Deg digwyddiad fyddwch chi ddim eisiau eu colli yn Theatr Clwyd yn Nhymor yr Haf / Hydref
See dates and times 13 Ebr 2023
News Story
Mae’r sioe fudr, ddoniol, heb ffilter yma’n dilyn siwrnai ddi-drefn Cymraes tuag at fod â dim i’w golli. Phoebe Waller-Bridge, Fleabag, a fydd yn cael ei haddasu i’r Gymraeg a’i pherfformio ledled Cymru. Mae’r cynhyrchiad, sy’n seiliedig ar y gwreiddiol, wedi cael ei ail-leoli yn Lerpwl a Gogledd Cymru. Mae wedi’i addasu gan yr awdur o fri o Gymru, Branwen Davies (Dirty Protest ac Os Nad Nawr) a bydd yn cael ei berfformio gan Leah Gaffey (A Midsummer Night’s Dream, Theatr y Sherman) a’i gyfarwyddo gan Sara Lloyd (Nyrsys, Theatr Genedlaethol Cymru). Bydd y cynhyrchiad yn teithio o amgylch Cymru, gyda’r lleoliadau a’r dyddiadau i’w cyhoeddi, cyn y perfformiad terfynol yn Theatr Clwyd.
27-30 Sep | Archebwch Nawr
Mae comedi ar y llwyfan y tymor yma gyda The Importance of Being…Earnest, mae hwn yn fersiwn annisgwyl o un o hoff glasuron comedi’r byd.
5-7 Hydref |Archebwch Nawr
Mae FaithHealer (12-16 Medi) gan yr awdur o Iwerddon, Brian Friel, yn ddrama am iachäwr sy'n dechrau colli ei bwerau.
Maen nhw eisiau eiliad gyda Frank, y perfformiwr mawr sy'n cynnig gobaith ac iachawdwriaeth. Oherwydd mae gan Frank ddawn. Dawn i iachau.
12-16 Medi |Archebwch Nawr
Mae ein panto roc a rôl arobryn yn ôl – yn fwy ac yn fwy trawiadol nag erioed! Sleeping Beauty. Wedi’i ysgrifennu gan Christian Patterson (Robin Hood, Beauty & The Beast) o Gymru, ymunwch â ni am y caneuon roc, pop a soul gorau, ffrogiau ffrils, setiau syfrdanol a’r pypedau panto anarchaidd. Am un flwyddyn yn unig bydd ein sioe mewn pabell syrcas enfawr, wedi’i gwresogi drws nesaf i’r theatr. Peidiwch â cholli panto teuluol y degawd!
30 Tach - 6 Ion |Archebwch Nawr
Yn arddangos yr awduron gorau o Gymru, mae Truth or Dare yn ddeg drama newydd sbon i’ch tanio chi ac achosi direidi.
Mae Truth yn bump o ddramâu pryfociol i’ch tanio chi. Cyfrinachau a chelwyddau pan fydd y goleuadau wedi’u diffodd. Ydych chi eisiau eu clywed? Allwch chi ymdopi? 27 Ebr - 13 Mai | Archebwch Nawr
Mae Dare yn bump o ddramâu direidus sy’n gofyn beth sy'n gwneud i chi wylltio. Troelli'r botel, mentro'r cyfan. Fyddwch chi’n meiddio gwylio? 28 Ebr - 13 Mai | Archebwch Nawr
Dyma ail gyfle i weld y cynhyrchiad y gwerthwyd pob tocyn iddo yn flaenorol, The Great Gatsby, wedi’i greu gan Theatr Clwyd a The Guild Of Misrule. Gwahoddir y gynulleidfa i barti gwyllt gorau erioed y 1920au! Gwisgwch i fyny a dawnsio drwy'r nos yn Nhafarn y Dolphin yn yr Wyddgrug yr haf yma. Mae'r perfformiad agos-atoch-chi yma’n eich rhoi chi wrth galon y gweithgarwch wrth i chi symud o gwmpas y gofod.
15 June - 27 Aug | Archebwch Nawr
The Adventures of Little Red Hen - Mae gwneud bara yn waith caled, ond byddai'n llawer haws pe bai anifeiliaid diog y buarth yn codi oddi ar eu soffas ac yn rhoi help llaw! Ymunwch â’n iâr fach ddewr ni wrth iddi ddod o hyd i'w ffordd ei hun o wneud pethau.
Addasiad egnïol o'r stori hoffus yma, yn cynnwys cyfuniad syfrdanol o bypedau gwych, cerddoriaeth fyw a chomedi bythgofiadwy.
23-24 Sep | Archebwch Nawr
Gŵyl Gelfyddydau i Deuluoedd -Cadwch y Dyddiad!
Yn llawn hwyl a mwynhad i’r teulu cyfan, i gael gwared ar unrhyw ddiflastod, mae’r Ŵyl Gelfyddydau i Deuluoedd yn ôl. Ymunwch â ni ar gyfer gweithgareddau teuluol rhad yr haf yma ym Mharc hardd Gwepra gyda sioeau, gweithdai a llawer o hwyl. Rhaid archebu lle yn gynnar! Y cynnwys i’w gyhoeddi yn fuan ...
8-9 Gorff |Archebwch Nawr
Mae’r tymor clasurol yn ymestyn ar draws Theatr Clwyd a’i chwaer ganolfan yn Wrecsam, Neuadd William Aston, gan gynnwys perfformiadau gan Tabea Debus (recorder), Toby Carr(lute) a Sam Stadlen(Gamba) (7 Meh), Sinfonia Cymru a’r feiolinydd Max Baillie (25 Mehefin) a’r acordionydd Samuele Telari (27 Awst). Bydd y pianydd Llŷr Williams (29 Hyd) a’r Skampa Quartet (19 Tach) yn chwarae yn Neuadd William Aston fel rhan o’r tymor clasurol.
Fel erioed mae Clwb Comedi Theatr Clwyd (17 Jul/ 23 Jul/ 10 Sep/ 8 Oct) yn rhoi llwyfan i rai o’r digrifwyr gorau ar y gylchdaith. Rydyn ni hefyd yn lansio Clwb Comedi Cymraeg (26 Mehefin/17 Medi) y tymor yma. Mae Neuadd William Aston yn cynnal ei chlwb comedi cyntaf hefyd, sef Clwb ComediWilliam Aston (26 Tach) gyda seren Live At The Apollo, Nick Helm.