News Story
Mae Casglu yn gyfle misol ar gyfer dawnswyr, symudwyr a gwneuthurwyr i ddod at ei gilydd i symud, rhannu a chysylltu ar draws Gogledd Cymru. Mae Casglu yn bartneriaeth rhwng Chywaith Dawns Gogledd Cymru, Theatr Clwyd, Pontio a Coleg Cambria.
Bydd y sesiwn cyntaf mewn cyfres o 12 sesiwn misol yn cael ei gynnal yn Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug ar Ddydd Gwener 30 Fedi ac yna bydd yn symud bob yn ail rhwng Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug, Pontio, Bangor a Choleg Cambria, Wrecsam.
Mae'r sesiynau hyn wedi'u hanelu at unrhyw un sydd ag ymarfer dawns neu symud proffesiynol yn ogystal â myfyrwyr mewn hyfforddiant llawn amser.
I archebu'ch lle neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, ebostiwch angharad.jones@theatrclwyd.com
Sesiwn Tachwedd
Byrfyfyr Cyswllt gyda Bryn ThomasDyddiad - Dydd Llun 14 Tachwedd
Lleoliad - Theatr Clwyd yn Adeilad Dewi Sant, Sgwâr Daniel Owen, Ffordd yr Iarll, Yr Wyddgrug, CH71 DD
Amser - 10:30-1:30pm
Disgrifiad -
Mae byrfyfyr cyswllt yn fath o ddawnsio byrfyfyr sydd wedi bod yn datblygu'n rhyngwladol ers 1972. Mae'n ymwneud ag archwilio'ch corff mewn perthynas ag eraill trwy ddefnyddio hanfodion rhannu pwysau, cyffwrdd, ac ymwybyddiaeth o symudiadau.
Mae Bryn wedi ymrwymo i hwyluso gofod diogel i bob dawnsiwr ac mae'n cydnabod yr angen am sylw ychwanegol i gydsyniad a ffiniau gweithio gyda galwadau cyffwrdd.
Gwybodaeth am Bryn -
Mae Bryn wedi bod yn ymarfer CI ers 15 mlynedd ac wedi cynnal gweithdai rhyngwladol ers 2015, gan ddawnsio gyda Nita Little, Charlie Morrissey, Jovair Longo, Vega Lukkonen, a llawer o rai eraill, a dysgu ganddynt. Mae gan Bryn ddiddordeb arbennig yn agweddau technegol cyswllt, gan ymchwilio i fecaneg yr hyn sy'n digwydd pan fydd cyrff yn cyfarfod. Mae’n tynnu ar ei brofiad fel dawnsiwr cyfoes a ‘nerd’ symudiad cyffredinol i helpu dawnswyr i ddeall harddwch byrfyfyr cyswllt a chael hwyl wrth ei wneud!