News Story
Mae Theatr Clwyd wedi bod yn gweithio gydag ysgolion a cholegau ar draws y gogledd ers deng mlynedd a mwy, gyda’i gweithdy perfformio rhyngweithiol sy’n edrych ar ganlyniadau Ymddygiad Troseddol ymhlith pobl ifanc.
Gyda chefnogaeth Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru a’r Gronfa Strydoedd Mwy Diogel, sm y tro cyntaf yn ei hanes, fis Chwefror yma bydd cyfle i bobl ifanc rhwng 10 ac 17 oed a’u rhieni/gofalwyr o Gei Connah, Shotton, Queensferry a Sealand gymryd rhan yn y gweithdy gyda’i gilydd, ynghyd â phartneriaid o’r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid, Sorted Sir y Fflint, Gwasanaeth Ieuenctid Sir y Fflint ac Aura.
Gyda’i gilydd byddant yn dilyn hynt a helynt dyn ifanc, sy’n raddol yn canfod ei hun yn y criw anghywir ac ar ochr anghywir y gyfraith.
Gan weithio gyda hwyluswyr, actorion proffesiynol a Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Sir y Fflint byddant yn dysgu sut mae’r system gyfiawnder troseddol yn gweithio mewn perthynas â phobl ifanc, yn archwilio’r dewisiadau a’r dangosyddion o ran ein troseddwr ifanc ac yn edrych ar effaith ehangach ymddygiad gwrthgymdeithasol – ar yr unigolyn yn ogystal â’r teulu a’r gymuned ehangach. Mi fydd yna hefyd gyfle i gwestiynu a thrafod amgylchiadau’r drosedd, a gyda’n gilydd byddwn yn edrych ar y rhesymau dros yr ymddygiad a darganfod datrysiadau.
Ar ôl y gweithdy, bydd Aura yn hwyluso nifer o weithgareddau chwaraeon i gyfranogwyr gymryd rhan ynddyn nhw, a bydd lluniaeth ar gael.
Bydd y gweithdai’n cael eu cynnal:
Dydd Llun 20 Chwefror 2023 - Clwb Ieuenctid Cei Connah (1.30pm – 4pm)
Dydd Llun 20 Chwefror 2023 - Canolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy (5.30pm – 8pm)
Dydd Mawrth 21 Chwefror 2023 - Clwb Ieuenctid Sealand (1.30pm – 4pm)
Dydd Mawrth 21 Chwefror 2023 - Clwb Ieuenctid Sealand (5.30pm – 8pm)
Dydd Mercher 22 Chwefror 2023 - Tŷ Calon (1.30pm – 4pm)
Cofiwch archebu lle gan fod llefydd yn brin.
Archebwch eich lle yma.