News Story
Yn galw ar bob gweithiwr llawrydd o Gymru neu wedi’u lleoli yng Nghymru!
Ydych chi erioed wedi bod eisiau gwybod beth sy'n digwydd y tu ôl i'r llenni yn eich sefydliadau theatr? Os felly, da iawn. Yn Theatr Clwyd, rydyn ni’n credu y dylai pawb sy’n gweithio yn ein diwydiant gael mynediad i’r wybodaeth hon – i’r ystafelloedd hyn, i’r adegau pan mae penderfyniadau’n cael eu gwneud. Felly, rydyn ni eisiau agor ein drysau – a’n llyfrau – i chi. Ein cymuned lawrydd.Bydd Llyfr Agored yn cynnig 15 diwrnod yr un o gysgodi gyda thâl llawn i dri gweithiwr theatr llawrydd a chyfle i weithio gyda’n Cyfarwyddwr Gweithredol a’r Uwch Dîm Arwain.
Chi fydd yn penderfynu pryd a sut cwblheir y 15 diwrnod yma. Rydyn ni eisiau darparu ar gyfer amserlenni llawrydd heriol sy'n newid yn barhaus, nid gweithio yn eu herbyn
Cyflog: £571 yr wythnos
Cynhaliaeth (os oes angen): £181 yr wythnos
Bydd Theatr Clwyd yn talu’r holl gostau teithio
Ar ddiwedd y prosiect, bydd tua £2,000 ar gael i ariannu cynigion / prosiectau wedi’u cynllunio gan y cyfranogwyr eu hunain.
I wneud cais, llenwch y ffurflen gais isod a'i hanfon at people@theatrclwyd.com.
Fel arall, cyflwynwch fideo heb fod yn hirach na 5 munud o hyd yn cwmpasu'r pwyntiau ar y ffurflen gais