News Story
Mae'r Cyweithfa MerseyDee yn rhwydwaith ar gyfer pobl greadigol lawrydd sy'n gweithio ym mhob agwedd ar y celfyddydau perfformio ac ymgysylltu â'r celfyddydau.
Mae’n agored i unrhyw un llawrydd sy’n byw neu’n gweithio’n greadigol ar Benthyn Cilgwri, yng Ngorllewin Swydd Caer, Sir y Fflint, Sir Ddinbych a Chonwy.
Wedi’i lansio gan Cheshire Dance, Storyhouse, Theatre Porto a Theatr Clwyd yn hydref 2024, mae’r Gydweithfa wedi cael ei sefydlu i adeiladu rhwydweithiau a helpu gweithwyr llawrydd i ddod o hyd i gyfleoedd i gynnal eu gyrfaoedd.
Mae am ddim i gofrestru a bydd yr aelodau’n derbyn y canlynol:
- Gwahoddiadau i ‘gynulliadau gweithwyr llawrydd’ arbennig sy’n cael eu cynnal ddwywaith y flwyddyn o leiaf, gydag un o’r sefydliadau arweiniol yn cyflwyno
- Gwybodaeth reolaidd am gyfleoedd swyddi sydd i ddod, ym mhob agwedd ar berfformiad, cefn llwyfan a gweithgarwch ymgysylltu
- Hyfforddiant wedi'i anelu at gefnogi gweithwyr llawrydd i ddatblygu eu gyrfaoedd
- Cyfleoedd i archebu lle mewn cymorthfeydd i gwrdd â’r staff creadigol ym mhob sefydliad arweiniol
- Cynigion tocynnau a chyfleoedd eraill i weld gwaith, gan gynnwys mynediad i ymarferion a gwaith sy'n cael ei ddatblygu
Drwy gydweithio, mae’r pedwar sefydliad arweiniol yn gobeithio y gallant gyflawni’r canlynol:
- Creu gwell ymdeimlad o gymuned artistig ar gyfer gweithwyr llawrydd sy'n byw ac yn gweithio yn yr ardal
- Cadw talent artistig yn y rhanbarth drwy ei gwneud yn haws dod o hyd i gyfleoedd, gwneud cysylltiadau a'i weld fel lle ag amrywiaeth o gyfleoedd artistig
- Bod â gwell cysylltiad ag artistiaid lleol a gweithwyr llawrydd
- Cynyddu sgiliau ac arbenigedd artistiaid yn yr ardaloedd drwy ddarparu cyfleoedd hyfforddi am ddim a / neu gyda chymhorthdal.
Ymunwch nawr!
Gallwch gofrestru yma. Unwaith y byddwch chi wedi cyflwyno eich manylion, byddwch yn derbyn e-bost cadarnhau.
Mae Cyfarfod cyntaf MerseyDee Collective yn cael ei gynnal yn y Storyhouse yng Nghaer ar ddydd Mawrth 21 Ionawr rhwng 2pm a 4pm. Bydd yn gyfle i gwrdd â staff o bob un o’r pedwar sefydliad arweiniol yn ogystal â phobl greadigol eraill.
Mae am ddim i'w fynychu - cofrestrwch yma.
Sefydliadau Cysylltiedig
Mae croeso i sefydliadau eraill sydd â chyfleoedd cyflogaeth rheolaidd i weithwyr llawrydd sy'n gweithio ym maes perfformio ac ymgysylltu ymuno fel sefydliadau cyswllt. Cysylltwch ar exec.support@storyhouse.com
Hyfforddiant
Rydym yn falch o gynnig cyfres o gyrsiau hyfforddi am ddim i aelodau MerseyDee Collective. Dilynwch y dolenni isod i archebu, ond mae'r llefydd yn gyfyngedig felly gall aelodau unigol gofrestru ar gyfer uchafswm o dri chwrs:
Sat 16th Nov, 10am-4pm (arrive 9:45am)
Safeguarding Training for the Dance Sector
Cheshire Dance, Winsford Library
Whether you’re a teacher, artist, workshop leader, practitioner or facilitator, safeguarding is your responsibility, and keeping yourself and your participants safe is your duty. Our Safeguarding Training Workshop is designed to help you understand and feel comfortable and confident about the role of safeguarding in your work.
Led by Jane McLean, Creative Director at Cheshire Dance, the training covers a wide range of subjects within safeguarding and is a valuable CPD opportunity to help you feel empowered and incorporate best safeguarding practice into your work.
If you are a freelance artist, the workshop is free to attend. (If you are employed by an organisation, the cost for the one day workshop is £50.)
