News Story
Rydym yn hynod o gyffrous i gyhoeddi y bydd ein Cyfarwyddwr Artistig Tamara Harvey yn ymuno â’r Royal Shakespeare Company fel eu Cyd-Gyfarwyddwr Artistig newydd.
Roedd dyfodiad Harvey i Theatr Clwyd yn 2015, ynghyd â’r Cyfarwyddwr Gweithredol Liam Evans-Ford yn 2016, yn ddechrau ar newid rhyfeddol i theatr gynhyrchu fwyaf Cymru. Mae ffocws y sefydliad ar ddatblygu lleisiau ac artistiaid o Gymru gyda mwy na 50 o premieres byd, llawer ohonynt yn teithio o amgylch Cymru a’r DU, wedi dod â bywiogrwydd newydd i’r lleoliad.
Ochr yn ochr â llwyddiant ar y llwyfan, mae’r newidiadau sylweddol i ddull Theatr Clwyd o weithio gyda’r gymuned, yn ogystal â’r ailddatblygu hanfodol ar yr adeilad, a fydd yn sicrhau bod y sefydliad yn ffynnu am flynyddoedd i ddod, wedi bod yn flaenllaw yn y diwydiant. Roedd y dull deinamig a blaengar hwn o weithredu yn rheswm allweddol i ni gael ei enwi’n ‘Theatr Ranbarthol y Flwyddyn’ The Stage yn 2021.
0 Stars
Mae’r geiriau ‘newid bywyd’ yn cael eu gorddefnyddio ond mae Theatr Clwyd, yn sicr, wedi newid fy mywyd i. Dyma lle dysgais i fod yn Gyfarwyddwr Artistig, lle rydw i wedi dod yn fam, lle rydw i wedi cyfarwyddo rhywfaint o’r gwaith rydw i fwyaf balch ohono, a lle rydw i wedi cael un o berthnasoedd cydweithredol pwysicaf fy ngyrfa gyda'r gwych Liam Evans-Ford. Bydd yn dorcalonnus gadael y tîm yn Theatr Clwyd – crëwyr theatr o safon byd yn ogystal â phobl gwbl hyfryd – ond rydw i’n gwneud hynny gan wybod y bydd ein theatr ni ar ben y bryn yn parhau i fod yn gartref hanfodol i’n cymunedau ni ac yn esiampl ddiwylliannol ragorol i Gymru gyfan.Tamara Harvey
Mae’r llwyddiannau cynhyrchu mawr wedi cynnwys Home, I’m Darling, a enillodd Wobr Olivier, The Assassination of Katie Hopkins, a enillodd Wobr UK Theatre, Mold Riots ar strydoedd yr Wyddgrug gyda chwmni o fwy na 250 o bobl, a’r sioe gyfranogol hynod boblogaidd The Great Gatsby. Agorodd Home, I’m Darling, a gyfarwyddwyd gan Tamara, yn Theatr Clwyd fel cynhyrchiad ar y cyd â’r National Theatre yn Llundain cyn trosglwyddo i’r West End a theithio ledled y DU.
0 Stars
Rydw i wedi bod yn ddigon ffodus i arwain sefydliad celfyddydol mawr gyda Tamara ers dros 6 mlynedd. Yn ystod y cyfnod yma, rydyn ni wedi cymryd camau breision ymlaen i osod ein cymunedau wrth galon yr hyn rydyn ni’n ei wneud, a hyrwyddo artistiaid o Gymru ar bob lefel o gynhyrchu. Byddaf yn gweld eisiau Tamara yn fawr, fel y bydd llawer o bobl eraill, ond mae hi'n gadael sefydliad sydd mewn sefyllfa gadarn ar gyfer y dyfodol. Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at weld beth fydd hi’n ei gyflawni yn ei rôl newydd.Liam Evans-Ford - cyd-Brif Swyddog Gweithredol
0 Stars
Mae’n glod enfawr i arweinyddiaeth Tamara a Liam bod y gwaith a’r dull o weithredu a gyflawnwyd yn Theatr Clwyd bellach yn cael ei geisio gan y sefydliad mwyaf yn y byd theatr ledled y byd. Heb os, bydd colled enfawr ar ôl Tamara, ond mae hi’n gadael gem ddisglair yng nghoron byd y theatr yng Nghymru, a fydd, yn ddi-os, yn denu talentau gorau Cymru, y DU a’r byd.Helen Watson - Cadeirydd Bwrdd Theatr Clwyd