Cyhoeddi’r cast ar gyfer Panto Roc a Rôl Pabell Fawr Theatr Clwyd, Sleeping Beauty
See dates and times 5 Medi 2023
News Story
Wrth i’r haf ddirwyn i ben a’r flwyddyn ysgol ddechrau unwaith eto, dim ond un peth sydd ar feddwl pawb, PANTO! Heddiw mae cast panto Roc a Rôl blynyddol Theatr Clwyd wedi cael ei gyhoeddi.
Wedi’i ysgrifennu unwaith eto gan yr awdur arobryn Christian Patterson, fe all cynulleidfaoedd ddisgwyl sioe sy’n llawn ffraethineb cyflym a digon o gomedi. Am flwyddyn yn unig bydd y panto’n cael ei gynnal mewn Pabell Fawr. Mae Christian yn un o’r wynebau mwyaf adnabyddus ar lwyfan Theatr Clwyd, ar ôl perfformio arno droeon mewn sioeau gan gynnwys The Rise and Fall of Little Voice ac Insignificance.
Yn dychwelyd i’r panto breuddwydiol yma mae Phylip Harries fel Nurse Nellie, a hefyd yn dychwelyd mae dyn drwg arobryn y panto Ben Locke fel Mordecai, Alice McKenna fel Fang, Celia Cruwys-Finnigan fel Muddles, Caitlin Lavagna fel Cwtch, Georgina White fel Calon a Dan Bottomley fel King Dom.
Yn ymddangos am y tro cyntaf ar lwyfan Theatr Clwyd mae Theo Diedrick fel Snarl, Emma Kinney fel Beauty ac Ai Kumar fel Cariad.
Mae’r tîm creadigol yn cynnwys y Cynllunydd Set a Gwisgoedd: Adrian Gee, y Coreograffydd: Annie-Lunnette Deakin-Foster, y Cynllunydd Goleuo: Johanna Town, y Cynllunydd Sain: Matthew Williams, y Cyfarwyddwr Cerdd: Tayo Akinbode, y Cyfarwyddwr Ymladd: Kaitlin Howard, y Cyfarwyddwr Castio: Kay Magson, a’r Cyfarwyddwr Cynorthwyol: Juliette Manon.
Eleni Francesca Goodridge a Daniel Lloyd, Cyfarwyddwyr Cyswllt Theatr Clwyd, fydd yn cyfarwyddo’r panto Roc a Rôl. Ar ôl perfformio ym mhantomeimiau Theatr Clwyd am flynyddoedd lawer a bod yn Gyfarwyddwr Cyswllt ar y panto arobryn y llynedd, nid yw’r genre yn ddieithr i Daniel. Roedd Francesca Goodridge yn Gyfarwyddwr Cynorthwyol ar Banto Roc a Rôl Dick Wittington yn Theatr Clwyd yn 2018 yn ogystal â chyfarwyddo sioeau Nadolig mewn lleoliadau eraill.
0 Stars
Rydyn ni’n falch iawn o fod yn cyfarwyddo pantomeim enwog Theatr Clwyd eleni. Mae gan y ddau ohonom ni gymaint o gariad at banto Clwyd ac, wrth gael camu oddi ar y llwyfan a chyfarwyddo mae’n brawf y gall breuddwydion ddod yn wir mewn bywyd go iawn – ac nid dim ond mewn straeon tylwyth teg! Fe fydd hwn yn brofiad newydd sbon i’n cynulleidfaoedd ni wrth i’r Babell Fawr addo cyflwyno panto ar raddfa nad ydyn ni wedi’i gweld erioed o’r blaen - mae’n mynd i fod yn wledd! Mae ein tîm gwych ni’n cynnwys rhai wynebau cyfarwydd a rhai perfformiadau cyntaf cyffrous newydd. Fe fydd gennym ni'r holl gags gwirion, holl hud y panto, a'r tiwns fydd yn eich siglo chi i’ch sail … gydag ambell sypreis newydd ar hyd y ffordd wrth gwrs. Strapiwch eich hun i mewn - mae'n mynd i fod yn fawr, yn feiddgar, yn lliwgar ac yn Nadoligaidd. Dydyn ni ddim yn gallu aros i'w rannu gyda chi i gyd!Francesca Goodridge and Daniel Lloyd
Am flwyddyn yn unig mae panto Roc a Rôl Theatr Clwyd yn cael ei gynnal mewn Pabell Fawr wrth i’r gwaith o ailddatblygu’r adeilad barhau. Bydd seddi i fwy na 900 o bobl yn y gynulleidfa ar dair ochr yn y Babell Fawr, sy'n golygu y bydd y cynulleidfaoedd yn nes at y cyffro nag erioed o'r blaen. Bydd y gofod wedi'i gynhesu ac yn cynnwys seddi cyfforddus. Mae mynediad gwastad gyda 10 o lefydd i gadeiriau olwyn ar gael, bydd y bws gwennol hefyd yn rhedeg o'r maes parcio i'r rhai sydd ei angen.
Mae Theatr Clwyd yn un o bedair theatr yn unig yn y wlad sy’n adeiladu setiau ac yn creu props a golygfeydd ac yn eu paentio ac yn gwneud gwisgoedd yn gyfan gwbl yn fewnol. Ac fe fydd hynny’n digwydd gyda’r cynhyrchiad yma hefyd. Mae’r tîm creadigol wedi bod yn gweithio’n galed eisoes yn paentio, adeiladu, gwnïo a gwneud props ar gyfer y cynhyrchiad anferth yma.
Mae’r tocynnau’n gwerthu’n gyflym ar gyfer y sioe eleni gyda mwy nag 16,000 wedi’u gwerthu eisoes, felly peidiwch â cholli’r cyfle, byddwch yn gyflym ac archebu nawr.