Book here
Dydd Iau 28 Tachwedd, 1pm – 3.30pm
Marchnata a Hyrwyddo
Storyhouse, Caer
Fel artist / cwmni llawrydd bydd angen i chi greu deunyddiau marchnata a hyrwyddo cyffrous i hyrwyddo eich gwaith, yn cysylltu yn aml â lleoliadau i sicrhau eich bod yn gallu darparu'r asedau sydd arnyn nhw eu hangen i werthu eich sioe. Ymunwch â thîm marchnata a chyfathrebu Storyhouse i edrych ar sut i roi deunyddiau marchnata a hyrwyddo at ei gilydd ar gyfer eich gwaith, ble i fuddsoddi eich cyllideb a pha leoliadau y mae eu heisiau a’u hangen i helpu i werthu eich sioe.
Archebwch yma
Iau 9 Ionawr, 1pm – 3.30pm
Cyflwyno eich gwaith i bartneriaid, cyllidwyr a chomisiynwyr
Storyhouse, Caer
Fel artist llawrydd byddwch yn aml yn cyflwyno syniad creadigol i raglennydd, cynhyrchydd, Cyfarwyddwr Artistig / Creadigol neu gyllidwr. Ymunwch â ni ar gyfer y sesiwn yma lle byddwn yn edrych ar sut orau i siarad am eich syniad, pa fath o wybodaeth mae sefydliadau a chyllidwyr yn chwilio amdani a beth sy’n amserlenni realistig ar gyfer symud eich gwaith o syniad i brosiect byw.
Archebwch yma
Dydd Iau 23 Ionawr, 1pm - 3.30pm
Cynnwys Plant a Phobl Ifanc yn Eich Prosiectau Creadigol
Theatr Porto, Ellesmere Port
Mae artistiaid llawrydd yn gweithio'n uniongyrchol gyda phlant a phobl ifanc yn aml mewn lleoliadau creadigol, ond sut gallwn ni fynd ati i ganoli eu lleisiau yn ein prosiectau ni? Mae'r sesiwn yma’n canolbwyntio ar arferion gorau ar gyfer cynnwys plant a phobl ifanc yn eich gwaith. Byddwn yn edrych ar enghreifftiau llwyddiannus o amrywiaeth o brosiectau celfyddydol ac yn trafod sut i gymhwyso’r dulliau yma i’ch ymarfer llawrydd eich hun. Os ydych chi’n datblygu prosiect newydd neu eisiau gwella un sy’n bodoli eisoes, bydd y sesiwn yma’n eich helpu chi i greu profiadau mwy cynhwysol ac effeithiol i bobl ifanc.
Archebwch yma
Dydd Iau 6 Chwefror, 1pm - 3.30pm
Codi Arian ar gyfer Artistiaid Llawrydd
Theatr Porto, Ellesmere Port
Gall dod o hyd i'r cyllid cywir newid y gêm i artistiaid llawrydd. Bydd y sesiwn yma’n edrych ar gyfleoedd cyllido allweddol sydd ar gael i weithwyr llawrydd yn sector y celfyddydau. Byddwn yn edrych yn fanwl ar gyllidwyr presennol y celfyddydau, yn rhannu awgrymiadau ar gyfer llunio ceisiadau cadarn, ac yn darparu lle i chi ddod ag unrhyw geisiadau rydych chi wedi'u cyflwyno neu'n gweithio arnyn nhw. Byddwch yn cael y cyfle i dderbyn adborth, trafod eich syniadau gyda chyfoedion, a gadael gyda gwelliannau ymarferol i gryfhau eich siawns o lwyddo. Os ydych chi’n ceisio cyllid ar gyfer prosiect neu gymorth ar gyfer eich ymarfer, mae’r sesiwn yma wedi cael ei chynllunio i’ch helpu chi i ddeall byd codi arian y celfyddydau.
Archebwch yma.
Dydd Iau 13 Mawrth, 1pm - 3.30pm
Gwerthuso Eich Prosiect Celfyddydau Creadigol
Theatr Porto, Ellesmere Port
Fel artist llawrydd, mae gwerthuso'n hollbwysig, boed ar gyfer eich dysg a'ch datblygiad eich hun neu oherwydd eich bod wedi cael cais i werthuso eich gwaith ar ran sefydliad. Yn y sesiwn yma, byddwn yn edrych ar adnoddau ymarferol i’ch helpu chi i asesu eich prosiectau, o osod nodau clir i fesur canlyniadau a chasglu adborth. Byddwch yn dysgu sut i ddeall yr hyn a weithiodd, yr hyn na weithiodd, a sut i gyfathrebu eich canfyddiadau effaith yn effeithiol, fel sail i brosiectau yn y dyfodol neu i ddiwallu anghenion eich cydweithwyr neu gyllidwyr.
Archebwch yma.