellbeing in England: Adult psychiatric morbidity survey 2014.