News Story
Rydym yn hynod o ddiolchgar i Lyan Packagingam gefnogi ein Caffi Atgof. Diolch i'w cefnogaeth hael rydym wedi gallu darparu cyflenwadau celf a chrefft sydd angen eu hail-lenwi'n aml!
Mae'r Caffi Atgof yn ofod diogel i'r rheini sydd yn dioddef o golli'r cof i fwynhau'r celfyddydau gyda theulu a ffrindiau, wedi ei arwain gan ein staff a gwirfoddolwyr Dementia Gyfeillgar.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi gweld Caffi Atgof yn tyfu o gyfartaledd o 15 aelod i 40 aelod ar hyn o bryd. Bob mis, mae'r Caffi yn ffocysu ar thema gwahanol sy'n cael ei archwilio trwy weithgareddau yn cynnwys, barddoniaeth, y celfyddydau a chrefftau, cwisiau a phosau. Cydweithiwn gydag artistiaid lleol a gwirfoddolwyr i ddod â cherddoriaeth fyw ac adloniant i wneud pob sesiwn yn newydd a chyffrous. I sawl un, caffi cof ydi'r un o'r unig gyfleon maent yn ei gael i adael y tŷ. Mae cyfrannwyr yn cael y cyfle i ddarganfod teimlad o gymuned gyda phobl eraill sy'n deall yr hyn maent yn mynd drwyddo.
Trwy ein prosiectau ieuenctid a chymunedol rydym yn cefnogi llawer o bobl ac yn creu profiadau positif ac atgofion wnaiff barhau am byth.
Caffi Atgof
- Mer 4 Maw | 12.30 - 2.30yp
- Mer 1 Ebr| 12.30 - 2.30yp
- Mer 6 Mai | 12.30 - 2.30yp