Sara Beer yn ymuno â Ramps Cymru fel Cyfarwyddwr dros Newid
See dates and times 24 Mai 2023
News Story
Mae Ramps Cymru, sef cydweithrediad rhwng pum sefydliad o Gymru i wella cynrychiolaeth pobl anabl, wedi cyhoeddi heddiw mai Sara Beer fydd eu Cyfarwyddwr dros Newid cyntaf. Bydd Sara, sy’n berfformiwr, cyfarwyddwr ac eiriolwr anabledd sefydledig, yn sbarduno Ramps Cymru i greu newid ystyrlon a chynaliadwy i wella cynrychiolaeth pobl anabl (gan gynnwys pobl fyddar, niwroamrywiol a phobl ag anableddau dysgu) ar draws sector theatr prif ffrwd Cymru. Bydd yr uwch benodiad yma’n gweithio ar draws y pum sefydliad partner: Theatr Clwyd, Theatr y Sherman, Celfyddydau Pontio, Theatr y Torch a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.
Dechreuodd Sara ar ei gyrfa actio gyda Chwmni Theatr Graeae, cwmni uchel ei barch, cyn dychwelyd i Gymru a gweithio gyda Chelfyddydau Anabledd Cymru (DAC), gan gefnogi artistiaid anabl ledled Cymru, gweithredu prosiectau a chreu cyfleoedd arddangos. Yn ystod ei chyfnod yno, bu Sara yn cydlynu ac yn cyfarwyddo’r Unusual Stage School, cwmni DAC o berfformwyr byddar, anabl a niwroamrywiol a oedd yn darparu hyfforddiant yn ogystal â chyfleoedd perfformio.
Mae Sara wedi cydweithio â’r dramodydd Kaite O’Reilly ar amrywiaeth o brosiectau, gan gynnwys monologau d gwreiddiol y DU, (National Theatre Wales), fel cyfarwyddwr newydd ar gyfer In Water I'm Weightless, yn perfformio yn Cosy, a’r Unlimited International Commission gan O’Reilly And Suddenly I Disappear, Richard III redux.
Yn ddiweddar mae hi wedi bod yn perfformio gyda National Theatre Wales yn Cost of Living yn Theatr y Grand Abertawe.
0 Stars
Rydw i’n angerddol am greu cyfleoedd i ymarferyddion theatr byddar ac anabl felly mae’n anrhydedd derbyn y rôl fel Cyfarwyddwr dros Newid Ramps Cymru. Rydw i’n edrych ymlaen at weithio gyda’r sector theatr ledled Cymru i greu byd o wahaniaeth.Sara Beer, Cyfarwyddwr dros Newid
Mae’r cam cyntaf yma o newid ar gyfer Ramps Cymru yn cynnwys archwiliadau o bob sefydliad partner, sgyrsiau sector, hyfforddiant ar draws sefydliadau partner, a manylion modelu ar gyfer 5 mlynedd nesaf y rhaglen newid.