News Story
Yn Y Sbotolau - Diweddariad 2023
Mae gennym ni lawer i fod yn gyffrous yn ei gylch yn Theatr Clwyd yr haf yma, yn enwedig gan ein bod yn croesawu ein Cyfarwyddwr Artistig newydd, Kate Wasserberg, i’r tîm cyn bo hir. Yn dechrau ym mis Hydref, rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at ei gweld yn ymuno â Theatr Clwyd ac yn arwain cyfeiriad artistig y cwmni.
Yn ôl o’i gyfnod yn y West End, cynhaliwyd ein cynhyrchiad cyfranogol o The Great Gatsby drwy gydol yr haf yn Nhafarn y Dolphin yn yr Wyddgrug ac wrth gwrs mae’r gwaith o ailddatblygu’r adeilad ei hun – a ddechreuodd yn llawn ar y safle ym mis Ionawr eleni – yn symud yn gyflym ac mae posib gweld newidiadau mawr wrth i chi gerdded i’n cyfleusterau theatr dros dro ni ar y safle.
Mae’n bleser gennym ni ddweud ein bod ni bellach wedi codi mwy na £4 miliwn mewn arian preifat tuag at y gwaith ailddatblygu cyfalaf ac fe lansiwyd yr ymgyrch codi arian gyhoeddus yn ddiweddar. Mae digonedd o ffyrdd y gallwch chi chwarae eich rhan i helpu i gyflwyno’r adeilad anhygoel yma a gyda’n gilydd byddwn yn creu Theatr Clwyd i genedlaethau’r dyfodol allu ei mwynhau.
Edrychaf ymlaen at eich gweld chi yn fuan.
Liam Evans-Ford | Cyfarwyddwr Gweithredol
Mae The Big Give Yn Ôl
Mae The Big Give yn ôl ac eleni bydd yn fwy ac yn well nag erioed.
Gyda phob rhodd sy’n cael ei chyfrannu yn ystod yr wythnos yn cael ei dyblu, byddwn yn gallu codi arian y mae ei wir angen ar gyfer yr ailddatblygiad. Hefyd bydd cystadlaethau, ocsiwn a bore coffi.
Wythnos wych – peidiwch â’i cholli!
Wythnos y Big Give 28 Tach - 5 Rhag
Cyfweliad: Kate Wasserberg
C: Croeso Kate, beth oedd y meddyliau cyntaf wrth weld ein bod ni’n chwilio am Gyfarwyddwr Artistig newydd?
Fe wnes i feddwl - dyna fy swydd ddelfrydol i! Mae Theatr Clwyd wedi bod yn gartref i mi erioed, ac wrth ddarllen pecyn y swydd fe gefais i fy syfrdanu gan y weledigaeth - lle i bawb, uchelgais creadigol, caredigrwydd, cynhwysiant, hwyl.
C: Rydyn ni newydd gynnal wythnos profiad gwaith, pryd oeddech chi’n gwybod eich bod chi eisiau bod yn gyfarwyddwr?
Chwech oed oeddwn i - roedd fy nhad (athro) yn cyfarwyddo drama ysgol ac fe es i i ymarfer. Dod adref a dweud wrth mam - rydw i eisiau gwneud hynny, beth oedd Dad yn wneud. Rydw i’n cofio’r union deimlad – bod yna ofod lle gallech chi adeiladu bydoedd gyda phobl a phawb yn credu gyda’i gilydd. Roedd yn ymddangos fel hud. Mae felly o hyd.
C: Roeddech chi’n Gyfarwyddwr Cyswllt yn Theatr Clwyd, pa ran ydi eich hoff ran chi o’r adeilad?
Rydw i’n caru pob bricsen!
Mae’r ddau ofod theatr yn berffaith, ac rydw i mor hapus eu bod nhw’n aros fel oedden nhw – mae’r berthynas gyda’r gynulleidfa mor uniongyrchol a chynnes. Rydw i hefyd yn hoff iawn o’r olygfahyfryd oedd i’w gweld o’r grisiau yn unig, ac a fydd ar gael yn ogoneddus yn fuan o flaen yr adeilad i gyd!
