Rhoddion i dorri pob record gan gyfranwyr yn cefnogi ailddatblygiad Theatr Clwyd.
See dates and times 23 Hyd 2024
News Story
Mae ailddatblygiad Theatr Clwyd wedi codi’r swm uchaf gan theatr yng Nghymru bellach ac wedi derbyn y rhodd unigol fwyaf erioed i sefydliad diwylliannol gan Sefydliad Moondance. Mae'r cyfanswm gan ymddiriedolaethau, sefydliadau a dyngarwch preifat bellach yn fwy na £5.3m.
0 Stars
Dywedodd y Cyfarwyddwr Gweithredol Liam Evans-Ford: Pan rydych chi’n dechrau gweithio tuag at brosiectau o’r maint yma mae’r cyllid sydd ei angen yn aruthrol, yn wir fe gawson ni ein cynghori ar sail cynsail y byddem yn annhebygol o godi llawer mwy na £2m yng Nghymru. Oherwydd y bobl anhygoel sy’n rhan o’r prosiect, a gyda chred a chefnogaeth cyllidwyr o’r radd flaenaf gyda ffocws ar werth byd y theatr, y celfyddydau a gwerth cymdeithasol – nid yn unig y bydd gan ein cymunedau ni leoliad o safon byd, ond hefyd gofod celfyddydol sy’n ailddychmygu beth gallai ac y dylai cartref diwylliannol fod i gymunedau. Rydyn ni’n hynod ddiolchgar i bawb sydd wedi cyfrannu.Executive Director Liam Evans-Ford.
Ymhlith rhai o’r prif roddwyr a’r sefydliadau sy’n dod â buddsoddiad cyllid preifat i Gymru mae Sefydliad Moondance, Sefydliad Garfield Weston, Sefydliad Wolfson, Sefydliad Foyle, Sefydliad Clore Duffield, Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston, Ymddiriedolaeth Backstage a Chronfa Anne Duges San Steffan.
Gan wneud y rhodd breifat fwyaf erioed i sefydliad diwylliannol yng Nghymru o dros £1m, mae cefnogaeth Sefydliad Moondance o Gymru wedi bod yn drawsnewidiol wrth gyflawni gofod newydd sbon ar gyfer cymunedau a phobl ifanc Theatr Clwyd ochr yn ochr â seilwaith hanfodol i leihau ôl troed carbon yr adeilad a’r sefydliad. Bydd y theatr fwy yn cael ei henwi yn Theatr Moondance i ddiolch am y rhodd yma.
Bydd rhodd o £500,000 gan brif ariannwr yn y DU, Sefydliad Garfield Weston, yn sicrhau mynediad i’r celfyddydau i bawb, drwy wella adnoddau creadigol hanfodol. Enw'r ail theatr fydd Theatr Weston. Bydd ystafell bwrpasol i awduron yn cael ei henwi yn Ystafell Awduron Emlyn Williams, ar ôl y dramodydd enwog iawn o Gymru.
Bydd grant Sefydliad Wolfson o £500,000 yn galluogi cyfleusterau o safon byd i bawb ac yn darparu adeilad cynaliadwy drwyddo draw, gyda chyfleusterau cefnogol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. I ddiolch, bydd y cyntedd pren newydd yn cael ei alw yn Gyntedd Wolfson.
Mae cyfraniad cam cynnar preifat o £500,000 gan ddyngarwyr o Ogledd Cymru
wedi bod yn gatalydd hanfodol yn natblygiad y prosiect a sicrhau cyllid preifat ychwanegol. Bydd mannau chwarae dan do ac awyr agored yn cael eu henwi fel cydnabyddiaeth.
Mae Ymddiriedolaeth Backstage wedi gwneud ymrwymiad o £450,000 tuag at Theatr Clwyd fel adnodd diwylliannol blaenllaw i Gymru a bydd un o’r ystafelloedd ymarfer newydd sbon yn cael ei henwi i’w hanrhydeddu.
Mae Sefydliad Foyle wedi rhoi £407,000 i gefnogi Ystafell Foyle, gofod amlddefnydd hygyrch i gymunedau ac ymwelwyr, gan gynhyrchu incwm hanfodol i gefnogi gwytnwch y sefydliad yn y dyfodol.
Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol wedi darparu bron i £250k tuag at wneud ein hadnodd cymunedol mawr sydd o bwys pensaernïol a chymdeithasol ac sy’n adeilad rhestredig Gradd II, yn gyfeillgar o ran mynediad am y tro cyntaf, ochr yn ochr â darn newydd sbon o waith ymgysylltu cyhoeddus cynhwysol sy’n cysylltu treftadaeth ddiwylliannol mewn ffordd newydd a chyffrous.
Mae Sefydliad Clore Duffield wedi ymrwymo £100,000 ar gyfer stiwdio Clore Duffield, gofod sy’n ymroddedig i’r gwaith hanfodol ac arobryn yn Theatr Clwyd gyda phobl ifanc, gan ddarparu cyfleoedd i bawb.
Bydd rhodd Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston o Gymru o £100,000 yn ariannu Stiwdio Colwinston, gofod pwrpasol ar gyfer plant a phobl ifanc agored i niwed.
Gan alluogi allgymorth ledled Gogledd Cymru, mae Stiwdio Anne Duges San Steffan wedi cael cymorth o £100,000 o Gronfa Anne Duges San Steffan.
Sicrhaodd Theatr Clwyd £36,905 o Gynllun Cymunedau Treth Gwarediadau Tirlenwi Llywodraeth Cymru, sy’n cael ei weinyddu gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA). Bydd y grant yn cefnogi mentrau gwyrdd a chynaliadwyedd Theatr Clwyd gan gynnwys wal fyw ar yr adeilad, yn cefnogi bioamrywiaeth, ac mae ar gael i’r gymuned gyfan ei mwynhau wrth ymweld â Theatr Clwyd.
Mae’r prosiect hefyd wedi derbyn cyllid gan Sefydliad Abderrahim Crickmay, Ymddiriedolaeth Elusennol Equity ac Ymddiriedolaeth Oakdale.
Mae ailddatblygiad Theatr Clwyd yn un o brosiectau mwyaf arwyddocaol Cymru yn ddiwylliannol. Bydd y prosiect trawsnewidiol yma’n darparu profiad llawer gwell i ymwelwyr, gofod penodol ar gyfer rhaglenni cymunedol ac ymgysylltu, a gwell cyfleusterau cynhyrchu incwm, i gyd mewn adeilad gwyrddach, mwy effeithlon.