News Story
Mae ein hadeilad rhestredig Gradd II, 46 o flynyddoedd oed, yn cael ei ailddatblygu'n sylweddol ar hyn o bryd.
Gan weithio gyda’r penseiri nodedig, Haworth Tompkins, bydd y gwaith hanfodol yma’n sicrhau cartref gwyrdd a chynaliadwy i’n cymunedau ni, gan ddiogelu profiadau diwylliannol, lles a chymunedol o ansawdd uchel yng Ngogledd Cymru ar gyfer cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol.
Fel adeilad diwylliannol a chanolfan gelfyddydol o bwys, bydd celf gyhoeddus yn ganolog i’r prosiect, gyda darnau lluosog yn cael eu rhannu’n barhaol gyda chymunedau.
Rydyn ni’n chwilio am ddatganiadau o ddiddordeb gan artistiaid, crëwyr theatr a thimau dylunio cydweithredol i greu’r gelfyddyd gyhoeddus yma. Rydyn ni eisiau comisiynu celf gyhoeddus sy’n ysbrydoledig ac yn gynhwysol, ac sy’n gwella ein henw da ni fel esiampl o ragoriaeth artistig a chartref i’n cymunedau.
Mae’r cyfleoedd yma’n cael eu cyllido gan ddeddfwriaeth ‘Canran o Gelf’ Cyngor Celfyddydau Cymru.
Rydyn ni’n agored i ffotograffiaeth, celf ddigidol 2D, celf fideo, celf ryngweithiol, paentio, cerflunwaith a gosodiadau. Rydyn ni hefyd yn agored i ddisgyblaethau theatr gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) cynllunwyr, cynllunwyr goleuo, cynllunwyr sain, cynllunwyr taflunio, gwneuthurwyr props, awduron, a gwneuthurwyr gwisgoedd / tecstilau i ymateb i’r alwad hon. Fel artistiaid, pobl greadigol a chrëwyr theatr rydyn ni, wrth gwrs, yn croesawu yn gynnes iawn gydweithredu rhwng disgyblaethau ac artistiaid.
Am Ein Hadeilad
Ar ôl 46 o flynyddoedd, mae angen gwaith cyfalaf mawr ar ein hadeilad rhestredig Gradd II, gyda’r holl systemau’n nesáu at ddiwedd eu hoes a’r cyflwr yn dirywio nes ei fod yn beryglus.
Ar ôl ymgynghori’n helaeth â’r gymuned a gweithio gyda’r penseiri nodedig, Haworth Tompkins, rydyn ni’n dechrau ar gam olaf yr ailddatblygiad mawr a fydd yn darparu profiad llawer gwell i ymwelwyr a chyfleusterau cynhyrchu incwm gwell o fewn adeilad gwyrddach, mwy effeithlon a chroesawgar.Gyda tharged carbon sero sy’n arwain y diwydiant a gofod pwrpasol ar gyfer creu theatr, dysgu, teuluoedd a lles, gan gynnwys adeiladu golygfeydd ar y safle am y tro cyntaf, bydd y prosiect yn “enghraifft o ofod diwylliannol yr 21ain ganrif” (Haworth Tompkins).
Cyfleoedd
Mae gennym ni dri chyfle Galwad Agored ac rydyn ni’n gweithio gyda’r cwmni ymgynghorol arobryn, Studio Three Sixty, i gyflawni’r rhan hanfodol yma o’n hailddatblygiad:
Y tri chyfle yw:
Galwad Agored 1
Comisiwn Iaith Greadigol
Ymateb artistig i iaith a straeon, gan annog pobl i ddod ar draws ac ymgasglu ar draws ein hadeilad newydd.
Galwad Agored 2
Gosod Gwrthbwysau
Gosodiad wedi'i ysbrydoli gan system wrthbwysau wreiddiol y theatr sy'n cael ei newid yn Theatr Anthony Hopkins, sydd wedi'i hachub fel rhan o'r broses adeiladu.
Galwad Agored 3
Llen Ystafell Foyle
Dyluniad ar gyfer llen bwrpasol ar raddfa fawr ar gyfer Ystafell Foyle, “gofod ymgynnull” amlbwrpas sydd wrth galon yr adeilad newydd.
Sut i gael gwybod mwy?