C: Rydych chi’n ymuno yng nghanol gwaith ailddatblygu mawr, pa ofod ydych chi’n edrych ymlaen fwyaf at weithio ynddo?
Rydw i’n hynod gyffrous am wneud sioeau yn ein theatrau ni, ac wrth fy modd o gael llenwi blaen y tŷ gyda danteithion hudolus, croesawgar i bawb. Mae ein llefydd cymunedol ni’n mynd i fod yn wefreiddiol ac rydw i’n edrych ymlaen cymaint at eu rhannu nhw gyda phawb.
C: Yn olaf, beth ydi eich hoff fath o theatr?
Rydw i wrth fy modd gydag unrhyw beth sydd â stori dda. Gall fod yn syml neu’n rhyfedd iawn, ond os ydi’r stori’n gyffrous, rydw i’n hoffi hynny. Rydw i hefyd wir yn credu y dylai fod rhywfaint o roi yn ôl ym mhob darn o gelf, a dydw
Eisiau bod yn berchen ar ddarn o Theatr Clwyd?
Erbyn diwedd mis Awst byddwn wedi cwblhau’r holl stripio allan o’r gofodau mewnol. Mae stripio’r adeilad yn y llun ar y blaen wedi datgelu’r rhan o dan y brif theatr. Dydyn ni ddim yn gallu ei chadw fel hyn yn yr adeilad sydd wedi’i ailddatblygu’n llawn ond mae’n strwythur anhygoel i’w weld.
Fel rhan o’r ailddatblygiad, rydyn ni’n ychwanegu system trin aer newydd at yr adeilad a’r holl ofodau theatr, gan wella’r awyru a chyfforddusrwydd. I wneud hyn mae’r adeiladwyr wedi tynnu silindrau concrit o’r brif theatr ac rydyn ni wedi casglu’r rhain fel eich bod chi nawr yn gallu bod yn berchen ar ddarn o Theatr Clwyd.
Stop drws anarferol gyda hanes diddorol?
Gyda dim ond nifer cyfyngedig ar gael - bydd angen i chi ddod i mewn yn gyflym os ydych chi eisiau un. Cadwch lygaid ar y wefan ar sut i gael un.
Beth sy’n digwydd ar y safle?
Mae’r adeilad yn fwrlwm o weithgarwch wrth i’r adeiladwyr drawsnewid Theatr Clwyd. Gyda’r blaen yr un lled â’r National Theatre yn Llundain, canfu arolwg yn 2010 bod yr adeilad yn syrthio’n ddarnau a heb fuddsoddiad mawr byddai’n rhaid ei gau. Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, Cyngor Sir y Fflint a Chyngor Celfyddydau Cymru byddwn yn achub Theatr Clwyd ac yn gwneud yn siŵr ei bod yn aros ar agor ac yn gartref i bawb yn y gymuned ac yn cael ei diogelu i genedlaethau’r dyfodol ei mwynhau.
Cyn yr ailddatblygiad roedden ni’n gwneud y tro yn yr adeilad ond doedd o ddim yn addas i’r diben bellach ac yn dod yn fwyfwy peryglus. Yn ystod un gaeaf fe wnaethon ni ddarganfod ei bod hi’n bwrw eira - y tu mewn!
Mae gan bob aelod o’r cwmni eu straeon eu hunain am yr adeilad a’r heriau maen nhw’n eu hwynebu wrth weithio ynddo, ond mae llawer o anwyldeb tuag at yr adeilad ac mae Theatr Clwyd yn cael effaith ddofn ar fywydau pobl sy’n byw yng Ngogledd Cymru, ac fel un o bedair theatr yn unig yn y DU gyda’i holl gyfleusterau creu yn fewnol, mae’n adnodd hanfodol ar gyfer diwydiant theatr y DU.
Y mis yma mae’r gwaith pentyrru wedi dechrau ar flaen yr adeilad. Bydd y prif estyniad i’r ailddatblygiad yn manteisio ar y golygfeydd anhygoel o Fryniau Clwyd a bydd bwyty, siop a mannau chwarae newydd sbon dan do ac yn yr awyr agored i deuluoedd.
Bydd gan y theatr hwb ieuenctid pwrpasol newydd hefyd ac ystafell celfyddydau, iechyd a lles fel ein bod yn gallu cefnogi pobl sy’n byw gyda chyflyrau iechyd drwy’r celfyddydau.
