News Story
Bydd Neuadd William Aston yn cynnal digwyddiad cyffrous i gerddorion ifanc ym mis Mawrth eleni. Bydd Ymddiriedolaeth Cerddoriaeth Theatr Clwyd a Chwmni Cydweithredol Cerddoriaeth Wrecsam a Dinbych yn dod at ei gilydd i gynnig cyfle anhygoel i offerynwyr a chantorion ifanc ddatblygu sgiliau gydag athrawon cerdd profiadol, cwrdd â phobl newydd a gwneud ffrindiau newydd yn ogystal â pherfformio ar lwyfan Neuadd William Aston.
Dros gyfnod o dridiau (25-27 Mawrth) bydd y cyfranogwyr yn gweithio ar amrywiaeth o ddarnau i’w perfformio i ffrindiau a theulu ar y diwrnod olaf. Mae’r cyfle’n agored i bob offeryn yn ogystal â chantorion. Mae angen i’r perfformwyr fod rhwng 10 a 18 oed (blynyddoedd ysgol 6 i 13) a bod ar raddau 3 i 6 yn fras. Nid oes raid bod wedi cwblhau arholiadau, a dim ond canllaw yw hwn.
Dyma’r tro cyntaf ers dros 10 mlynedd i’r siroedd hyn ddod at ei gilydd i weithio mewn partneriaeth i gynnig cyfle ar y cyd i gerddorion ifanc ar draws gogledd ddwyrain Cymru.
0 Stars
Mae’r math yma o gyfleoedd mor bwysig i gerddorion ifanc. Rydyn ni’n creu llwybr ar gyfer eu cynnydd cerddorol, lle gallant gwrdd â phobl ifanc eraill sy’n deall cerddoriaeth, creu grwpiau cyfoedion cadarnhaol a gwella eu dyheadau.Cath Sewell, Cyfarwyddwr Cerddoriaeth Theatr Clwyd.
0 Stars
Mae’n gyffrous iawn dod â’n cerddorion ifanc ni o bob rhan o dair sir at ei gilydd yn y cydweithrediad gwych yma. Mae’n grêt gweld buddsoddiad yn cael ei wneud o’r diwedd yn yr ensembles yma sydd mor hanfodol ar gyfer hunan-barch, hyder, lles a sgil.Heather Powell, Pennaeth Gwasanaeth Cydweithfeydd Cerddoriaeth Wrecsam a Sir Ddinbych.
Mae’r cyfle i gyd yn rhad ac am ddim, ond bydd cost fechan am y perfformiad. Am fwy o fanylion cliciwch yma.