News Story
Rydyn ni’n gwahodd pob plentyn a pherson ifanc sydd wrth eu bodd yn canu i ddod i roi cynnig ar ein corau ni!
Byddem wrth ein bodd yn croesawu aelodau newydd i’n corau ieuenctid ni sydd wedi’u lleoli yn yr Wyddgrug.
Mae ein Côr Iau (oddeutu 7-11) yn canu ystod eang o ganeuon gan gynnwys alawon pop, theatr gerdd, caneuon traddodiadol a cherddoriaeth o bedwar ban byd. Does dim angen profiad – dim ond brwdfrydedd.
Mae’r Côr Hŷn (11-18) ar gyfer cantorion mwy profiadol – maen nhw’n dysgu eu caneuon gan ddefnyddio cerddoriaeth ysgrifenedig (er nad oes angen gallu darllen cerddoriaeth). Mae’r ddau gôr yn perfformio rhywfaint o gerddoriaeth yn y Gymraeg ac maen nhw’n wych ar gyfer siaradwyr Cymraeg a dysgwyr.
Mae ymarferion agored y Côr Iau rhwng 4pm a 5pm ar ddydd Mawrth 14eg Mai a dydd Mawrth 21ain Mai yn Adeilad Dewi Sant, Sgwâr Daniel Owen CH7 1AP
Mae ymarferion agored y Côr Hŷn rhwng 4.30pm a 6pm ar ddydd Mercher 15fed Mai a dydd Mercher 22ain Mai yn Neuadd Eglwys y Santes Fair, Stryd y Brenin.
Does dim angen archebu lle – dewch draw am ddim i un neu’r ddau ymarfer agored ac wedyn mae cyfle i gofrestru (mae’r aelodaeth yn £20 am bob hanner tymor).