Dawnswyr Delyn, yr Wyddgrug, yn codi arian ar gyfer Grŵp Dawnsio ar gyfer Parkinson’s Theatr Clwyd
See dates and times 14 Chwef 2023
News Story
Lansiwyd grŵp Dawnsio ar gyfer Parkinson’s Theatr Clwyd yn 2019. Mae’r grŵp yn cynnwys dawns, symud a cherddoriaeth fyw sydd wedi’u cynllunio’n benodol ar gyfer pobl sy’n byw gyda Parkinson’s, eu teuluoedd a’u gofalwyr. Mae’r sesiynau Dawns ar gyfer Parkinson’s yn gwahodd cyfranogwyr i symud mewn ffordd sy’n teimlo’n dda iddyn nhw. Maen nhw’n cynnwys ymarferion eistedd a sefyll y gellir eu haddasu i anghenion unigolion ac sy'n hygyrch i bawb. Mae'r sesiynau'n canolbwyntio ar ddod o hyd i lif, cryfder a mynegiant drwy symud gyda chefnogaeth cerddoriaeth fyw atgofus. Maen nhw’n gorffen gydag amser i gael paned a sgwrs.
Yn ystod y pandemig symudodd y grwpiau ar-lein ym mis Mawrth 2020 ac maen nhw wedi parhau ar-lein yn ogystal ag wyneb yn wyneb, gan roi cyfle i bobl o bob rhan o Gymru a’r DU gymryd rhan.
Grŵp Dawnsio Gwerin Cymreig yw Dawnswyr Delyn sy’n cyfarfod yn yr Wyddgrug. Fe wnaethon nhw estyn allan at Theatr Clwyd i godi arian ar gyfer Dawnsio ar gyfer Parkinson’s gan fod gan aelodau o’u grŵp brofiad byw o’r cyflwr. Yn gynharach eleni yn ystod eu taith Twmpath a’r Fari Lwyd o amgylch Sir y Fflint, cododd Dawnswyr Delyn swm anhygoel o £848 i’w roi i Theatr Clwyd.
0 Stars
Rydyn ni mor ddiolchgar i Ddawnswyr Delyn a’u cefnogwyr am y rhodd yma. Mae ein grwpiau ni wedi parhau i dyfu ers y pandemig ac mae'r rhodd yma’n gyfle i ni barhau â'r gwaith hanfodol rydyn ni’n ei wneud.Angharad Jones, Cyswllt Dawns Ymgysylltu Creadigol yn Theatr Clwyd
0 Stars
Rydyn ni i raddau helaeth yn grŵp lleol sydd, drwy ein hoffter o gadw dawnsio traddodiadol Cymreig, cerddoriaeth a’r iaith yn fyw, yn cynnal ychydig o ddigwyddiadau lleol bob blwyddyn i unrhyw un eu profi. Rydyn ni’n hoffi rhoi’r arian sy’n cael ei godi i elusennau sy'n cysylltu mewn rhyw ffordd â'n grŵp ni. Y tro yma roedd Dawnsio ar gyfer Parkinson’s, sy’n cael ei gefnogi gan Theatr Clwyd, yn newydd i ni ac yn arbennig o agos at ein calonnau. Roedd cadw’r rhodd yn lleol, o ystyried ffynhonnell y rhoddion, yn teimlo fel y peth iawn i’w wneud hefyd.Geraint Wilde, trysorydd Dawnswyr Delyn
I gael gwybod mwy am Ddawnsio ar gyfer Parkinson’s, cliciwch yma.