Tamara Harvey yn talu teyrnged i’r cyn Gyfarwyddwr Artistig, Terry Hands, a fu farw heddiw.
See dates and times 4 Chwef 2020
News Story
Gyda thristwch mawr yr ydym yn rhannu’r newyddion am farwolaeth ein cyn Gyfarwyddwr Artistig ysbrydoledig a chwedlonol, Terry Hands.
Gwasanaethodd Terry Hands am 18 mlynedd fel Cyfarwyddwr Artistig Theatr Clwyd (oedd yn cael ei hadnabod ar y pryd fel Clwyd Theatr Cymru) ac, yn ystod y cyfnod hwnnw, sefydlodd ensemble o safon byd, cynhyrchodd gynyrchiadau a enillodd fri rhyngwladol, aeth ati i feithrin rhai o weithwyr creadigol mwyaf blaenllaw y DU ac achubodd y theatr pan oedd bygythiad i’w chau.
Mae Tamara Harvey, Cyfarwyddwr Artistig presennol Theatr Clwyd, wedi talu teyrnged i’w rhagflaenydd:
“Roedd Terry Hands yn un o gewri byd y theatr. A chawr enfawr i Theatr Clwyd. Achubodd y theatr rhag cael ei chau – mae hyn yn wirionedd llwyr, nid gormodiaith – a’i gwarchod rhag toriadau parhaus mewn arian cyhoeddus, gan gadw ein timau creu theatr gyda’i gilydd tra oedd theatrau eraill ledled y wlad yn colli eu rhai hwy. Un o’r pethau rwyf fwyaf edifar yn ei gylch yn broffesiynol yw na chefais i gyfle i weithio ochr yn ochr ag ef, dim ond drwy etifeddu’r sefydliad y gofalodd amdano gydag ymrwymiad mor ddiwyro am ddwy flynedd ar bymtheg. Roedd yn artist gwych, yn ŵr gyda gweledigaeth ac yn llawn ffocws a phenderfyniad, ac – ar yr achlysuron pryd cawsom bryd bwyd gyda’n gilydd – yn ŵr dymunol, beiddgar a doniol tu hwnt.
Aeth ati i feithrin cenhedlaeth o actorion yng Nghymru, gan hyrwyddo dyfnder ac ehangder y dalent yn y wlad hon. Roedd hefyd yn gwbl gefnogol a hael gyda chyfarwyddwyr ifanc a ddaeth i Glwyd i ddatblygu a hyfforddi ymhellach, gan gynnwys yn fwyaf diweddar, Kate Wasserberg, Lora Davies a Phillip Breen.
Pan gyrhaeddais i Theatr Clwyd, cefais fy atgoffa dro ar ôl tro o’r esgidiau anferth yr oedd raid i mi eu llenwi gan bawb arall – ond nid gan Terry, dim un waith. I rywun mor ddychrynllyd o ddeallus ac aruthrol o brofiadol, roedd yn rhyfeddol o wylaidd.
Fe wnes i ofyn iddo unwaith pam nad oedd wedi cyfarwyddo cynhyrchiad o A Midsummer Night’s Dream erioed. “Roeddwn i yno ar gyfer y perfformiad cyntaf o Freuddwyd Peter [cynhyrchiad eiconig Peter Brook gyda’r RSC]. Roeddwn i’n gwybod y noson honno, ar ôl gweld hwnnw, nad oedd unrhyw beth arall i’w ychwanegu.”
Mae gan fyd y theatr yng Nghymru a thu hwnt ddyled enfawr iddo. Bydd chwith mawr ar ei ôl gan bawb a oedd yn ddigon ffodus i fod wedi’i adnabod, boed fel cydweithiwr, mentor neu gyfaill.”
Ymunodd Terry â Theatr Clwyd yn 1997 a thrwy gydol ei 18 mlynedd yng ngofal y theatr cyfarwyddodd rai o’r dramâu gorau gan ddramodwyr gorau’r byd, gan gynnwys gweithiau gan Shakespeare, Ayckbourn, Dylan Thomas, Tom Stoppard, Arthur Miller, Arnold Wesker a Noël Coward.
Ymhlith ei gynyrchiadau mwyaf nodedig yn y theatr mae Macbeth gydag Owen Teale, Nicol Williamson yn y brif ran yn King Lear, Arcadia gan Tom Stoppard, Mary Stuart oedd yn cynnwys ei ferch Marina Hands, y cynhyrchiad nodedig o Under Milk Wood gydag Owen Teale yn dychwelyd ac, i gloi, ei gynhyrchiad olaf ar gyfer y theatr yn 2015, Hamlet, gyda Lee Haven-Jones.