News Story
Mae Craidd, oedd yn cael ei adnabod fel Ramps Cymru, wedi penodi pum Asiant dros Newid a fydd wedi’u lleoli mewn lleoliadau partner ledled Cymru a byddant yn edrych ar anghenion a gofynion penodol pob sefydliad
Yr asiantau yw Cathy Piquemal (Theatr Clwyd), Jonny Cotsen (Theatr y Sherman), Bridie Doyle-Roberts (Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru), Angharad Tudor (Theatr y Torch) a Nikki Hill (Pontio).
Cathy Piquemal
Theatr ClwydJonny Costen
Sherman TheatreBridie Doyle-Roberts
Angharad Tudor-Price
Nikki Hill
Pontio
0 Stars
Mae’n bleser mawr gen i groesawu ein criw ni o Asiantau dros Newid. Bydd y profiad fyddan nhw’n ei gyfrannu at y rôl yn hanfodol i greu ac arwain newid yn y sector theatr yng Nghymru. Yn ogystal â chefnogi newid yn eu lleoliadau priodol, bydd yr Asiantau'n gweithio fel tîm i sicrhau bod eu gwybodaeth a'u profiad byw o fudd i'r bartneriaeth Craidd gyfan.Penodwyd Sara Beer, Cyfarwyddwr dros Newid, ym mis Mai y llynedd.
Mae Craidd yn gydweithrediad rhwng pump o sefydliadau yng Nghymru, sef Theatr Clwyd, Theatr y Sherman, Celfyddydau Pontio, Theatr y Torch, a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Ei chenhadaeth yw gwella cynrychiolaeth brif ffrwd, ar gyfer a gyda phobl Fyddar, anabl a niwroamrywiol ledled Cymru. Mae hefyd yn gobeithio creu newid cadarnhaol yn y sefydliadau partner cysylltiedig, yn ogystal ag o fewn y sector theatr ehangach.
Roedd cam cyntaf y cydweithredu’n cynnwys archwiliad o bob sefydliad, sgyrsiau sector, hyfforddiant helaeth, a diffinio map ffordd ar gyfer y 5 mlynedd nesaf.
Ar ôl ymgynghori, newidiodd Ramps Cymru ei enw i ‘Craidd’, y mae posib ei gyfieithu o’r Gymraeg i olygu ‘core’ sy’n adlewyrchu uchelgais gwaith y bartneriaeth i fod wrth galon yr holl waith o greu theatr.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am waith Craidd cysylltwch â’r Cyfarwyddwr dros Newid Sara.Beer@craidd.cymru.