Ar hyn o bryd rydyn ni wedi cwblhau 12% o’r gwaith adeiladu, ac ar amser, a’r hyn sydd fwyaf cyffrous, oherwydd ein cynllun rheoli gwastraff, o’r 955m³ o wastraff o’r adeilad – does dim ohono wedi mynd i safleoedd tirlenwi.
Eisiau darllen mwy?
Mae Liam, ein Cyfarwyddwr Gweithredol, wedi ysgrifennu blogbost hir-ddarllen am yr ailddatblygiad gyda llwyth o luniau, fideos a mewnwelediad am y prosiect a’r gwahaniaeth y bydd yn ei wneud i bawb! Cliciwch Yma!
Chwarae Eich Rhan
Rydyn ni wedi lansio’r ymgyrch codi arian gyhoeddus ar gyfer ailddatblygiad Theatr Clwyd ac rydyn ni angen eich help chi. Rydyn ni wedi cael cefnogaeth wych gan ein cyfranwyr preifat ond mae gennym ni dipyn o waith codi arian eto ac mae digon o ffyrdd i gymryd rhan.
Y tro nesaf byddwch yn ymweld – mae gennym ni goeden gyfrannu unigryw yn ein cyntedd dros dro. Cyfrannwch yn y bocs wrth y derfynell ddigyswllt ac wedyn ychwanegu blodyn at y canghennau a gwylio’r goeden yn blodeuo. For more information Cliciwch Yma!
Enwi Teilsen £15
Enwi sedd yn y sinema £50
Enwi sedd yn theatr Emlyn Williams £100
Enwi sedd yn theatr Anthony Hopkins £100
Enwi drych mewn ystafell wisgo £350
O £500 - Yr oriel wylio - Bydd oriel wylio newydd sbon lle gallwch wylio ein dylunwyr golygfaol yn gweithio eu hud i greu’r golygfeydd a’r propiau anhygoel a welwch ar ein llwyfannau. Bydd yr oriel wylio hon yn anrhydeddu Cyfarwyddwyr Artistig y gorffennol, y presennol a’r dyfodol – sy’n breuddwydio’n fawr am ein mwynhad ni.
Oeu godi arian eich hun - O gynnal bore coffi i gwblhau her llawn adrenalin, mae digon o ffyrdd i chi godi arian ar gyfer y gwaith ailddatblygu. Am ragor o syniadau cliciwch yma
I gael gwybod mwy am sut gallwch chi gefnogi’r ailddatblygiad, cysylltwch â’r tîm datblygu:
• Claire Pilsbury – claire.pilsbury@theatrclwyd.com
• Janine Dwan - Janine.dwan@theatrclwyd.com
Profiad Gwaith
Roedd yn bleser croesawu 12 myfyriwr o ysgolion yng Ngogledd Cymru i ymuno â ni am brofiad gwaith. Yn ystod yr wythnos fe fuon nhw’n cysgodi pob adran yn y sefydliad a chael sgwrs gan aelod corfforaethol, Bad Wolf, y stiwdio deledu tu ôl i raglenni fel His Dark Materials, Dr Who ac Industry.
The Great Gatsby
Yr haf yma fe aethon ni yn ôl i’r 1920au ac roedd llawer o hwyl i’w gael ym mharti Gatsby. Dilynwyd y cymeriadau o ystafell i ystafell wrth iddynt adrodd eu straeon. O lyfrgell Gatsby i boudoir Daisy, roedd cyfrinachau’n cael eu rhannu, pryderon yn cael eu rhyddhau a coctêls yn cael eu hyfed!
“keeps the jazz age alive with song, dance and spectacle” The Guardian
Perthyn
Yr haf yma daeth ein holl gwmnïau Ymgysylltu Creadigol at ei gilydd i greu Perthyn. Perfformiad tair noson o’u dehongliad nhw o sgriptiau Truth or Dare. Roedd yn wych gweld pawb yn cydweithio ac, i rai, hwn oedd y tro cyntaf iddyn nhw berfformio ar lwyfan i gynulleidfa. Llongyfarchiadau i bawb oedd yn rhan o’r digwyddiad.