Byddwn yn cynnal sesiwn holi ac ateb ar-lein ac anffurfiol ar gyfer artistiaid a thimau sydd â diddordeb i ofyn cwestiynau ar 3 Tach a 10:30yb. Anfonwch e-bost i studio@studiothreesixty.uk i ymuno â'r sesiwn yma.
Galwad Agored Celf Gyhoeddus - Theatr Clwyd: Cwestiynau Cyffredin
Proses Ddethol
Mae hon yn broses ddethol dau gam.
Cam Un
Bydd y cam cyntaf yn llunio rhestr fer o ymgeiswyr drwy asesiad mynegi diddordeb, gan edrych ar waith blaenorol ac ymatebion cychwynnol i'r briff.
I wneud cais, cyflwynwch y canlynol i studio@studiothreesixty.uk, gan nodi'n glir yn y pennawd pwnc pa Alwad / Galwadau Agored y mae gennych ddiddordeb mewn gwneud cais amdanynt:
- Mynegi diddordeb yn egluro pam yr hoffech gael eich ystyried ar gyfer y prosiect yma ar ddim mwy na dwy ochr A4.
- Hyd at 10 llun o waith diweddar wedi'u cyflwyno fel pdf gyda rhestr ddisgrifiadol yn manylu ar ddisgrifiad byr, dimensiynau, deunyddiau, dyddiadau a chyllideb ar gyfer y gwaith.
- CV diweddar - uchafswm o 2 dudalen.~
- Manylion enw a chyfeiriad e-bost 2 ganolwr, gydag o leiaf un ohonynt yn gallu gwneud sylwadau o brofiad uniongyrchol ar eich ymarfer proffesiynol.
- Eich manylion cyswllt eich hun gan gynnwys cyfeiriad e-bost
- Ni ddylai cyfanswm maint y ffeil fod yn fwy na 6mb.
Cam Dau
Bydd ymgeiswyr Cam 2 yn cael eu dewis ar sail eu mynegi diddordeb gan y Pwyllgor Llywio Celf Gyhoeddus. Bydd yr artistiaid, y crëwyr theatr a’r timau dylunio ar y rhestr fer yn cael eu gwahodd i baratoi dyluniad cysyniad ar gyfer eu cynnig i’w gyflwyno i banel dethol sy’n cynnwys
cynrychiolwyr o Theatr Clwyd, studio three sixty a Phenseiri Haworth Tompkins.Bydd ffi o £750 yn cael ei thalu i bob artist neu dîm i ddatblygu eu dyluniad cysyniad. Bydd angen i artistiaid a thimau sydd â diddordeb fod ar gael naill ai ar y 15fed neu’r 16eg o Ionawr 2024 i gyflwyno eu syniadau Cam Dau i'r panel dethol.
Dyddiadau Allweddol
- Sesiwn Holi ac Ateb Ar-lein:
3 Tach - 10:30yb - Dyddiad cau ar gyfer Cam Un:
6 Tach 2023 - 11:59pm
Lawrlwythiadau
Open Call 1 - Creative Language Commission - Artist Brief (Word Doc)
888 KB DOCXOpen Call 1 - Creative Language Commission - Artist Brief (Pdf)
194 KB PDFOpen Call 2 - Counterweight Installation - Artist Brief (Word Doc)
2.4 MB DOCXOpen Call 2 - Counterweight Installation - Artist Brief (Pdf)
385 KB PDFOpen Call 3 - Curtain - Artist Brief (Word Doc)
1.8 MB DOCXOpen Call 3 - Curtain - Artist Brief (Pdf)
335 KB PDFCymraeg - Open Call 1 - Creative Language Commission - Artist Brief (Word Doc)
889 KB DOCXCymraeg - Open Call 1 - Creative Language Commission - Artist Brief (Pdf)
262 KB PDFCymraeg - Open Call 2 - Counterweight Installation - Artist Brief (Word Doc)
2.4 MB DOCXCymraeg - Open Call 2 - Counterweight Installation - Artist Brief (Pdf)
425 KB PDFCymraeg - Open Call 3 - Curtain - Artist Brief (Word Doc)
1.8 MB DOCXCymraeg - Open Call 3 - Curtain - Artist Brief (Pdf)
386 KB PDF