News Story
Cyhoeddi Digwyddiad Recriwtio a Gwirfoddoli.

Mae Theatr Clwyd yn dechrau recriwtio ar gyfer swyddi cyflogedig a gwirfoddol wrth iddi baratoi i agor ym mis Mehefin yn dilyn ei hailddatblygiad mawr. Mae amrywiaeth o swyddogaethau ar gael – o Weithwyr Cadw Tŷ i Dechnegwyr Goleuo, arbenigwyr TG i dywyswyr gwirfoddol. Mae’r digwyddiad yn cael ei gynnal ar Sgwâr Daniel Owen yr Wyddgrug ar ddydd Mercher 12 Mawrth rhwng 10am a 2pm lle gallwch ddod i wybod am y swyddogaethau a chael mwy o fanylion.
Dywedodd Laura Temple, Pennaeth Pobl Theatr Clwyd:“Mae gennym ni swyddi a swyddogaethau gwirfoddol cyffrous i ddod wrth i ni baratoi i agor y theatr. Os ydych chi’n chwilio am her newydd, neu eisiau rhoi rhywbeth yn ôl i’ch cymuned, mae’r digwyddiad yma ar eich cyfer chi.”
Mae’r digwyddiad yn cael ei gynnal mewn partneriaeth â Chymunedau am Waith a Mwy Cyngor Sir y Fflint.
Bydd pob rôl yn cael ei hysbysebu yn theatrclwyd.com/jobs
Dyddiad: Dydd Mercher 12 Mawrth
Amser: 10am – 2pm
Lleoliad: Sgwâr Daniel Owen, Canol Tref yr Wyddgrug
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch cfwtriage@flintshire.gov.uk neu people@theatrclwyd.com