News Story
Mae Am Ddrama / Play On yn gynllun ar y cyd rhwng Theatr Genedlaethol Cymru, Theatr Clwyd a National Theatre Wales i ddod o hyd i sgriptiau a dramâu newydd a chyffrous gan ddramodwyr sydd wedi eu lleoli yng Nghymru.
Dros y flwyddyn nesaf, bydd Am Ddrama yn galluogi dramodwyr i anfon eu sgriptiau a’u dramâu anghyhoeddedig yn ddienw at banel eiddgar o ddarllenwyr i gael adborth gwerthfawr. Mae’n bosibl y bydd cyfle i’r sgriptiau mwyaf addawol gael eu datblygu, gan baru’r sgript a’r dramodydd gydag un o’r tri sefydliad sy’n fwyaf addas i’w datblygu, ei chomisiynu a’i chynhyrchu.
Yn ystod y broses, bydd y dramodwyr yn cael mynediad at banel eiddgar o ddarllenwyr llawrydd a mewnol, a ddewiswyd gan y tri phartner yn dilyn galwadau agored ym mis Awst 2021 a mis Mai 2022. Mae’r cohort cyntaf o ddarll enwyr wedi eu penodi am y 6 mis cyntaf. Maent yn cynnwys Charles O’Rourke, sydd â chefndir mewn gwaith â llaw, cyfieithu llenyddol ac ymgyrchu cwiar, ac sy’n ddarllenydd sgriptiau i Everyman Playhouse, Lerpwl a Channel 4. Lowri Izzard, a hyfforddwyd yn RADA ac sydd newydd orffen gweithio ar ffilm gomedi nodwedd newydd, sef Brian and Charles, ar gyfer Film4 a BFI. Mary Davies, dramatwrg lawrydd, sydd newydd gwblhau ei Doethuriaeth yn Athrofa Shakespeare a’r RSC. Melangell Dolma, dramodydd, actor a Chydlynydd Datblygu Creadigol gyda’r Theatr Genedlaethol, a Yasmin Begum, o dras Cymreig-Pacistanaidd, sy’n ymgyrchydd, awdur ac ymarferydd creadigol. Ar hyn o bryd mae hi’n gweithio yn Gwasg Honno, y wasg annibynnol hynaf i fenywod yn y Deyrnas Gyfunol. Mae Rahim El Habachi, sy’n Gydymaith Creadigol gyda NTW, ac yn ymgyrchydd dros ffoaduriaid a cheiswyr lloches LHDT+, wedi gweithio gydag Opera Cenedlaethol Cymru a Theatr y Sherman; mae’n berfformiwr ac yn wneuthurwr theatr.
‘Mae’r ddramatwrg Ffion Emlyn yn Gymraes sydd wedi gweithio i’r BBC am dros ugain mlynedd, yn bennaf fel Cynhyrchydd Drama Radio i BBC Radio Cymru. Mae Ffion hefyd wedi gweithio fel Golygydd Sgript a Chynhyrchydd Straeon ar rai o raglenni eraill y BBC, megis Casualty a Pobol y Cwm, ac wedi mwynhau datblygu talentau ysgrifennu newydd dros y blynyddoedd.
Mae Elizabeth Freestone yn gyfarwyddwr theatr, ymgynghorydd creadigol ac amgylcheddwr. Mae wedi cyfarwyddo dramâu ar gyfer y Royal Shakespeare Company, Manchester Royal Exchange, Citizens Theatre Glasgow, y Young Vic a Shakespeare yn y Tobacco Factory, ac eraill. Mae'n gyn Gyfarwyddwr Artistig Pentabus, cwmni teithiol gwaith newydd.
Galwad Darllenwyr: Bydd cyfle i chi fynegu diddordeb rhwng 15fed Mehefin 2022 hyd at 13eg Gorffennaf 2022.
Cyflwyno sgriptiau nad ydynt wedi ei cyflwyno’n flaenorol i un o’r tri sefydliad: Bydd y cyfnod ar gyfer cyflwyno sgriptiau yn cychwyn 29ain Mehefin 2022 hyd at 10fed Awst 2022.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi anfon ebost at post@amddrama-playon.cymru, neu cysylltwch trwy neges llais neu neges destun ar 07908 439417.