News Story
Mwy o wybodaeth am ein prosiect Caniatâd.
Agor oriel o luniau
Mae Emyr John wedi gweithio i’r sefydliad ers 16 o flynyddoedd. Fe gawsom ni sgwrs gydag o i gael gwybod mwy.
Disgrifiwch rôl y Tîm Ymgysylltu Creadigol:
Ni ydi wyneb y theatr yn y gymuned, rydyn ni’n eiriolwyr dros sut gall y celfyddydau newid bywydau unrhyw un go iawn. Rydyn ni yma i ymgysylltu a gweithio gyda phob oedran a chefndir, i brofi bod y celfyddydau wir i bawb.
Beth ydi’ch rôl chi yn y theatr?
Fe symudais i i fyny i Glwyd yn 2006 fel Gweithiwr Allgymorth i'r theatr. Fe wnes i weithio fel hwylusydd actorion i Theatr Pobl Ifanc Theatr Clwyd a dod yn Gyfarwyddwr Cynorthwyol ar sawl sioe gyda Tim Baker.
Fe wnes i weithio ledled y sir a thu hwnt, o Glybiau Ieuenctid i Ganolfannau Cymunedol. Hefyd fe wnes i weithio llawer gyda'n rheolwr Nawdd, a chreu The Justice Programme a Bright Sparks, sydd wedi bod yn weithredol ers dros ddeng mlynedd.
Ers hynny, rydw i wedi ysgrifennu a chyfarwyddo trioleg o sioeau Cymraeg, a’u cyfieithu i’w perfformio yn Saesneg hefyd. Rydw i wedi bod yn Gyswllt gyda Tamara Harvey ar Curtain Up, yn ogystal â gweithio gyda’n grwpiau Cwmni 30 a Cwils.
Ar hyn o bryd rydych chi'n creu ac yn cyfarwyddo prosiect rhyngweithiol o'r enw Consent a fydd yn teithio i ysgolion. Dywedwch wrthyn ni am y prosiect.
Rydyn ni’n gweithio’n agos gyda Darpariaeth Ieuenctid Sir y Fflint, gan greu gweithdy perfformio am Ganiatâd Rhywiol. Ar ddiwrnod cyntaf yr ymarferion, fe adroddwyd yn eang bod ystadegau diweddaraf yr ONS yn rhoi Gogledd Cymru fel yr ardal gyda’r gyfran fwyaf o droseddau rhyw wedi’u cofnodi y tu allan i Lundain. I ni, roedd hyn yn profi’r angen am addysg ynghylch materion Caniatâd y mae angen eu haddysgu o'r oedran cynharaf, a mwyaf priodol. Mae ein stori ni’n dilyn perthynas sy’n blodeuo rhwng dau yn eu harddegau sy’n troi’n drasiedi. Rydyn ni’n dilyn y digwyddiadau, ac mae’r tîm yn helpu’r bobl ifanc i wynebu, dysgu a thrafod yr holl faterion mae’r stori’n eu codi, gan geisio sicrhau eu bod yn deall beth mae caniatâd yn ei olygu o ran unrhyw berthynas.
Beth ydych chi'n edrych ymlaen ato fwyaf am yr ailddatblygiad?
Rydw i'n meddwl y bydd cael ein mannau penodol ein hunain i wneud yr holl waith cymunedol yn anhygoel, yn ogystal â'r gwelliant enfawr i'n hanghenion mynediad. Cael adeilad sy'n addas at y diben i ofalu am ei gyfranogwyr, yn ogystal â'i weithlu. Dim mwy o fwcedi o dan doeau sy'n gollwng!
Beth ydych chi'n edrych ymlaen ato fwyaf yr hydref yma?
Dychweliad ein grwpiau cymunedol ni, a chroesawu wynebau newydd yn ogystal â'n mynychwyr rheolaidd. Fe fydda’ i’n dyfeisio ac yn cyfarwyddo sioe ryngweithiol am ganiatâd i ysgolion uwchradd, gyda’n partneriaid ni yng Ngwasanaeth Ieuenctid Sir y Fflint. Rydw i hefyd yn mwynhau'r posibilrwydd o ychwanegu cangen arall at ein Rhaglen Gyfiawnder.