News Story
Diddordeb mewn dysgu am y menopos?
Eisiau dysgu sut gallwch chi gefnogi eich hun neu eraill yn ystod y cyfnod pontio hwn mewn bywyd?
Mae Theatr Clwyd, Prifysgol Wrecsam a Making Menopause Matter yn lansio grŵp menopos yn y gymuned newydd. Rydyn ni’n creu mannau diogel, cyfeillgar lle gallwch chi gysylltu, rhannu eich profiad, creu a dysgu. Rydyn ni angen eich help chi i ddatblygu sut rydyn ni’n rhedeg, yn rhannu ac yn datblygu’r prosiect hanfodol yma. Byddwch yn rhan allweddol wrth gefnogi eich cymuned a siapio’r hyn y bydd y grŵp yn ei gynnig. Mae’r digwyddiad hwn am ddim i’w fynychu, ac mae croeso i bawb.Nos Lun 15fed Ionawr
6.30 – 8.30pm
Canolfan Daniel Owen
Ffordd yr Iarll, Yr Wyddgrug, CH7 1AP
Edrychwn ymlaen at eich gweld chi yno!
Am fwy o wybodaeth neu os oes gennych chi unrhyw anghenion mynediad e-bostiwch: takepart@theatclwyd.com